YN dilyn cystadleuaeth ar y cyd gyda rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, mae Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2027 wedi penderfynu mai Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd fydd enw swyddogol prifwyl y flwyddyn nesaf.
Derbyniwyd dros 250 o geisiadau amrywiol fel rhan o’r gystadleuaeth, a bu’n dipyn o waith i ddewis rhestr fer o’r holl geisiadau ddaeth i law. Yn y pendraw, Maldwyn Meirionnydd aeth a hi, gan ei fod yn syml ac yn disgrifio rhan helaeth o’r dalgylch.
Meddai Is-gadeirydd Strategol y Pwyllgor Gwaith, Heulwen Davies: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb i Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd y flwyddyn nesaf!
“’Doedd dewis enw ar gyfer yr ŵyl ddim yn hawdd, ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb am eu holl awgrymiadau. Roedd ‘na rai enwau hynod o greadigol, ond doedden nhw ddim yn gweithio fel enw i’r ŵyl, ac eraill yn hyfryd ond yn rhy blwyfol, a ddim yn adlewyrchu’r dalgylch.
“Felly, ar ôl cryn drafod, cytunwyd ar Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd, yn y gobaith y bydd pawb yn gwybod yn syth ble mae’r Eisteddfod am gael ei chynnal y flwyddyn nesaf! Diolch i bawb am ymgeisio, a llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr.”
Bydd yr enw’n cael ei gyhoeddi ar raglen Aled Hughes fore Mawrth, 21 Ebrill. Cafodd yr enw buddugol ei gynnig gan ddau berson, Arwel Jones a Nest Evans, a bydd y ddau’n derbyn tocyn wythnos i Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd y flwyddyn nesaf.
Cynhelir seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd yn Llanidloes am 15:00 ddydd Sadwrn 9 Mai, yn dilyn gorymdaith Orseddol a chymunedol drwy’r dref a fydd yn cychwyn o Ysgol Uwchradd Llanidloes am 14:00.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.