WRTH drafod hanes canoloesol Cymru, mae yna duedd i ganolbwyntio ar y dynion; nhw oedd yr arweinwyr a’u storïau nhw sydd wedi goroesi. Yr wythnos hon cyhoeddir Nest Ferch Rhys (Y Lolfa) gan Marged Berry, nofel hanesyddol gyffrous a chythryblus sy’n dehongli’r prif gymeriad mewn ffordd wahanol i’r arfer.

Meddai Marged: “Roedd Nest ferch Rhys yn enwog yn ei hamser ei hun oherwydd roedd hi’n ferch i un brenin, yn gariad i un arall, ac fe gafodd ei herwgipio gan dywysog gan achosi sgandal mawr yn y cyfnod.

“Rwy wedi bod eisiau gwybod mwy am Nest ers clywed am ei hanes gan fy nhaid pan oeddwn yn fy arddegau.

“Mae’r disgrifiadau ohoni mewn llyfrau hanes naill ai’n cynnig romantic heroine neu ferch ‘lac ei moesau’. Hoffwn herio’r portreadau yma ohoni – rwy’n credu ei bod hi’n haeddu gwell na hynny, a bod y gwir yn llawer mwy cymhleth.”

Mae’r arlunydd Meinir Mathias wedi dod â Nest yn fyw gyda’i phortread trawiadol ar y clawr.

Dyma nofel gyntaf Marged Berry, er ei bod hi’n gyfarwydd iawn â’r byd cyhoeddi. Fe ddechreuodd y podlediad Sgribls yn 2023 ble mae’n sgwrsio gydag awduron am eu llyfrau a’r broses ysgrifennu.

“Fe wnes i greu’r podlediad hwn oherwydd mai dyma’r math o bodlediad roeddwn yn mwynhau gwrando arno yn Saesneg,” meddai Marged.

“Mae’r podlediad wedi cymryd saib wrth i mi ganolbwyntio ar driniaeth canser y fron yn ystod y deunaw mis diwethaf, ond rwy’n edrych ymlaen i ailgydio ynddo flwyddyn yma!

“Mae sgwrsio ag awduron a golygyddion eraill wedi rhoi gwell syniad i mi o ran beth i’w ddisgwyl o’r broses gyhoeddi a sut mae awdur yn ei deimlo wrth weld ei waith ar y silff!”

Mae Nest Ferch Rhys yn dilyn Nest sy’n ddeg oed pan mae ei bywyd yn chwalu’n deilchion; mae ei thad, y Brenin Rhys ap Tewdwr, wedi marw, a gweddill ei theulu wedi eu gwasgaru wrth i’r Normaniaid ddinistrio Deheubarth.

Mae siwrne Nest yn ei harwain i’r Gororau’n garcharor, i Lundain at lys Brenin Lloegr, ac o’r diwedd yn ôl i Gymru. Wrth iddi geisio canfod tynged ei theulu, a throedio’r llwybr ansicr rhwng y Normaniaid a’r Cymry, caiff ei llusgo i ganol terfysg gwaedlyd, ac mae’n rhaid i Nest benderfynu lle mae ei theyrngarwch, a mentro pob dim i ddod o hyd i’w ffordd yn ôl i’r man mae hi wir yn perthyn iddo.

Ychwanegodd Marged: “Rwy’n awyddus i gyflwyno persbectif benywaidd i hanes canoloesol Cymru – dyna sy’n fy niddori i.

“Mae’r ffaith ein bod yn galw’r cyfnod yn ‘Oes y Tywysogion’ yn dweud y cyfan! Pwy oedd y merched tu ôl i’r enwau sydd wedi goroesi? Pa fath o fywyd oedd ganddyn nhw? Sut oedden nhw’n dylanwadu ar ddigwyddiadau’r cyfnod? A pham ydyn ni’n gwybod cyn lleied amdanyn nhw heddiw?”

Bydd Nest Ferch Rhys yn cael ei lansio’n swyddogol ar nos Iau, y 9fed o Ebrill am 7 o’r gloch yng Nghlwb Criced Porthaethwy. Francesca Sciarrillo fydd yn holi’r awdur.

Mae Nest Ferch Rhys gan Marged Berry ar gael nawr (£11.99, Y Lolfa).