MAE mwy nag ugain mil o bobl bellach yn dysgu Cymraeg, yn ôl data newydd a gyhoeddwyd heddiw ddydd Mawrth gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Cwblhaodd 20,445 o unigolion gyrsiau’r Ganolfan yn ystod 2024-2025 – y nifer uchaf erioed – sy’n gynnydd o 61% ers y cyhoeddiad data cyntaf yn 2017-2018.
Mae’r ffigwr yn gynnydd o 12% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol (18,330 yn 2023-2024).
Mae’r twf yn adlewyrchu dull strategol y Ganolfan o ddarparu gwasanaethau Dysgu Cymraeg.
Mae rhaglenni hyblyg wedi’u teilwra ar gyfer cynulleidfaoedd penodol, ochr yn ochr â chyrsiau cymunedol helaeth, sy’n creu mwy o gyfleoedd i ddysgu a defnyddio’r iaith.
Mae pobl sy’n dysgu drwy’r gwaith bellach yn cynrychioli 39% o’r holl ddysgwyr (8,370), gan adlewyrchu’r ehangu sylweddol yn narpariaeth y Ganolfan ar gyfer sectorau allweddol megis Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweithlu Addysg.
Mae’r ffocws yma ar weithluoedd wedi arwain Estyn i ddisgrifio’r Ganolfan “yn un o gonglfeini mentrau cynllunio ieithyddol yn y gweithle.” Mae mwy o bobl yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, gan gryfhau capasiti dwyieithog mewn gweithleoedd.
Mae’r mwyafrif o ddysgwyr, sef 17,350 o unigolion (84% o’r holl ddysgwyr a nododd eu dyddiad geni), rhwng 16 a 64 oed. Ar yr un pryd, mae cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg.
Yn ystod 2024-2025, roedd 4,110 o ddysgwyr rhwng 16 a 24 oed – cynnydd o 56% o’i gymharu â 2023-2024, a chynnydd sylweddol o 483% ers 2018-2019, pan gyhoeddodd y Ganolfan ddata am oedran dysgwyr am y tro cyntaf. Bryd hynny roedd 705 o ddysgwyr yn y grŵp oedran 16-24.
Yn ystod 2024-2025 gwnaeth dysgwyr hefyd ddwysáu eu dysgu drwy gwblhau 34,960 o weithgareddau dysgu, sef cynnydd o 12% o’i gymharu â 2023-2024.
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:“’Dyn ni’n falch iawn o’r ffigurau diweddaraf hyn, sy’n dangos twf cyson a chadarn yn niferoedd y bobl sy’n dysgu Cymraeg.
“Mae’r ffigurau’n adlewyrchu cynllunio strategol y Ganolfan a’r ffordd mae’n defnyddio ei harbenigedd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd – yn enwedig yn y gweithle – sy’n cefnogi ein nod o greu mwy o siaradwyr Cymraeg.
“’Dyn ni’n arbennig o falch o weld cynnydd yn y bobl ifanc sy’n cwblhau ein cyrsiau. ’Dyn ni wedi datblygu darpariaeth benodol ar gyfer y grŵp oedran yma, ac mae ein partneriaethau â sefydliadau fel yr Urdd yn creu cyfleoedd newydd i bobl ifanc ledled Cymru.
“’Dyn ni’n falch iawn o bob un o’n dysgwyr, sy’n frwdfrydig ac yn awyddus i ddefnyddio’u Cymraeg, ac o’r 500 a mwy o diwtoriaid ymroddedig sy’n eu cefnogi mewn cymunedau a gweithleoedd drwy’r wlad. Edrychwn ymlaen at groesawu llawer mwy o bobl at y Gymraeg, a’u cefnogi ar hyd pob cam o’u taith iaith.”
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n gyfrifol am bob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg.
Mae’r Ganolfan yn gweithio gydag 10 darparwr cyrsiau sy’n cynnal cyrsiau ar ei rhan.
Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnal cynllun ‘Cymraeg Gwaith’ sy’n darparu cyrsiau wedi’u hariannu’n llawn, mewn gweithleoedd.



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.