MAE gwefan am ddim, Beth yw'r gair Cymraeg am...? yn ateb y cwestiwn cyffredin hwnnw.

Boed yn yr ystafell ddosbarth, ar y cyfryngau cymdeithasol neu yn y gweithle, mae Beth yw'r gair Cymraeg am...? yma i helpu pobl i ddarganfod lle i ddod o hyd i eiriau ac ymadroddion Cymraeg.

Y wefan yw'r lle i ddechrau os ydych chi'n chwilio am eiriaduron a chronfeydd data terminoleg Cymraeg. Mae ar gael nawr, a gellir mynd at y wefan drwy gyfrifiaduron, cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar.

Mae'r lansiad swyddogol yn digwydd ar Ddiwrnod Ieithoedd Ewrop 2025, sy'n dathlu'r amrywiaeth ieithyddol gyfoethog ledled Ewrop ac yn annog pobl i ddysgu ieithoedd newydd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae'r wefan newydd hon yn ei gwneud hi'n haws nag erioed i bobl ddarganfod geiriau Cymraeg yn eu bywydau bob dydd.

“P'un a ydych chi'n helpu'ch plentyn gyda'i waith cartref, yn dysgu Cymraeg, yn ceisio defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith, neu'n chwilfrydig yn syml iawn ynghylch gair Cymraeg, mae'r wefan yn fan cychwyn perffaith."