BYDD Honno Gwasg Menywod Cymru yn cyhoeddi y diweddaraf yn y gyfres Clasuron Honno, sef y nofel Ffynnonloyw gan Moelona, wedi ei golygu gan Yr Athro Katie Gramich sydd hefyd wedi ysgrifennu’r rhagymadrodd.

Dyma'r tro cyntaf i'r clasur hwn (gwaith mwyaf aeddfed Moelona heb amheuaeth) gael ei gyhoeddi ers iddo ymddangos gyntaf ym 1939.

Ffugenw Elizabeth Mary Jones oedd Moelona. Ganed hi yn Rhydlewis, Ceredigion, yr ieuengaf o dri ar ddeg o blant, ar fferm o'r enw ‘Moylon’, a dyna pam ei dewis o ffugenw.

Ymhlith y llyfrau a ysgrifenwyd ganddi mae Rhamant y Rhos, Rhamant Nyrs Bivan, Alys Morgan, Teulu Bach Nantoer, Bugail y Bryn, Cwrs y Lli, Breuddwydion Myfanwy, Beryl a Ffynnonloyw.

Ym 1917, priododd Lizzie Owen â gweinidog a golygydd gweddw gyda’r Bedyddwyr, John Tywi Jones, yng Nghaerdydd.

Roedd y cwpl yn byw yng Nghei Newydd, Ceredigion, o 1935 hyd at eu marwolaeth yn 1949 a 1953.

Nofel tair rhan yw Ffynnonloyw am deulu tlawd a fagwyd ar fferm Ffynnonloyw yn ne Ceredigion ac mae'n rhychwantu'r cyfnod o'r 1880au hyd ganol y 1920au.

Dilynwn hynt a helynt y teulu wrth wynebu amryw o heriau, e.e. trafferthion y tad wrth geisio talu am addysg (Seisnig) i'w blant, genedigaeth plentyn anghyfreithlon i un o'r merched, agweddau negyddol tuag at y Gymraeg ac at hawliau menywod.

Trwy gyfrwng portreadau o lawenydd a galar, malais a chenfigen, a llawer o ddigwyddiadau cythryblus, rydym yn dod i adnabod cymeriadau lliwgar, drwg a da, sy'n gwneud yn stori mor ddifyr i'w darllen.

Mae'r arddull hefyd yn ddifyr, gyda'r defnydd o dafodiaith de Ceredigion a'r newid côd rhwng y Gymraeg a'r Saesneg gan rai o'r cymeriadau yn adlewyrchu realiti ieithyddol y cyfnod.

Mae'r rhagymadrodd newydd, gwybodus gan Katie Gramich yn tynnu sylw at themâu pwysig y nofel ac yn gosod y nofel yn ei chyd-destun hanesyddol.

Bydd Ffynnonloyw yn apelio at ddarllenwyr sy'n hoff o stori dda yn y Gymraeg ond bydd hefyd o ddiddordeb ar sail y driniaeth o themâu fel newid ieithyddol a'r ymgyrch dros yr hawl i fenywod gael y bleidlais.

Byddai'n ychwanegiad gwych i unrhyw faes llafur mewn ysgol neu brifysgol sy'n ymwneud â hanes a llenyddiaeth Cymru.

Ganed hi yn Rhydlewis, Ceredigion, yr ieuengaf o dri ar ddeg o blant, ar fferm o'r enw "Moylon", a dyna pam ei dewis o ffugenw.