YR wythnos hon cyhoeddir cyfrol glawr caled hardd, sef y casgliad cyflawn o holl gerddi hysbys un o feirdd amlycaf a mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, T. H. Parry-Williams.

Meddai Bleddyn Owen Huws, golygydd Cerddi T. H. Parry-Williams: Y Casgliad Cyflawn 1907–1975: “Wrth weithio ar fy nghyfrol Pris Cydwybod: T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr (Y Lolfa, 2018), daeth yn amlwg i mi ei bod yn hwyr glas i rywun fynd ati i lunio casgliad cyflawn o holl gerddi hysbys Syr Thomas Herbert Parry-Williams am nad oedd holl gynhyrchion ei awen wedi eu casglu na’u cyhoeddi mewn un gyfrol.”

Yn ogystal â'r canon cyhoeddedig swyddogol o gerddi Cymraeg a Saesneg y bardd, mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys nifer o gerddi cynnar na chawsant eu cyhoeddi mewn unrhyw gasgliad gan y bardd ei hun, yn ogystal â rhai cerddi nad ydynt erioed wedi ymddangos mewn print o'r blaen, er enghraifft y gerdd hir a gyflwynodd y bardd i gystadleuaeth y Newdigate Poetry Prize ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1910, a'r soned orchestol yn llawn ebychiadau amlieithog a gyfansoddodd i ddiolch am sigârs yn rhodd.

Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys rhagymadrodd ac ystod diddorol o nodiadau golygyddol a chefndirol.

Meddai Bleddyn: “Rwy'n gobeithio y bydd gweld y cyfan gyda’i gilydd fel hyn yn peri i’r rhai sydd eisoes yn gyfarwydd â’i waith, ac sy’n gallu dyfynnu’n helaeth ohono, weld ei ddisgleirdeb mewn goleuni cwbl newydd.

“A gobeithiaf hefyd y bydd y darllenwyr hynny a fydd yn troi at ei farddoniaeth am y tro cyntaf yn gallu ymgolli’n lân yng ngwaith un o’n beirdd gorau.”

Bydd Cerddi T. H. Parry-Williams: Y Casgliad Cyflawn 1907–1975 yn cael ei lansio’n swyddogol ar ddydd Mawrth, 8fed o Ragfyr am 3:30yp yn y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd Cerddi T. H. Parry-Williams 1907–1975: Y Casgliad Cyflawn yn cael ei lansio’n swyddogol ar ddydd Mawrth, 8fed o Ragfyr am 3:30yp yn y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Cerddi T. H. Parry-Williams 1907–1975: Y Casgliad Cyflawn a olygwyd gan Bleddyn Owen Huws ar gael nawr (£30, Y Lolfa).