CYNBHALIWYD Eisteddfod Gadeiriol Llanegryn yn Neuadd Egryn, ddydd Sadwrn 21ain o Chwefror. Braf iawn oedd gweld y neuadd yn llawn unwaith eto eleni gyda chynulleidfa frwd. Cychwynnwyd yr Eisteddfod toc wedi 1 o’r gloch yn y prynhawn gyda chystadlaethau ar gyfer cystadleuwyr o dan yr oedran 25 yn unig. Braf yw nodi fod yr eisteddfod wedi bod yn llwyddiant unwaith eto eleni gyda chynifer yn cystadlu yn yr oedrannau cynradd.

Y beirniaid eleni oedd:

Cerdd, Cerdd Dant ac Alaw Werin – Huw Ynyr Evans, Rhydymain.

Llefaru a Llenyddiaeth (Dan 25 oed ac Agored) – Eurig Salisbury, Aberystwyth.

Llenyddiaeth Cynradd – Sian Jarman, Talyllyn.

Gwaith Celf – Delyth Thompson, Abergynolwyn.

Tudur P Jones, Tywyn oedd yn cyfeilio yn ôl yr arfer, a'r arweinyddion oedd Janet Pugh ac Edward Jones. Diolch iddynt oll am eu gwaith trylwyr.

Cafodd y gwaith celf a’r llenyddiaeth eu harddangos yn y neuadd fel yr arfer. Cyflwynwyd gwobr oedran y Cyfnod Sylfaen er cof am Elain Heledd i’r perfformiad llwyfan gorau sef Silyn Breese a’r wobr i’r eitem gelf orau i Isla Statham-Rowlands. Diolch i Ysgol Craig Y Deryn am eu cefnogaeth yn yr adran gwaith llaw ac yn y cystadlaethau llwyfan. Diolch i dair ysgol gynradd yr ardal am annog yr holl ddisgyblion i gymeryd rhan yng nghystadleuaeth llenyddol ‘Y Gadair’ eleni.

Avril Micah, cadeiryddes pwyllgor yr Eisteddfod, gafodd y fraint o gyflwyno ein llywydd eleni sef Caryl Roberts (Caryl Needham pan yn blentyn yn y pentref). Nododd Avril mai braf iawn oedd cael croesawu merch leol yn ôl i’w phentref gwreiddiol, ble bu’n byw gyda’i mham, ei hefaill Catrin a’i dau frawd. Yn sicr bu’n rhan o fwrlwm a hwyl y pentref pan yn blentyn ac wedi sefyll lawer gwaith yn perfformio a chystadlu ar y llwyfan hwn. Braf iawn i’w nodi bellach fod ei phlant wedi etifeddu ei dawn a fod Emmi yma’n cystadlu eleni eto.

Nododd Caryl mai braint oedd cael sefyll yma fel llywydd yr Eisteddfod a’i bod wedi derbyn yr anrhydedd gyda balchder. Roedd ganddi lu o atgofion plentyndod melys iawn yma yn Llanegryn, digon o straeon i greu cyfres gyfan ar Netflix! Yn yr Ysgol ei phrifathro ar y pryd oedd Mr Hughes, gwr cadarn ond teg bob amser.

Delyth Thompson yn athrawes a oedd yn gweld potensial bob amser yn ei gwaith yn ogystal ag ar y llwyfan hwn. Anti Mair a oedd yn hyfforddwraig ac yn therapydd ar adegau i’w nerfau, blwyddyn ar ôl blwyddyn yn dod draw i’r ysgol i ddysgu’r plant i ganu Cerdd Dant ac yn ennill dro ar ôl tro. Diolchodd Caryl yn ogystal i’w mham am ei chartio o fan i fan i’r holl eisteddfodau.

Teithiau car llawn cyffro, nerfusrwydd ac ambell wyneb gwyrdd gan orfod stopio yn Wolworths i brynu sgert newydd! Ond bellach mae ei chylch wedi dod yn llawn. Caiff falchder nawr wrth weld ei phlant ei hunan nawr yn cymryd rhan yn ganu mewn eisteddfodau a digwyddiadau yn ei chymuned leol. Bellach mae Caryl yn byw yn Nhywyn ac wrth edrych nôl mae wedi sylweddoli pa mor bwysig oedd ei magwraeth a’i chyfnod hapus yma yn Llanegryn.

Hoffai’r pwyllgor ddiolch o galon i Caryl am gytuno i fod yn llywydd eleni, am iddi rannu ei phrofiadau gyda’r gynulleidfa ac iddi hi a’i mham Lyn am eu cyfraniad hael tuag at goffrau’r eisteddfod. Roedd Lyn wedi cytuno i fod yn llywydd i’r Eisteddfod yn 2021 ond oherwydd ‘Covid’ bu’n rhaid ei chanslo. Diolch i chi’ch dwy am ddod atom.

Canlyniadau Llwyfan

Unawd Meithrin a Derbyn:1. Sion Evans 2. Cydradd - Pegi Jones a Miley Fox

Llefaru Meithrin a Derbyn:1. Sion Evans 2. Pegi Jones 3. Mabon Jones

Unawd Bl 2 ac iau: 1.Silyn Breese 2. Casi Wyn Jones-Grant 3. Erin Jones

Llefaru Bl 2 ac iau: 1. Aron Jones 2. Silyn Breese a Casi Wyn Jones-Grant 3. Ellis Caskin

Gwobr Goffa er côf am Elain Heledd am y Perfformiad Llwyfan Gorau: Silyn Breese

Gwobr Goffa er côf am Elain Heledd am y Gwaith Celf Gorau: Isla Statham-Rowlands

Unawd Bl 3 a 4: 1.Efa Manala 2.Greta Jones 3. Gwenno Evans

Llefaru Bl 3 a 4: 1.Curig Breese 2. Gwenno Evans 3. Greta Jones a Gruff Jones

Unawd Cerdd Dant Bl 3 a 4: 1. Gwenno Evans

Unawd Bl 5 a 6: 1. Catrin Williams

Llefaru Bl 5 a 6: 1. Nansi Evans 2. Jacob Smith a Saskia Hiatt 3. Emrys Jarman

Unawd Cerdd Dant Bl 5 a 6: 1. Nansi Evans 2. Emrys Jarman

Unawd Alaw Werin Bl 6 ac iau: 1. Emrys Jarman

Deuawd Bl 9 ac iau: 1. Catrin Williams ac Emmi Roberts

Unawd Piano / Bl 9 ac iau: 1. Emrys Jarman y chwarae ‘Hot Chilli’ ar ei gorned.

Unawd Bl 7-9: 1. Jini Grug Dobson

Unawd Cerdd Dant Bl 7-9: 1. Jini Grug Dobson

Unawd Alaw Werin Bl 7-9: 1. Jini Grug Dobson

Unawd Piano neu Unrhyw Offeryn Cerdd dan 19 oed: 1.Aneira Fflur Jones

Llefaru dan 19 oed: 1. Gwilym Egryn Jones

Unawd Piano / Unrhyw Offeryn Cerdd dan 25: 1. Aneira Fflur Jones

Unawd Piano neu Unrhyw Offeryn Cerdd dan 19 oed: 1.Gwilym Egryn Jones

Llefaru dan 25: 1. Aneira Fflur Jones

Unawd o Sioe Gerdd dan 25: 1. Jini Grug Dobson

Canlyniadau Llenyddiaeth

Meithrin – Ysgrifennu enw: 1. Emmi Wilkes 2. Casi Davies 3. Bella Kidd

Derbyn Ysgrifennu enw: 1. Miley Fox 2. Efa Micah 3. Iris Sood

Bl 1 a 2 - Stori: 1. Bella Fox 2. Grayson Sood 3. Hugo Gardner

Bl 3 a 4 – Hunan ddewisiad: 1. Rosie Pugh 2. Robyn Hughes 3. Iens McCarter-Stockton

Bl 5 a 6: 1. Grace Hussein, Ysgol Dyffryn Dulas 2. Nancy Papirnyk, Ysgol Penybryn 3. Owain Jones, Ysgol Craig y Deryn

Dan 25 oed: Darn o farddoniaeth neu ryddiaith ar unrhyw ffurf hyd at 2,000 o eiriau. Bydd y tri darn o waith buddugol yn mynd ‘mlaen i gystadleuaeth ‘Tlws yr Ifanc’ yn Eisteddfod Genedlaethol 2026 am wobr o £200:

Eleni roedd 6 wedi cystadlu. Cyhoeddodd Eurig Salisbury fod y cystadleuwyr yn dangos gafael dda ar ffurfiau stori a cherdd. Roedd wedi mwynhau eu darllen oll ac yn annog yr holl ymgeiswyr i barhau i ysgrifennu yn y dyfodol. Dyma grynodeb byr o’r tri a ddaeth i’r brig:-

1. Estron – Yma ceir stori fer 3 ochor a blesiodd y beirniad yn fawr. Canmolodd Eurig Salisbury yr arbrofi a welwyd ar y tudalennau e.e. maint y llythrennau. Prif gymeriad y stori yw merch isel ei hysbryd. Mae ei rhieni yn ceisio ei helpu ond yn annisgwyl rhywun sy’n galw heibio sy’n llwyddo yn y pendraw. Ceir yma deimlad bron fod yr ymwelwr fel ‘angel gwarcheidiol’. Erbyn diwedd y stori mae’r ferch yn teimlo yn llawer gwell. Mae arddull yr awdur o ganmol y ferch yma yn gynnil. Llais credadwy iawn.

2. Gwener – Stori fer unwaith eto a geir yma, sy’n rhoi portread o ddiwrnod mewn tafarn sef tafarn Y Dderwen. Ceir yma’r cwsmer cyntaf yn dod mewn i’r dafarn dawel ac yna gwelir pob math o bobl yn dod mewn yn eu tro hyd at ddiwedd y nos. Gwylio pawb yn mynd a dod mae’r awdur. Mae’n llwyddo yn dda iawn i greu darlun byw, er bod ychydig o or-ddweud ar adegau.

3. Cardi – Cerdd eithaf hir yn y wers rydd a geir gan Cardi. Mae’n portreadu criw o ffrindiau ifanc yn mentro noson allan mewn dinas. Yn y gerdd cyfeirir at yr hwyl mae’r criw ifanc yn ei gael ond hefyd y peryglon sy’n llechu yn y cysgodion. Er bod y bardd yn trin iaith yn dda iawn, holodd Eurig Salisbury a oedd y gystrawen yn gweithio pob tro?

Yn sicr, roedd Eurig Salisbury yn hapus iawn i roi y wobr gyntaf i ‘Estro’n ac fe nododd yn ogystal ei fod yn fwy na hapus i’r tri darn o waith fynd yn eu blaen i gystadleuaeth ‘Tlws yr Ifanc’ yn Eisteddfod Genedlaethol 2026. Haeddiannol iawn a llongyfarchiadau i’r ddwy a ddaeth i’r brig.

1. Estron sef Non Humphreys, Nefyn

2. Gwener sef Rebecca Rees, Llandysul

3. Cardi sef Rebecca Rees, Llandysul.

Cyfieithu – Cafwyd canmoliaeth gan Eurig Salisbury i’r sawl a ddewisodd y darn i’w gyfieithu sef Mrs Llywela Hughes. Y darn oedd detholiad o “A beautiful and proud country, why isn’t Wales treated like one?’ gan Will Hayward. Nododd y beirniad mai’r her oedd ceisio creu darn a oedd yn rhedeg yn naturiol, yn union fel pe bai wedi ei ysgrifennu yn y Gymraeg yn wreiddiol. Cafwyd cyfieithiadau da gyda’r sawl a

ddaeth i’r brig yn cael canmoliaeth am gyffyrddiadau synhwyrol a’r ddawn o gyfieithu yn naturiol.

1. Drudwen – Gruff Gwyn, Dolgellau

2. Un arall a siomwyd – Marian Rees, Talyllyn

3. Bryngolau – Trefor Jones, Pontypridd

Parodi ar ‘Tân yn Llŷn’ :

Mynegodd Eurig Salisbury fod y dasg hon eleni wedi bod yn un ddiddorol gyda phynciau fel Tîm Rygbi Cymru a cholli pwysau yn cael eu trafod!

1. Hafodgau – John Meurig Edwards, Aberhonddu ( Tîm - rygbi Cymru )

2. Maint 6 - Gaenor Mai Jones, Pontypridd. (Colli Pwysau)

3. Hon – Myfanwy Roberts, Llanrwst

Erthygl ar gyfer Papur Bro – Gwobr Tlws Dail Dysynni er cof am Sulwyn 1. Bethan Davies, Waenfach 2. Avril Micah, Glanmorfa.

Cystadleuaeth i’r dysgwyr - “Portread o ffrind”

Roedd Eurig Salisbury wedi mwynhau darllen y ddau bortread a ddaeth i law - Portread hyfryd o’i chi bach Bryn ddaeth i’r brig sef gwaith Veronica Savage o Dywyn. Lynda Morris o Dywyn ddaeth yn ail.

Cystadleuaeth y Gadair

Diolch i’r tair ysgol gynradd leol am annog disgyblion blwyddyn 5 a 6 i gymryd rhan yng nghystadleuaeth y gadair eleni. Roeddem yn falch iawn o allu cyhoeddi fod teilyngdod i’r gadair sef Grace Hussein o Ysgol Dyffryn Dulas. Llongyfarchiadau gwresog ichi. Yn anffodus ni allai fod yn bresennol ar y diwrnod i dderbyn ei gwobr o £20 na’r gadair fach a gerfiwyd mor ddestlus gan Dan Collister, Llanegryn. Bydd seremoni arbennig yn cael ei chynnal yn yr ysgol i Grace ar ôl y gwyliau.

Disgybl ym mlwyddyn 6 yn Ysgol Dyffryn Dulas, Corris yw Grace. Mae wedi mynychu’r ysgol ers ei dyddiau cynnar yn yr Ysgol Feithrin ac yn byw yng Nghorris Uchaf.

Mae Grace yn ddisgybl hynod greadigol gyda diddordebau yn ymestyn o baentio a dylunio i grefftau ac wrth gwrs ysgrifennu. Mae’n hoff iawn o ysgrifennu dychmygol ac o greu sticeri a deunydd ysgrifennu ei hun. Llynedd enillodd y goron yn yr E-Steddfod am ei gwaith ysgrifennu Saesneg ac mae’n parhau i ffynnu fel awdur dwyieithog sy’n mwynhau ysgrifennu yng Nghymraeg a Saesneg. Mae Grace yn ddiolchgar iawn am y gydnabyddiaeth o ennill y gadair yn Eisteddfod Llanegryn a bydd hyn yn ei hysbrydoli ymhellach i barhau i ddatblygu ei dawn ysgrifennu.

Nodwyd fod teulu Grace yn ymddiheuro’n fawr nad oeddynt yn gallu bod yn bresennol yn yr Eisteddfod gan eu bod wedi trefnu ers sawl wythnos i ymweld â theulu. Roeddynt yn hynod falch o lwyddiant Grace ac am ddathlu ei llwyddiant tra ar eu gwyliau.

Yn ogystal nododd staff Ysgol Dyffryn Dulas eu bod hwythau yn falch iawn o lwyddiant Grace ac yn ddiolchgar iawn i’r Eisteddfod am roi’r cyfle i ddisgyblion y dalgylch i gystadlu eleni.

Diolch hefyd i Sian Jarman am feirniadu’r gystadleuaeth.

Canlyniadau Celf – Lluniad 2D ar y thema – ‘Breuddwydion’

Meithrin: 1. Raya Turneff-Baldwin 2. Poppy Perks 3. Bella Kidd

Derbyn: 1. Mabon Jones 2. Iris Sood 3. Miley Fox

Bl 1 a 2: 1. Isla Statham-Rowlands 2. Hugo Gardner 3. Arabella Brdbury-Willis

BL 3 a 4: 1. Gabriel Fares 2. Imogen Perks 3. Charlotte Rickard

Bl. 5 a 6: 1. Lilly McClelland 2. Edward Thorpe 3. Isabella Turness