YR wythnos hon gwelir cyfrol hardd clawr caled sy’n anrhydeddu’n llenyddiaeth yn cael ei chyhoeddi.
Mae Cymru: 100 Llyfr gan Jon Gower (Y Lolfa) yn cynrychioli Cymru ar ffurf detholiad o 100 o hoff lyfrau Cymraeg a Saesneg un o’n llenorion amlycaf, yn ddathliad o glasuron a chyfrolau modern.
Bwriad ac amcan y fenter ydy codi proffil amrywiol lyfrau a straeon o bob cwr, gwedd a chefndir o’r wlad – ac yn hynny o beth, sbarduno trafodaethau a chreu awch am ddarllen yma yng Nghymru.
Meddai Jon Gower: “Roedd hyd yn oed cychwyn ar y broses o ddewis megis bwrw talcen caled oherwydd y teimlad bod 'na bobl eraill fel Angharad Price neu Jerry Hunter oedd yn dipyn mwy cymwys ac ysgolheigaidd na fi.
“A hyd yn oed wedi derbyn yr her fy hunan, sut ar y ddaear oedd e’n bosib didoli bywyd o ddarllen brwd i gant o gyfrolau?
“Ond wedyn daeth fflach o ysbrydoliaeth ar drip trên hir o Skegness i Gaerdydd wrth imi gofio am Wales: 100 Records gan y DJ dawnus Huw Stephens.
“Beth petaswn i’n creu set o lyfrau yn yr un modd ag y byddai DJ yn ei wneud gyda disgiau, gyda’r naill gân neu drac yn llifo’n naturiol i’r llall.
“Felly cyfres o segues yw Cymru: 100 Llyfr, gyda chysylltiad amlwg rhwng, dyweder On the Red Hill ac On the Black Hill, neu tu ôl i’r awyr a Blue Sky July, Wild Wales a Gwrach y Gwyllt?
Mae’r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o gelfwaith cloriau, lluniau o awduron ac ambell ddyfyniad, gyda darn byr o destun am bob un o’r can llyfr a ddewiswyd.
Bydd Cymru: 100 Llyfr (Y Lolfa) yn cael ei lansio’n swyddogol am 7 o’r gloch ar nos Fawrth, 24ain o Dachwedd yn Kings Road Yard, Pontcanna, gyda Huw Stephens yn holi Jon Gower.






Comments
We've recently changed our login process. If you have an account for commenting, you will need to re-register on the login window.
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.