Heddiw, cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol a Llywodraeth Cymru fframwaith strategol sy’n cryfhau a chydlynu’r gwaith o sicrhau gwaddol parhaol, gan ddod ag amrywiaeth eang o bartneriaid allweddol at ei gilydd.

Fel mae pob Eisteddfod flynyddol yn adlewyrchu hunaniaeth unigryw ei chymuned leol, mae’r amcanion gwaddol hefyd yn esblygu o le i le wrth i’r ŵyl deithio ar hyd a lled Cymru.

Mae’r gwaddol yn cwmpasu’r hyn a gaiff ei wireddu yn enw’r Eisteddfod cyn, yn ystod ac ar ôl yr ŵyl, ar draws meysydd fel addysg, cymuned, cynhwysiant, arloesi digidol, diwylliant, yr economi, gwirfoddoli a’r Gymraeg.

Mae’r fframwaith yn sefydlu strwythurau lleol a chenedlaethol clir i sicrhau bod y gwaith gwaddol yn cael ei gyflawni’n strategol, gan uno partneriaid sydd ag arbenigedd mewn meysydd megis datblygu cymunedol, cynllunio ieithyddol a datblygu economaidd.

Bydd gan fwrdd prosiect cenedlaethol orolwg strategol o’r cyfan, gan osod cyfeiriad a darparu arweiniad fel bod arfer da yn cael ei rannu ac yn parhau o flwyddyn i flwyddyn. Bydd grŵp llywio yn arwain y gwaith ar lawr gwlad, gan ddatblygu strategaethau, a gweithredu fel catalydd i sbarduno newid.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford: “Mae’r Eisteddfod yn fwy na gŵyl wythnos o hyd. Mae'n brosiect sy’n cymryd dwy flynedd i’w gynllunio sy'n gadael gwaddol cryf i'r Gymraeg a'r diwylliant yn yr ardal. Yn unigryw i Gymru, mae'n cynnig cyfle gwerthfawr i ddathlu ein hiaith drwy lenyddiaeth, cerddoriaeth, celf a diwylliant a chymaint mwy.

"Rwy'n falch o gefnogi'r fframwaith hwn. Trwy ddod â phartneriaid o sectorau allweddol at ei gilydd, mae'n annog y cydweithrediad sydd ei angen i greu newid gwirioneddol a pharhaol i'n cymunedau ac i'r Gymraeg.

“Mae partneriaethau fel hyn yn ganolog i'n huchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a sicrhau bod yr iaith yn parhau i ffynnu. Rwy’n diolch i'r Eisteddfod am gyhoeddi'r fframwaith, a'r partneriaid a fydd yn helpu i gyflawni'r gwaddol dros y blynyddoedd i ddod."

Ychwanegodd Nic Parry, Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli: “Mae’r fframwaith hwn, a’r bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, yn gosod sylfaen llawer cryfach ar gyfer cydweithio strategol yn lleol ac yn genedlaethol.

“Mae’n ein galluogi i wireddu uchelgais rydym ni fel dau gorff cenedlaethol wedi ei rhannu ers amser maith: gyrru cynllunio ieithyddol drwy lens yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Ac mae’n gosod yr Eisteddfod fel modd allweddol i hybu economi’r ardal a chefnogi ein nod o sicrhau cymunedau cryf a hyfyw i’r genhedlaeth nesaf.”

Caiff rhagor o wybodaeth am y fframwaith ei rhyddhau dros haf 2026, gyda’r aelodaeth o’r bwrdd cenedlaethol yn cael ei chyhoeddi erbyn canol Mehefin.

Yn ystod wythnos yr ŵyl, cynhelir sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod y Garreg Las i drafod y gwaddol ac i gasglu tystiolaeth leol o ardal Eisteddfod 2026. Bydd y dystiolaeth hon yn llywio’r cynlluniau cychwynnol ar gyfer 2027 a 2028.