DOEDD “dim diddordeb” gan y cyn-brif weinidog Mark Drakeford mewn gyrfa ym myd gwleidyddiaeth pan yn iau.
Dyna un o’r cyfrinachau i gael eu datgelu yn y gyfres newydd o Cyfrinachau’r Llyfrgell wrth i’r Llyfrgell Genedlaethol agor ei drysau unwaith yn rhagor i rai o sêr mwyaf Cymru.
Mae’r rhaglen wedi dychwelyd am ail gyfres ar S4C gyda phedwar o bersonoliaethau adnabyddus Cymru yn darganfod trysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Y cyn-Brif Weinidog oedd yn y gyntaf are nos Fawrth ( S4C Clic a BBC iPlayer).
Bydd yr actores Y Fonesig Siân Phillips, y cyn-chwaraewr rygbi Scott Quinnell a’r awdures Caryl Lewis hefyd yn datgelu straeon rhyfeddol o hanes Cymru.
Ond yn y bennod gyntaf, Mark Drakeford oedd â’r fraint o gamu i “gof y genedl” yn Aberystwyth, wrth iddo baratoi i ymddeol fel aelod o’r Senedd ar ôl 15 o flynyddoedd.

Wrth i’r AS dros Orllewin Caerdydd gyflwyno i’r archif rhai o ddogfennau ei hun, sy’n dyddio yn ôl i ddechrau datganoli, mae cyfle i archwilio dros ganrif o hanes y genedl.
Ymhlith y trysorau mae nodiadau cychwynnol David Lloyd George ar gyfer Cyllideb y Bobl, cais Llandrindod i fod yn brifddinas Cymru a phortread swyddogol Mark Drakeford.
Mae meddwl bod ei ddogfennau yntau bellach yn rhan o’r casgliad yn destun balchder i Mr Drakeford.
“Dwi wedi bod mor lwcus i gael y profiadau ‘na ac yn gallu rhoi rhywbeth ‘nôl i bobl eraill, pobl sydd eisiau deall sut oedd e ar y pryd,” meddai yn y rhaglen.
Ond gallai pethau fod wedi bod yn wahanol iawn petai un o gewri gwleidyddol y genedl wedi dilyn trywydd gyrfa arall.
“O’dd dim diddordeb ‘da fi i fod yn wleidydd. Dwi’n dweud nawr achos dwi’n meddwl mae’n wir, mater o hap yw e dwi wedi ‘neud y gwaith dwi wedi ‘neud,” ychwanegodd.

“Y gwaith oedden i’n fwynhau y gorau yw pan oeddwn i’n gweithio gyda Rhodri Morgan. Oedden i tu ôl pethau, o’dd dim syniad ‘da fi i wneud yr un peth.
“O’n i’n jyst meddwl a meddwl, ac yn y diwedd oedden i’n meddwl, well i fi trial, dwi ddim eisiau edrych ‘nôl yn meddwl ‘What if’. A dyma fi, dwi wedi bod yn fan hyn ers 2011.
“Ond doedd dim bwriad ‘da fi, doedd dim cynllun ‘da fi pan oeddwn i’n ifanc i wneud pethau fel hyn o gwbwl. Pan oeddwn i’n tyfu lan, dwi’n cofio meddwl pwy dwi eisiau bod pan oeddwn i’n 10 oed. Dwi’n mynd i agor y batio i Forgannwg, dyna oeddwn i eisiau ‘neud.”
Mae’r cyflwynydd Dot Davies yn dychwelyd i dywys y gwylwyr drwy’r casgliadau, gyda gwybodaeth a arweinir gan Dr Maredudd ap Huw, Curadur Llawysgrifau’r Llyfrgell, gan roi cyd-destun a dyfnder i bob darganfyddiad.
Mewn adolygiad gan Lywodraeth Cymru yn 2020, cafodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ei galw'n 'gyfrinach orau Cymru' ac mae hi unwaith eto yn chwarae rhan hanfodol yn y gyfres.

Cafodd yr ail gyfres yn cael ei lansio mewn digwyddiad arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Mae cydweithio gyda’n partneriaid i weld Cymru’n ffynnu yn un o bileri strategaeth newydd S4C, Mwy Na Sianel Deledu, ac mae’r gyfres hon yn enghraifft wych o’r strategaeth honno ar waith – cyfres sy’n rhoi diwylliant a hanes Cymru dan y chwyddwydr.
“Fel darlledwr cyhoeddus, rydym yn ymfalchïo yn y cyfle i daflu goleuni ar rai o sefydliadau cenedlaethol mwyaf annwyl ein cenedl ac yn hynod ddiolchgar i’r Llyfrgell Genedlaethol am y cyfle.
“Mae S4C yn falch o lwyddiant Cyfrinachau’r Llyfrgell, a enillodd wobr RTS Cymru eleni, ac wrth ein bodd i gael darganfod mwy o gyfrinachau ein trysor cenedlaethol.”
Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Rydym ni wrth ein boddau bod cyfres Cyfrinachau'r Llyfrgell yn ôl ar y sgrin eto, yn ffrwyth y cydweithio creadigol gyda Slam ac S4C. Mae'r ymateb i'r gyfres gyntaf wedi bod yn aruthrol gyda nifer o bobl yn dweud eu bod wedi gwneud pwynt o ddod yma ar ôl gwylio’r gyfres gyntaf.
“Roedd hi’n fraint i ni gael croesawu rhagor o gewri ein cenedl i ddarganfod eu straeon trwy'r casgliad cenedlaethol. Mae'n ffordd arbennig i ni allu dangos bod rhywbeth yn y Llyfrgell at ddant pawb, ac i rannu mwy o straeon pobl Cymru."
Ychwanegodd Uwch Gynhyrchydd y gyfres, Geraint Rhys Lewis o Slam Media: “Rydym yn ddiolchgar i S4C am roi ffydd yn y gyfres ac i’r tîm yn Y Llyfrgell Genedlaethol am gydweithio diwyro wrth inni wireddu ein gweledigaeth o gyflwyno ein hanes mewn ffordd ddifyr a chreu dipyn o sŵn am ein Llyfrgell Genedlaethol.”
MAe Cyfrinachau'r Llyfrgell Cyfres 2 yn cael ei darlledu am 21.00 ar nosweithiau Mawrth ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.