BYDD ffans Pobol y Cwm a Rownd a Rownd yn gallu mwynhau eu hoff operâu sebon o ben bore yn y flwyddyn newydd.
Mewn ymateb i newidiadau mewn arferion gwylio, bydd penodau diweddaraf y ddwy opera sebon ar gael i'w gwylio arlein cyn y darllediad ar y teledu.
Bydd hyn yn darparu mwy o hyblygrwydd i wylwyr ac yn atgyfnerthu ymrwymiad y darlledwr i fod yn wasanaeth digidol yn gyntaf.
Ar hyn o bryd, darlledir Pobol y Cwm ar nosweithiau Mawrth, Mercher ac Iau am 20:00, tra bod Rownd a Rownd yn darlledu bob nos Fawrth ac Iau am 20:25.
O ddydd Mawrth 6 Ionawr, am 10:00 ar fore pob darllediad bydd penodau cyflawn o'r ddwy opera sebon ar gael arlein ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Ambell waith, bydd rhai pennodau arbennig, sy’n cynnwys straeon mawr a datgeliadau pwysig yn cael eu cadw ar gyfer y darllediad teledu yn y nos er mwyn osgoi unrhyw spoilers i ffans.
Dywedodd prif weithredwr S4C, Geraint Evans: "Rydym ni’n ymwybodol iawn bod arferion gwylio ein cynulleidfaoedd yn newid, ac er bod tipyn o wylio byw i Pobol y Cwm a Rownd a Rownd ar eu darllediad cynta ar deledu, mae'r ddwy sebon ymhlith y cyfresi mwya' poblogaidd ar S4C Clic a BBC iPlayer hefyd.”
Meddai Branwen Williams, uwch-gynhyrchydd Pobol y Cwm: “Bydd cael Pobol y Cwm ar S4C Clic a BBC iPlayer ben bore yn golygu bydd ein ffans yn gallu cael eu ffics o ddrama wrth fwynhau eu tost a choffi.”
Meddai Annes Wyn, un o gynhyrchwyr Rownd a Rownd: “Da ni’n falch iawn o glywed am y datblygiad yma gan bod tipyn o’n gwylwyr yn gwylio arlein bellach. Mae hyn yn golygu y gallant wylio cyn ein hamser darlledu arferol, fel sy’n gyfleus iddyn nhw.”





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.