MAE’R Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yn falch o’r chwe gwobr newydd sbon sy’n cael eu cynnig i gystadleuwyr sy’n serennu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd eleni, gyda chefnogaeth rhai o dalentau mwyaf Cymru.
Bydd y gwobrau newydd yn cynnwys sesiynau mentora i chwe unigolyn 19-25 oed gyda Syr Bryn Terfel, yr actor Matthew Rhys, y ddawnswraig broffesiynol Amy Dowden, y feiolinydd Rakhi Singh, yr enillydd BAFTA Callum Scott Howells ac un o reolwyr digwyddiadau fwyaf profiadol Cymru, Sarah Hemsley-Cole.
Mae enwau’r gwobrau newydd fel a ganlyn:
• Gwobr Syr Bryn Terfel (lleisiol)
• Gwobr Amy Dowden (dawns)
• Gwobr Callum Scott Howells (sioe gerdd)
• Gwobr Matthew Rhys (theatr)
• Gwobr Rakhi Singh (offerynnol)
• Gwobr Sarah Hemsley-Cole (cefn llwyfan)
Daw’r datblygiad yma yn sgil llwyddiant partneriaeth newydd yr Urdd a CBCDC yn 2024, er mwyn cynnig profiadau amhrisiadwy i chwech o gystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd – o ddosbarthiadau meistr yn eu disgyblaethau perthnasol, i gyfleoedd i berfformio ar lwyfan rhyngwladol.
Bydd y gwobrau newydd hefyd yn cynnwys cefnogaeth ariannol tuag at hyfforddiant pellach.
Fory (Sadwrn, 31 Mai) bydd tîm o feirniaid sy’n cynrychioli’r Urdd a CBCDC yn bresennol yn yr ŵyl i benderfynu ar y chwech buddugol, a’r enwau’n cael eu cyhoeddi ar Lwyfan y Cyfrwy ac yn fyw ar S4C
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.