YR wythnos yma cyhoeddir hunangofiant Ant Evans, Llyfr Agored (Y Lolfa). Mae geiriau gonest a chignoeth yr awdur yn ein tywys hyd llwybr ei fywyd a’r heriau y mae wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd yn sgil ei anableddau.

Fe’i disgrifiwyd gan Jon Gower fel “cyfrol o onestrwydd dadlennol ac arbennig” ac Ant fel “dyn dewr, deallus ac yn Gymro i’r carn.”

Meddai Ant, sy’n wreiddiol o Harlech ond bellach wedi ymgartreu yn Nghaernarfon: “Penderfynais yn fuan iawn, os oeddwn am sgwennu llyfr oedd (gobeithio!) yn werth ei ddarllen, roedd rhaid cofnodi popeth – fel mae’r teitl yn ei awgrymu.

“Mae’r broses o gofio ’nôl wedi bod yn dipyn o daith emosiynol – yr hapusrwydd a’r tristwch, y pleser a’r boen, y pryder a’r hyder, y balchder a’r cywilydd.”

Mae Ant yn byw gyda’r cyflwr hydroseffalws, cyflwr niwrolegol, lle mae’r ymennydd methu â rheoli lefelau’r hylif CSF o gwmpas yr ymennydd. Dros y blynyddoedd mae wedi wynebu heriau di-ri ac anffafriaeth gan bob haen o’r gymdeithas.

Mae’r llyfr hefyd yn deyrnged i ddiweddar fam yr awdur – Elspeth – ac mae ei dylanwadau a’i chefnogaeth i’w mab yn bresenoldeb cyson ar hyd y daith. Mae’r gyfrol wedi’i chyflwyno iddi.

“Mam sydd wrth wraidd y person ydw i heddiw. Does 'na’m dwywaith, yn ystod y pedair blynedd ar hugain cyntaf o fy mywyd – ac mewn ffordd hyd yn oed wedi ei marwolaeth, gan fy mod yn awyddus i barchu ei gobeithion – y prif ddylanwad ar fy mywyd oedd Mam.

“O ’nghariad at ddarllen a’r awydd i anelu’n uwch na’r hyn oedd neb, heblaw amdani hi, yn ei ddisgwyl ohona i, i fy annibyniaeth gadarn. Rwy’n fythol diolchgar iddi am y fagwraeth ges i, ei charedigrwydd a’i chariad.”

O gelwyddau i ysbytai, pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a llyfrau, teithiau annisgwyl i ben draw’r byd, a’i frwydr barhaus i ddod o hyd i gartref addas a gwaith llawn amser, mae Ant yn benderfynol o edrych ar yr ochr gadarnhaol o bethau.

Meddai: “Doeddwn i erioed wedi ystyried sgwennu hunangofiant. Fy nghyfeillion – Nia, flynyddoedd yn ôl ym Mhrifysgol Bangor, a Jon Gower yn fwy diweddar yn y Four Alls yng Nghaernarfon – blannodd yr hedyn, ond roedd dipyn o waith dwyn perswâd arna i fod gen i stori gwerth ei hadrodd a’i rhannu.

“Dwi’n gobeithio y bydd Llyfr Agored yn dangos pwysigrwydd gonestrwydd. Hynny, a bod y darllenydd yn dysgu rhywbeth am yr heriau sy’n wynebu rhywun fel fi, a rhieni fel fy mam. Er gwaetha’r ffaith fod sgwennu’r gyfrol hon yn heriol dros ben, a ’mod i’n teimlo’n hynod o nerfus ynglŷn â’i chyhoeddi, dwi’n falch iawn fy mod i wedi ei sgwennu.”

Bydd Llyfr Agored yn cael ei lansio’n swyddogol am 1 o’r gloch ar ddydd Sadwrn 18 Ebrill yn Palas Print, Caernarfon. Jon Gower fydd yn holi Ant. Mae Llyfr Agored gan Ant Evans ar gael nawr (£10.99, Y Lolfa).