LLOFRUDDIAETH ddwbl yng nghefn gwlad Ceredigion fydd testun sgwrs gyntaf Cyfres Hanes Lleol canolfan newydd Ysgol Cribyn.

Ychydig gyda chan mlynedd yn ôl brawychwyd ardal gyfan gan lofruddiaeth Mary Evans a’i mab Samuel yng Nghlawdd Moel, ffarm fach ryw filltir o bentre Cribyn, Dyffryn Aeron.

Medd Arwel Jones, yr hanesydd lleol a fydd yn cyflwyno’r sgwrs: “Doedd fawr o ddirgelwch siwt y lladdwyd y ddau – roedd dryll dwbl-faryl gerllaw.

“Ond pam y’u saethwyd a siwt yn y byd mawr daeth y sawl a amheuwyd o’r drosedd erchyll yn rhydd? Dyna ddau o’r cwestiynau mwya’ y byddai’n trio mynd i’r afael â nhw yng Nghribyn.”

Perchnogwyd cyn-ysgol y pentre gan bobl Cribyn ddwy flynedd yn ôl ac ail-agorwyd ar ddechrau mis Medi eleni yn ganolfan gymdeithasol ac yn ganolbwynt ar gyfer addysg leol.

Medd Euros Lewis, arweinydd y prosiect: “Pan gaeodd yr ysgol yn 2009 roedd bobol Cribyn yn benderfynol o sicrhau addysg yn ddynameg greadigol er parhad a datblygiad y gymdogaeth.

“Wrth ail-agor yr ysgol ry’ ni wedi penodi Swyddog Addysg (Bethan Eynon-Stobbs) yn unswydd er mwyn hybu’r broses o gydymaddysgu, sef dysgu oddi wrth ein gilydd, am ein gilydd, ac er mwyn ein gilydd.

“Yn wyneb canoli addysg mewn ysgolion ardal ynghyd a newydd-ddyfodiad pobl ddi-Gymraeg mae cydymaddysgu yn broses holl bwysig er cynnal y Gymraeg yn iaith arweiniol ein cymdogaethau.”

Mi fydd hanes lleol a hanes Cymru yn ganolog i raglen addysg Ysgol Cribyn.

Medd Bethan Eynon-Stobbs: “Sgwrs Arwel Jones nos Iau nesaf (19 Tachwedd) fydd y digwyddiad cyntaf mewn cyfres o sgyrsiau hanes i’w cynnal dros fisoedd y gaeaf.

“Cymraeg fydd iaith y cyflwyno iddynt oll gyda gwasanaeth cyfieithu ar-y-pryd yn sicrhau mynediad cymdogion di-Gymraeg at gyfoeth yr hanes. Ma’ clywed gymaint ma’ bobol yn edrych mla’n yn gyffrous iawn.”

LLOFRUDDIAETH DDWBL CLAWDD MOEL – Arwel Jones, Cilie Aeron – Canolfan Ysgol Cribyn – nos Iau, 19 Tachwedd, 2026 – 7 o’r gloch