MAE cynlluniau ar droed i gynnal tri digwyddiad arbennig yn Neuadd Talgarreg ym mis Mehefin.

Bydd ‘Gŵyl Cen’ yn dathlu gwerthoedd a hiwmor yr ymgyrchydd iaith, cenedlgarwr, yr heddychwr a’r Undodwr Cen Llwyd.

“Roedd hi’n rhyfeddol sut roedd Cen yn ymwneud a chyffwrdd â phobol o bob cefndir – mae ei ddylanwad yn ysbrydoliaeth sy’n parhau,” meddai un o’r trefnwyr Robyn Tomos.

“A bydd yr ŵyl yn gyfle ardderchog i gydnabod hyn mewn ffordd hwyliog.”

Yn rhoi cychwyn ar yr hwyl bydd Talwrn y Beirdd ar nos Wener, 7 Mehefin gyda thri thîm lleol - Glannau Teifi, Crannog a’r Vale yn ymrysona am y gorau a’r Prifardd a’r Prif Lenor Mererid Hopwood yn Feuryn ac yn gosod tasgau yn adlewyrchu hiwmor a diddordebau Cen.

Tybed ai dyma’r  tro cyntaf i dalwrn teyrnged gael ei gynnal yng Ngheredigion.

Wedyn, ar y nos Sadwrn  cynhelir Noson Lawen yn rhoi llwyfan i ddoniau lleol – yr union fath o achlysur yr arferai Cen ei hunan arwain gyda jôc a gwên pryfoclyd.

I gloi’r ŵyl, bydd Gwasanaeth Heddwch anenwadol gyda chyfraniad gan y newyddiadurwr Dylan Iorwerth ac eraill ar y bore Sul.

Cyfle i ddod ynghyd ac i annog i gadw’r fflam ynghyn.

 “Bydd Gŵyl Cen yn gyfle i ni dod at ein gilydd i  rannu storïau a chwmnïaeth,  dathlu cwlwm cymdeithas a dyrchafu’r gwerthoedd gwâr oedd Cen yn dyrchafu drwy ei fywyd a’i gwaith diflino,” ychanegodd Robyn.

Yn dilyn yr ŵyl eleni mae’n fwriad cynnal digwyddiad tebyg y flwyddyn nesaf.

Cynhelir Gŵyl Cen yn Neuadd Talgarreg, 7-9 Mehefin.

Trefnir gan Ffrindiau Ffostrasol a’r Cylch a Phwyllgor Neuadd Talgarreg.