Ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn (dydd Sadwrn, 23 Mai) cyflwynwyd Medalau i Katie Baddiley a Caerwyn Saunders, enillwyr Prif Gystadlaethau’r dysgwyr 2026.

Dyfarnwyd Medal Bobi Jones (19-25 oed) i Katie Baddiley yn wreiddiol o Nottingham sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon, a Medal y Dysgwyr (Bl.10 ac o dan 19 oed) i Caerwyn Saunders o Dreorci.

Nod cystadlaethau Medal Bobi Jones a Medal y Dysgwyr yw gwobrwyo unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg, sy’n ymfalchïo yn eu Cymreictod ac yn gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg.

Y beirniaid ar gyfer y ddwy wobr eleni oedd Eirian Wyn Conlon a Francesca Sciarrillo. Francesca oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019, pan oedd Eirian yn un o’r beirniaid.

Noddwyd y ddefod gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol sydd hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol i ddysgwyr ar hyd y Maes heddiw, ar ddiwrnod dathlu dysgwyr yr Urdd.

Medal Bobi Jones

Mae Medal Bobi Jones yn cael ei dyfarnu i unigolyn 19-25 mlwydd oed sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu’r iaith, yr effaith mae dysgu’r Gymraeg wedi ei gael ar eu bywydau, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Mewn cystadleuaeth o safon anhygoel, gyda 7 ymgeisydd a ‘phob un yn ysbrydoliaeth’ yn ôl y beirniad, Katie Baddiley ddaeth i’r brig, o drwch blewyn.

Dechreuodd Katie ddysgu Cymraeg yn 2023 pan symudodd i Fangor i astudio yn y Brifysgol. Mae'n Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) ac yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn Nyffryn Nantlle.

Mae hi wedi newid cyfrwng iaith ei bywyd yn llwyr mewn amser byr, ac yn awyddus i helpu dysgwyr eraill ar eu taith.Dywedodd:

“Dwi’n teimlo’n gryf y dylai unrhyw un sy’n gweithio mewn ardal Gymraeg efo’r cyhoedd ddangos parch drwy ymdrechu i siarad Cymraeg gyda nhw.

“Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fynychu cwrs yn Nant Gwrtheyrn ac i ddysgu Cymraeg drwy fy ngwaith. Dwi’n mwynhau canu yn y Gymraeg gyda Chôr Heddlu Gogledd Cymru. Hoffwn fagu plant sy'n rhugl yn y Gymraeg un diwrnod ac efallai ysgrifennu colofn yn y Gymraeg yn fy mhapur bro lleol.”

Dyfarnwyd Caitlin Brunt o’r Drenewydd yn ail a Georgia Jones o Wrecsam yn drydydd.

Medal y Dysgwyr

Mae hi'n 40 mlynedd ers cyflwyno Medal y Dysgwyr am y tro cyntaf, yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen 1986.

Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei dyfarnu i berson ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 mlwydd oed sy’n gallu dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.

Dywedodd y beirniaid fod yr ymgeiswyr i gyd yn “llysgenhadon arbennig i’r iaith Gymraeg, ac mae’n deg dweud ei bod hi’n ddiogel yn nwylo'r ymgeiswyr hyn.”

Caerwyn Saunders o Dreorci ddaeth i’r brig. Mae Caerwyn yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Treorci ac yn aelod brwd o’r Urdd sy’n gwirfoddoli ac yn cystadlu yn aml mewn Eisteddfodau. Mae’n Gadeirydd y Criw Cymraeg yn yr ysgol, ac yn falch iawn o fod yn llysgennad ysgol i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dywedodd: “Mae’r Urdd wedi agor drws i fyd hollol newydd i fi a dwi wedi bod yn lwcus i gael fy ysbrydoli gan athrawon anhygoel bob dydd yn yr ysgol yn Nhreorci, yn enwedig Mrs James, sy’n rhoi popeth er mwyn codi statws y Gymraeg yn yr ysgol. Hoffwn fod yn athro Cymraeg yn y dyfodol – i ysbrydoli eraill i gadw’r iaith yn fyw.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb – a dyma’r neges dwi’n benderfynol o’i lledaenu.”

Dyfarnwyd Jayden Reaney o Gaer yn ail ac Effie Capstick o Gaergybi yn drydydd.

Rhoddir Medal Bobi Jones gan Aelwyd / Capel Cildwrn a rhoddir Medal y Dysgwyr gan Bwyllgor Cronfa Eisteddfod Genedlaethol 1957.