MAE’R BBC ac S4C wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer partneriaeth ffrydio newydd fydd yn rhoi mwy o amlygrwydd i raglenni S4C ar BBC iPlayer.
Fel rhan o’r cynlluniau newydd, bydd cynnwys Cymraeg S4C yn ymddangos yn rheolaidd ar brif dudalen hafan BBC iPlayer yng Nghymru, a bydd cynnwys nodedig S4C, gan gynnwys dramâu a darllediadau o chwaraeon byw yn ymddangos ar hafan BBC iPlayer ledled y DU am y tro cyntaf.
Bydd dolenni i wasanaethau plant S4C, Stwnsh a Cyw, hefyd yn cael eu cynnwys ar hafan BBC iPlayer Kids ledled y DU am y tro cyntaf, fydd yn sicrhau bod cynnwys plant yn y Gymraeg yn haws i'w ddarganfod.
BBC iPlayer yw’r gwasanaeth ffrydio sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, gyda dros 15 miliwn o gyfrifon yn gwylio’r gwasanaeth bob wythnos ar gyfartaledd, gan gynnwys dros 700,000 yng Nghymru.
Disgwylir i’r trefniant newydd gael eu cyflwyno’n raddol o fis Ebrill eleni, a bydd hyn yn golygu na fydd yn rhaid i wylwyr S4C chwilio drwy ganllaw sianeli BBC iPlayer i ddod o hyd i’w rhaglenni mwyaf.
Mae manylion terfynol y cytundeb wrthi’n cael eu cwblhau, ond mae S4C a’r BBC wedi cadarnhau heddiw fod y prif delerau bellach wedi’u cytuno - yn amodol ar gymeradwyaeth terfynol gan fyrddau’r ddau ddarlledwr.
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: "Ry’n ni'n falch iawn o'r trefniant newydd gyda BBC iPlayer sydd yn mynd i sicrhau mwy o amlygrwydd i gynnwys S4C - o chwaraeon a dramâu i ddigwyddiadau byw a chynnwys i blant. A gyda nodweddion newydd fel is-deitlau Cymraeg a Saesneg, ffrydiau byw ychwanegol a phersonoleiddio gwell, bydd y profiad i’r gwyliwr yn gyfoethocach fyth.
"Wrth i’n gwylwyr droi’n gynyddol at wylio digidol, un o'n prif amcanion yw sicrhau bod cynnwys S4C ar gael ar draws y platfformau, a bydd hi’n wych i weld cynnwys Cymraeg yn cael gofod blaenllaw ar un o’r llwyfannau gwylio mwyaf poblogaidd, yn ogystal ag ar ein gwasanaeth ffrydio, Clic."
Dywedodd Garmon Rhys, Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru Wales: “Rydym yn hynod falch o weithio mewn partneriaeth â S4C i wneud cynnwys Cymraeg yn haws i’w ddarganfod ar BBC iPlayer. Mae’r cytundeb hwn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i wasanaethu cynulleidfaoedd yng Nghymru ac ar draws y DU wrth iddynt chwilio am gynnwys ar lwyfannau digidol, gan ei gwneud yn fwy hwylus nag erioed i wylwyr ddarganfod a mwynhau rhaglenni S4C.”
Disgwylir i’r cytundeb newydd rhwng y BBC ac S4C ddarparu amryw o fanteision ychwanegol i gynulleidfaoedd, gan gynnwys:
- Nifer o ffrydiau byw o ddarllediadau chwaraeon amrywiol S4C, gan gynnwys rhai gyda dewis o sylwebaeth yn Saesneg, yn ogystal â darllediadau o ddigwyddiadau cenedlaethol gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, a Sioe Frenhinol Cymru
- Mwy o bersonoli i ddefnyddwyr - gyda gwylwyr rheolaidd S4C yn gweld ystod ehangach o ddewis rhaglenni Cymraeg ar eu canllaw rhaglenni
- Is-deitlau Cymraeg a Saesneg ar gyfer rhaglenni S4C - hwb i ddefnyddwyr byddar a thrwm eu clyw, yn ogystal â siaradwyr newydd y Gymraeg sy’n defnyddio is-deitlau i gefnogi eu dysgu
- Hysbysebion sianel fyw S4C yn cael eu cynnwys (yn amodol ar gymeradwyaeth rheoleiddiol)
Mae’r cytundeb newydd ar fin dod yn gonglfaen newydd i’r bartneriaeth 44 mlwydd oed rhwng S4C a’r BBC.
O dan y bartneriaeth, mae’r BBC yn comisiynu’r opera sebon Pobol y Cwm a chynhyrchu’r gwasanaeth newyddion dyddiol Newyddion S4C.
Mae hefyd yn darparu capasiti HD i S4C ar gyfer ei sianel fyw ac yn rheoli darllediad y sianel o ganolfan ddarlledu BBC Cymru yn swyddfa Sgwâr Canolog y BBC Cymru yng Nghaerdydd





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.