Bydd Dechrau Canu Dechrau Canmol yn cofio Gwynfor Evans gyda phennod arbennig, 20 mlynedd ers ei farwolaeth.
Yn y bennod gyntaf o’r gyfres newydd o Dechrau Canu Dechrau Canmol, a fydd yn cael ei darlledu ar nos Sul 21 Medi am 19.00 ar S4C, cawn glywed gan aelodau o’i deulu, ac un a weithiodd yn agos gyda’r gwleidydd.
Creodd Gwynfor Evans hanes ar ôl iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn isetholiad Caerfyrddin yn 1966.
Bu’n arweinydd ar y blaid am dros 30 o flynyddoedd rhwng 1945 ac 1981, ac arweiniodd ei ympryd dros sefydlu sianel Gymraeg at sefydlu S4C.
Ond yn ogystal â’i ddaliadau gwleidyddol, roedd ei ffydd Gristnogol yn bwysig i Gwynfor, credoau a ddylanwadodd ar ei deulu.
Dywedodd ei fab, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor: “Mae ei ddylanwad e yno’n feunyddiol. O’dd e’n athro Ysgol Sul. Yn y dosbarth, o’dd e’n trafod beth o’dd yn digwydd yn y byd. Newyddion y dydd ond o safbwynt Gristnogol, gweld shwt o’dd hyn yn unol â meddwl Iesu a datguddiad yn Iesu.
“O’dd fy nhad hefyd yn rhyng-genedlaetholwr. O’dd e’n gweud hyn yn aml, bod e’n rhyng-genedlaetholwr cyn bod e’n genedlaetholwr. O’dd e’n gweld ei genedlaetholdeb fel rhan o batrwm byd-eang.”
Ychwanegodd y Parchedig ap Gwynfor, un o saith o blant Gwynfor: “O’dd e’n credu bod ’na ddau fath, yn fras, o genedlaetholdeb.
“Y naill yw cenedlaetholdeb sydd yn credu bod gan bob cenedl yr hawl i fyw eu bywyd yn llawn heb ymyrraeth gan genhedloedd eraill.
A’r math arall o genedlaetholdeb yw y gred bod ein cenedl ni yn well na chenhedloedd eraill a bod yr hawl gyda’n cenedl ni i reoli cenhedloedd eraill.
“Imperialaeth yw hynny. A bydde fe’n gweud wrthon ni yn y wers Ysgol Sul, y Beibl yw’r gyfrol fwya’ gwrth-imperialaidd sydd yn bod.”
Yn ôl Meinir Ffransis, merch Gwynfor: “Gethon ni’n magu yn y pethau Cymreig. Dim dim ond cenedlaetholdeb ond heddychiaeth hefyd. A mae’n gweud ei hunan, o’dd e’n heddychwr cyn dod yn genedlaetholwr.”
Roedd Heledd ap Gwynfor, wyres Gwynfor sydd bellach yn gweithio i S4C, yn ferch fach yn ystod yr ymgyrch i sefydlu sianel deledu Gymraeg.
Dywedodd Heledd: “O’n i’n ferch ifanc iawn pan o’dd y frwydr ’na’n digwydd. Felly, er mai prin yw’r cof, mae’r lluniau’n dod â’r hanes hynny’n fyw i fi hefyd ac mae ’na nifer o luniau ohono i a’m mrawd yn y pushchair yn mynd i ralïau ac i brotestiadau.
“Ac wedyn yn ddiweddarach, wrth gwrs, bydden ni yn parhau â’r traddodiad o brotestio a mynychu ralïau gyda Tadcu. A beth sy’n aros yn y cof o’dd, o’n i’n ymwybodol bod Tadcu yn ddyn pwysig a dyn â dylanwad, ond yn fwy na hynny bod nifer, nifer o bobl yn hoff iawn ohono fe ac yn ei edmygu e.”
Bu Peter Hughes-Griffiths yn gweithio’n agos gyda Gwynfor ar hyd y blynyddoedd.
Dywedodd: “Byddai llawer o bobl yn gwybod wrth gwrs, am ei aberth e ynglŷn â chael sianel Gymraeg. Ond o edrych ’nôl ar ei fywyd e – bywyd hir, gweithgar. Yn wleidyddol, mae pobl a haneswyr yn derbyn erbyn hyn bod Gwynfor wedi newid ffordd gwleidyddiaeth yng Nghymru a chael pobl i feddwl falle’n wahanol yn wleidyddol.”
Fel rhan o’r arlwy i gofio am Gwynfor, bydd y ffilm Y Sŵn, enillydd gwobr BAFTA Cymru a ddilynodd hanes y frwydr i sefydlu S4C, yn cael ei hail-ddarlledu ar 20 Medi am 22.30 ar S4C ac ar gael ar alw.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.