WRTH i’r gwanwyn gyrraedd o’r diwedd, daw S4C â chyfres newydd i’r sgrin sy’n llawn gogoniant byd natur.
Y naturiaethwr a’r darlledwr Iolo Williams fydd yn ein tywys ar daith obeithiol ledled Cymru ac Ewrop, gan rannu straeon am warchod, adfer a gwneud lle i fywyd gwyllt ffynnu yn ein trefi a’n dinasoedd.
Mae ‘Nôl o’r Dibyn yn dechrau ar S4C am 8.25 ar 1 Ebrill ac ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg.
“Dros y chwarter canrif nesaf mae’n hanfodol bwysig bod pob gwlad yn Ewrop yn gwneud eu gorau glas i ddiogelu’r cynefinoedd sydd ganddo ni ar ôl,” esbonia Iolo Williams, a ddaw’n wreiddiol o Landdwyn yn nyffryn Efyrnwy.
“Gall prosiectau trefol chwarae eu rhan yn hyn hefyd drwy greu gwarchodfeydd natur ar ein strydoedd ac yn ein cymunedau. Y newyddion da ydy y gall newidiadau syml gael canlyniadau enfawr.”
Yn rhaglen gynta’r gyfres newydd cawn ddilyn hanes adferiad dwrgwn yn ne a gorllewin Cymru, gweld sut mae’r minc wedi goroesi’r diwydiant ffwr yng ngogledd Sbaen, a dysgu sut mae dinas Belfast wedi llwyddo i ddenu’r drudwy yn ôl.
“Dros y blynyddoedd mae lefelau'r dwrgi yng Nghymru wedi newid yn sylweddol,” esbonia Iolo, sy’n ymddiddori mewn byd natur ers ei blentyndod. “Mi oedden nhw ar ei huchaf yn y 1950au, ond ar ôl i gemegau a llygryddion amaethyddol gael eu cyflwyno aeth y niferoedd i lawr yn gyflym iawn.”
Ers hynny mae nifer o brosiectau a chynlluniau wedi eu rhoi mewn lle i adfer cynefin y dwrgi. Un o’r rheiny y cawn ei hanes ar y rhaglen yw prosiect gan Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn Abertawe.
“Cilfert yw hwn, ni’n cael problems ‘da nhw.” Esbonia Andrew Thomas, sy’n gweithio i’r Ymddiriedolaeth. “Mae concrit ar y gwaelod… ac mae’r dŵr yn funello mewn i fan hyn, ac mae lot o pressure. S’dim lle i’r afon fynd mas. Ac mae’r dŵr yn gyflym felly mae’r dwrgwn ffili dod lan.”
Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem yn Afon y Llan yn Abertawe, mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe wedi gosod silffoedd mamaliaid o dan y pontydd, fel bod dwrgwn yn gallu mynd yn ddiogel heb orfod croesi’r ffordd.
“Ers bod y rhain mewn ym mis Chwefror does dim un dwrgi wedi marw felly mae hwnna’n dangos, mae’n gweithio. A ry’n ni yng nghanol Abertawe! Pwy fydda’n meddwl bod dwrgwn ‘ma?! Felly mae mor bwysig edrych ar ôl nhw.”
Daw stori gadarnhaol arall am ddenu bywyd gwyllt yn ôl yn ninas Belfast yn Ngogledd Iwerddon. Arferai’r drudwy glwydo o dan Bont Albert yn y ddinas, ond yn dilyn datblygiadau diweddar ar hyd glannau’r afon Lagan, a golau newydd, llachar, roedd niferoedd y drudwy wedi gostwng yn sylweddol. Mae themâu tebyg yn cael eu archwilio yn nes at adref, gan gynnwys bywyd y drudwyod ar bier Aberystwyth.
“Fe wnaethon ni greu portffolio o dystiolaeth i’w gyflwyno i’r adran gan ddweud wrthyn nhw, mae hyn yn broblem, ac mae’n cyfateb i’r datblygiadau yma,” meddai Conor Mckinney, ecolegydd lleol am yr ymgyrch. “Gofynnom ni a allwch chi ein helpu? A diolch byth, roedden nhw’n wych, ac yn barod i wneud newidiadau.”
Rhoddwyd newidiadau ar waith fyddai’n gwneud yr ardal yn dywyllach gyda’r nos, ac felly’n fwy atyniadol i’r drudwy. Gorchuddiwyd un ochr y lampau stryd yn ddu, a newidiwyd y goleuadau gwyn llachar i rai oren, mwy meddal.
“Gallai hwn fod wedi bod yn astudiaeth achos trasig, ond diolch byth, nawr gallwn ei ddefnyddio fel esiampl gadarnhaol. Ac anfon y neges allan nad oes angen i ddatblygiad fod ar draul bioamrywiaeth yn yr ardal, mae modd dod o hyd i atebion syml i warchod y fioamrywiaeth.”


.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.