DADORCHUDDIWYD Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 heno mewn digwyddiad arbennig yn Oriel Môn, Llangefni.

Siôn Edwards o Lanfaelog, Ynys Môn yw’r saer sy’n gyfrifol am Gadair yr Eisteddfod eleni, a hynny’n seiliedig ar ddyluniad y pensaer Rhiannon Williams o gwmni DEWIS Architecture, gyda nawdd Cymdeithas Amaethyddol Môn.

Mae’r Goron yng ngofal y gemydd a ddaw yn wreiddiol o Lanfairpwll, Myfanwy Jones, diolch i nawdd gan Eiddo Cyf, Caergybi, sef cwmni gosod a gwerthu tai lleol.

Daeth dau ben ynghyd i greu’r gadair eleni, gan ddechrau gyda dyluniad cysyniadol y pensaer o Gaerwen, Rhiannon Williams. Roedd ei dyluniad yn seiliedig ar y thema ‘afonydd i’r môr’, ac yn rhoi sylw i felinau gwynt yr ynys hefyd. Wedi hynny pasiwyd y baton i Siôn Edwards, saer coed y mae Rhiannon yn edmygu ei waith yn fawr.

Rhiannon Williams o gwmni DEWIS Architecture
Rhiannon Williams o gwmni DEWIS Architecture (Urdd)

“Pan glywes i beth oedd thema dyluniad Rhiannon ro’n i wedi cyffroi,” meddai Siôn Edwards, sy’n gyn-athro Dylunio a Thechnoleg a bellach yn gweithio fel saer ar ei liwt ei hun.

“Un o’m prif ddiddordebau i ydi pysgota, a dwi hefyd wedi sefydlu Cymdeithas Cadwraeth Cefni rai blynyddoedd yn ôl er mwyn gwella ansawdd yr afonydd yma ym Môn, felly roedd ‘afonydd i’r môr’ yn sicr wedi tanio brwdfrydedd!”

Yn ogystal â physgota, mae Siôn yn angerddol am greu dyluniadau cynaliadwy a hirhoedlog. “Ro’n i’n benderfynol o ffeindio coed cynaliadwy lleol o ansawdd, ac yn y diwedd, ar ôl chwilio a chwilio, fe weles i goeden onnen wedi ei melino draw yng Nghwm Cynfal, ger Blaenau Ffestiniog, ac ro’n i’n gwybod y byddai’n berffaith ar gyfer y gadair.”

Mae holl gymalau’r gadair i’w gweld fel nodwedd addurniadol, ac hefyd fel bod modd eu hadfer a’u hatgyweirio yn y dyfodol petai angen, ond mae hanes o’r gorffennol yn perthyn i’r gadair hefyd.

Logo Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 ar y gadair
Logo Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 ar y gadair (Urdd)

“Mae yna hanes lleol arbennig iawn i bren cymalau’r gadair,” esbonia Siôn. “Mae criw o wirfoddolwyr o Rosneigr wedi cario hen fad achub yn ôl i’r pentref yn ddiweddar i’w harbed rhag cael ei llosgi, cwch o’r enw Thomas Lingham y 4ydd. Fe adawodd y pentref yn 1924, ac mae’n bosib i’r cwch fod yno yn ystod cyrch D-Day ar draethau Normandie.

“Fe ddaeth un o’r criw o wirfoddolwyr a sampl o bren y cwch i mi, i weld a fyddai gen i ddiddordeb ei hatgyweirio. A dyma’r pren dwi wedi ei ddefnyddio i wneud lletem, neu wedges y gadair. Felly mae rhan fach o hanes rhyfeddol y bad achub o Rosneigr bellach yn rhan o gadair Eisteddfod Môn hefyd.”

Myfanwy Jones gyda'r goron yn ei gweithdy
Myfanwy Jones gyda'r goron yn ei gweithdy (Urdd)

Y gemydd Myfanwy Jones sydd wedi dylunio Coron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026. Ar ôl cwblhau gradd mewn Dylunio Gemwaith ym mhrifysgol Central Saint Martin yn Llundain, bu Myfanwy yn byw a gweithio yn y brifddinas am bymtheg mlynedd, cyn dychwelyd yn ôl i Ynys Môn yn 2022.

“Dwi’n mwynhau bod yn ôl adra, ac mae’n wych cael y cyfle i ddylunio Coron Eisteddfod yr Urdd - dwi erioed wedi dylunio coron o’r blaen!” meddai Myfanwy, sy’n creu gemwaith yn defnyddio’r dull arbenigol cerfio cwyr, ac sydd wedi dylunio llawer o emwaith ar gyfer ffilm a theledu, yn ogystal â gweithio ar gomisiynau gemwaith cain yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Cyn dechrau dylunio nes i roi poll ar Instagram i holi beth oedd yn dod i feddyliau pobl wrth iddyn nhw feddwl am Ynys Môn, a’r ateb mwyaf poblogaidd oedd y traethau. Wedyn fe fues i’n gwneud ymchwil i draethau a symbolau Celtaidd yr ynys, felly mae’r rhain i gyd yn themâu cryf yn nyluniad y goron.”

Coron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026
Coron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 (Urdd)

Mae’r goron eleni wedi ei gwneud o bres, ac mae arni ddwy garreg opal a darnau bach o garreg jâd, gyda defnydd melfed gwyrdd ar y tu mewn; y cyfan yn adleisio lliwiau traethau’r ynys.

“Dwi’n edrych ymlaen at weld ymateb pobl i’r goron, ac at fynd i’r Eisteddfod hefyd,” meddai Myfanwy. “Yn ddiweddar fe wnes i ddod o hyd i fedalau wnes i ennill yn yr Urdd wrth ganu gyda’r côr pan yn yr ysgol! Mi fydd yn braf iawn bod ar y maes yn fy milltir sgwâr, a gweld pwy sy’n ennill y goron.”

Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydol, Urdd Gobaith Cymru: “Mae Ynys Môn wrth galon Cadair a Choron yr Urdd eleni; mae eu cysylltiad â’r ynys i’w weld a’i deimlo ym mhob manylyn bach, o’r dyluniadau a’r deunyddiau i’r straeon a’r hanes sy’n rhan annatod ohonynt.

“Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at wythnos yn Eisteddfod, gan obeithio y bydd enillwyr yn cipio’r Gadair a’r Goron. Diolch o galon i’r crefftwyr talentog, y pwyllgorau a’r noddwyr am eu gwaith di-flino a’u cefnogaeth hael.”

Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 ar Gae Sioe Môn, rhwng Sadwrn 23 Mai a Gwener 29 Mai. Bydd seremoni’r Cadeirio yn cael ei gynnal ar ddydd Iau’r Eisteddfod ac yn cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans. Cynhelir seremoni’r Coroni ar ddydd Gwener yr ŵyl diolch i nawdd gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Mae’r Urdd hefyd yn diolch i noddwyr prif wobrau a phrif seremonïau eraill yr ŵyl, sef:

  • Dydd Sadwrn: Medal y Dysgwyr (rhoddir gan Bwyllgor Cronfa Eisteddfod Genedlaethol 1957) a Medal Bobi Jones (rhoddir gan Aelwyd / Capel Cildwrn). Noddir y seremoni gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg.
  • Dydd Llun: Y Fedal Gelf (rhoddir er cof am Andrew Southall) ac Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc (rhoddir y tlws er cof am Owen a Manon Griffiths, ac Ysgoloriaeth Dr Dewi Davies). Noddir y seremoni gan Gronfa Elw William Park Jones.
  • Dydd Mawrth: Y Fedal Gyfansoddi (rhoddir gan Rheinallt a Rowenna Thomas, Caerdydd - Llanfairpwll a Phorthaethwy gynt). Noddir y Seremoni gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.
  • Dydd Mercher: Y Fedal Ddrama (rhoddir er cof am Audrey Mechell).