GYDAG Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ymweld ag Ynys Môn am y tro cyntaf ers 2004, bydd criw o wirfoddolwyr lleol yn cael eu hanrhydeddu am eu cyfraniad arbennig i fudiad yr Urdd yn ystod yr ŵyl.

Bob blwyddyn mae’r Urdd yn gweithio gyda’r pwyllgor gwaith lleol i ddewis y Llywyddion Anrhydeddus ac yn Ynys Môn eleni, mae saith unigolyn wedi eu dewis.

Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn fydd Alwen Jones (Amlwch), Ann Peters Jones (Caergybi), Derek Evans (Llannerch-y-medd), Edward Morus Jones (Llangristiolus), Grês Pritchard (Llannerch-y-medd), Helen Evans (Talwrn) a Rhian Lloyd Jones (Bodffordd).

Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydol yr Urdd: “Mae’r saith sy’n cael eu hanrhydeddu eleni wedi rhoi blynyddoedd o gefnogaeth i’r Mudiad. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hollbwysig yng ngwaith yr Urdd, ac edrychwn ymlaen yn arw at gydnabod ymrwymiad a gwaith y saith mewn seremoni arbennig ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Sul, 24 Mai.”

Am y tro cyntaf erioed, bydd Eisteddfod yr Urdd yn ymestyn i fod yn ŵyl 7 diwrnod eleni, ac yn cael ei chynnal yng Nghae Sioe Môn rhwng dydd Sadwrn, 23 Mai a dydd Gwener, 29 Mai.

Dyma fwy am y saith fydd yn cael eu hanrhydeddu ar Faes Eisteddfod yr Urdd eleni:

Alwen Jones, Amlwch

Daw Alwen Jones yn wreiddiol o Amlwch ac mae wedi ymwneud â’r Urdd mewn amryw o ffyrdd ers ei dyddiau yn Ysgol Syr Thomas Jones.

Cafodd Eisteddfod lwyddiannus iawn pan ddaeth yr Urdd i Borthaethwy yn 1976 gan ennill ar y Siarad Cyhoeddus, dod yn ail yng Nghystadleuaeth y Gadair, a dod yn drydydd yng Nghystadleuaeth y Fedal Lenyddiaeth.

Aeth ymlaen wedyn i Goleg y Drindod, Caerfyrddin i ddilyn cwrs Addysg, lle bu’n cystadlu mewn amrywiaeth o feysydd.

Ar ôl symud yn ôl i Fôn, ymunodd ag Aelwyd yr Ynys gan ddechrau hyfforddi. Yn y cyfnod yma, ymddiddorai mewn ysgrifennu geiriau ar gyfer caneuon actol a chafwyd llwyddiant cyson yn y gystadleuaeth mewn eisteddfodau cenedlaethol.

Bu’n ysgrifennydd y Rhanbarth am chwarter canrif, a oedd yn cynnwys y cyfrifoldeb heriol o drefnu eisteddfodau sir. Pan ddaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Fôn yn 2004, hi oedd ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, teimla ei bod wedi cael modd i fyw fel aelod gweithgar o’r Pwyllgor Apêl Lleol yn Amlwch, gan gydweithio ag unigolion a mudiadau sydd, fel hithau, yn gwerthfawrogi cyfraniad yr Urdd at fywydau ieuenctid Cymru.

Teimla mor lwcus a balch ei bod wedi cael y cyfle i dalu yn ôl i fudiad a fu mor allweddol yn ei bywyd ac mor agos at ei chalon.

Ann Peters Jones
Ann Peters Jones (Urdd)

Ann Peters Jones, Caergybi

Yn enedigol o Bont-rhyd-y-bont, fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd y Fali, Ysgol Uwchradd Caergybi a Choleg Cartrefle Wrecsam, lle enillodd ddiploma ALCM. Parhaodd gyda’i haddysg yn Academi Frenhinol yr Alban lle derbyniodd radd BA mewn perfformio.

Cychwynnodd ei gyrfa addysgu yn Ysgol Gynradd Llanfawr, Caergybi cyn treulio cyfnod o bymtheg mlynedd fel Pennaeth Cerdd yn Ysgol Gyfun Llangefni. Bellach, mae Ann yn gerddor llawrydd ac yn gweithio i Wasanaeth Cerdd Gwynedd a Môn ac elusen dementia ‘Forget me not’. Ers dros ddeugain mlynedd, mae hi hefyd yn dysgu llais a phiano yn breifat ac yn ymfalchïo yn llwyddiannau ei disgyblion yn genedlaethol.

Mae galw mawr am ei gwasanaeth mewn eisteddfodau a chyngherddau fel cyfeilydd, a bu’n cyfeilio i nifer o gorau, gan gynnwys Côr Ieuenctid Môn.

Cafodd Ann brofiadau cynnar o gystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd ac mae’n parhau i fod yn gyfeilydd a beirniad mewn eisteddfodau lleol. Mae ei diddordebau yn cynnwys cyfansoddi caneuon i blant, ac mae’n hynod falch fod pedair o’r caneuon a gyd-gyfansoddodd gyda’i ffrind Delyth Wyn Jones wedi cael eu cynnwys yn nhestunau prifwyl yr Urdd eleni.

Mae Ann yn hynod ddiolchgar am y fraint a’r anrhydedd o gael bod yn un o Lywyddion prifwyl yr Urdd Ynys Môn yn 2026.

Derek Evans
Derek Evans (Urdd)

Derek Evans, Llannerch-y-Medd

Mae Derek wedi ei eni a’i fagu ar yr ynys, gan gael ei addysg gynradd yn Ysgol Bodorgan cyn mynd yn ei flaen i Ysgol Gyfun Llangefni.

Dechreuodd ei yrfa fel athro yn Ysgol Rhoscolyn yn 1978 ac yn y flwyddyn honno fe ddaeth yn rhan o Bwyllgor Cylch yr Urdd am y tro cyntaf.

Bu’n gweithio fel dirprwy bennaeth yn Ysgol Gwalchmai (dafliad carreg o faes yr Eisteddfod eleni), cyn mynd yn ei flaen i fod yn bennaeth Ysgol Llanddeusant am rai blynyddoedd. Yno, rhoddodd gyfle i’r plant gystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd ac aros Nglan-llyn a Llangrannog, a oedd yn hollbwysig i blant cefn gwlad Môn.

Yn 2004 cafodd y fraint o gael ei ethol yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Môn, profiad bythgofiadwy y mae’n ei drysori.

Mae Derek yn parhau i fod yn aelod ffyddlon o Bwyllgor Rhanbarth Ynys Môn ac wedi cadeirio’r Pwyllgor ers blynyddoedd bellach. Mae wedi gweld y mudiad yn mynd o nerth i nerth ar yr ynys o dan arweiniad sawl Swyddog Datblygu medrus.

Braint iddo oedd gweld yr Eisteddfod yn dychwelyd i’r fam ynys a chael bod yn rhan allweddol o’r trefniadau fel Is-gadeirydd y Pwyllgor gwaith ac un o lywyddion anrhydeddus yr Eisteddfod. Mae’n hyderus y bydd yr Eisteddfod yn llwyddiant ysgubol.

Edward Morus Jones
Edward Morus Jones (Urdd)

Edward Morus Jones, Llangristiolus

Ac yntau wedi ei fagu yn Llanuwchllyn, sef ardal sylfaenydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards, doedd hi’n fawr o syndod i Edward ymaelodi yn gynnar iawn yn ei hanes. Roedd hynny bron i 75 mlynedd yn ôl.

Yn Llanuwchllyn, ers pan oedd yn ifanc iawn, cafodd gyfle gyda’i ffrindiau mewn adran ac aelwyd i eisteddfota, diddanu, cyd-chwarae a gwersylla yn Llangrannog a Glan-llyn.

Daeth llu o gyfleoedd gwerthfawr iddo trwy’r Urdd ar hyd y blynyddoedd.

Bu’n Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd (Abertawe 1971) ac yna yn Is-Lywydd y mudiad i’r Fonesig Edwards, eto yn y 1970au. Cadeiriodd bwyllgorau Cylch a Sir y mudiad am flynyddoedd, gan ddod yn aelod o’r Cyngor am dros bum mlynedd ar hugain, gan arwain y Panel Dyngarol a drefnai’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da.

Bu’n arwain, hyfforddi a beirniadu yn lleol ac yn genedlaethol am flynyddoedd. Edward a arweiniodd un o sesiynau jamborî mawr cyntaf yr Urdd, a bu’n cyd-drefnu’r recordio ac yn perfformio ar y record hir, ‘Caneuon Gwersyll’, yng Nglan-llyn.

Roedd yn un o’r tîm bach a drefnodd i wahodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Ynys Môn y tro diwethaf iddi ymweld yn 2004. Yn sgil ei swydd fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, mentrodd ysgwyddo un swydd eithaf annisgwyl, sef trefnydd holl anghenion maes carafanau’r ŵyl!

Gwelodd hi’n fraint cael cyfrannu at waith y mudiad – mudiad a fu mor allweddol yn hanes ieuenctid Cymru ac yn gwireddu breuddwyd Syr Ifan.

Grês Pritchard
Grês Pritchard (Urdd)

Grês Pritchard, Llannerch-y-Medd

Ers yn blentyn ifanc iawn breuddwydiai Grês am gael chwarae’r piano a dysgu plant bach.

Cafodd ei thalent unigryw ei gydnabod wrth iddi hi gael ei hurddo gyda’r Wisg Werdd 1960 a’r wisg wen yn 2006. A hithau bellach yn ei hwythfed degawd mae hi’n adnabyddus fel cyfeilydd, athrawes, hyfforddwraig ac arweinydd o fri.

Bu’n gyfeilydd Côr Meibion y Traeth am 46 o flynyddoedd a chael ei anrhydeddu gyda’r MBE yn 2010. Yn ystod y cyfnod yma hefyd bu’n cyfeilio i Hogia Bryngwran - criw o gantorion oedd yn llenwi capeli a neuaddau cyngerdd gyda’u perfformiadau lliwgar.

Ar ôl priodi a dod i fyw i Lannerchymedd sefydlodd Parti’r Llan. Ac yn 2000 mi barhaodd y traddodiad wrth iddi hi sefydlu Lleisiau Llannerch a Meibion y Foel.

Bu’n cyfeilio yn eisteddfodau Marianglas, Llanddeusant, Eisteddfod Môn a’r Genedlaethol. Mae eisteddfodau’r Urdd wedi bod yn rhan bwysig iawn o’i gyrfa ac yn agos iawn at ei chalon.

Mae miloedd o blant a phobl ifanc wedi elwa o’i harweiniad cadarn. Byddai Ysgol gynradd Amlwch yn dod i’r brig yn gyson o dan ei harweinyddiaeth ac yna Ysgol gynradd Penysarn rhwng 1980 a 2015. Mae’r llwyddiant yn parhau hyd heddiw wrth iddi hi roi ei stamp ar blant Ysgol Gymraeg Morswyn a nifer o ysgolion cynradd eraill.

Ar y piano mae Grês yn frenhines - ac mae bod yn Llywydd Anrhydeddus yn goron ar y cyfan.

Helen Evans
Helen Evans (Urdd)

Helen Evans, Talwrn

Yn enedigol o Laneilian, mae Helen wedi ymgartrefu ers blynyddoedd lawer ym mhentref Talwrn ger Llangefni, efo’i gŵr, Gareth, a’r plant, Nia a Geraint.

Ymunodd â’r Urdd ar ddechrau’r 1960au a chael y fraint o fod yn rhan o gyflwyniad llafar yn cynrychioli’r sir mewn dwy o eisteddfodau’r de, gan fwynhau’r profiad o gystadlu ac aros gyda theuluoedd yn yr ardal.

Aeth Helen yn ei blaen i fod yn athrawes, gan hyfforddi grŵp llefaru i ddysgwyr tra’n gweithio yn Ysgol Bryn Offa, Wrecsam. Dychwelodd wedyn i Fôn ac i Ysgol Gyfun Llangefni lle bu’n gyfrifol am yr Urdd am dros ddeng mlynedd ar hugain. Ar hyd y blynyddoedd, bu’n rhan allweddol o Bwyllgor Cylch Cefni a Phwyllgor Rhanbarth Môn, ac am gyfnod bu’n Ysgrifennydd Eisteddfodau Rhanbarth Cynradd ac Uwchradd Môn.

Yn ystod yr 1980au roedd Helen yn un o griw o rieni a ailsefydlodd yr Aelwyd yn Nhalwrn, a fu’n boblogaidd iawn am flynyddoedd. Mae’r Urdd yn parhau’n bwysig iawn i Helen gan fod ei merch yn un o sefydlwyr ac arweinyddion Uwch Adran ac Aelwyd Yr Ynys ac Adran Bro Alaw.

Mae Helen yn falch iawn fod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dychwelyd i Fôn ac yn dymuno pob llwyddiant i bawb a fydd yn cael cyfle i gystadlu yn y Fam Ynys.

Rhian Lloyd Jones
Rhian Lloyd Jones (Urdd)

Rhian Lloyd Jones, Bodffordd

Yn wreiddiol o Sir Feirionnydd, cafodd Rhian sylfaen ardderchog ym myd canu a chystadlu yn Adran yr Urdd Corwen, yn Ysgol y Berwyn ac yna yn Ysgol y Gader. Tra yn Ysgol y Gader, cafodd gyfle i gyfeilio i gôr yr ysgol ac eisteddfodau lleol yr Urdd.

Wedi cyfnod yn y Coleg Normal lle bu’n cyfeilio i gôr ac eisteddfod y coleg, symudodd Rhian i Fôn i’w swydd gyntaf fel athrawes yn Ysgol Llanfachraeth. Yma cafodd y cyfle cyntaf i hyfforddi nifer o blant i ganu yn unigol ac mewn partïon a chorau.

Parhaodd y diddordeb i hyfforddi yn Ysgol Rhosneigr ac Ysgol Llanddeusant. Mae Rhian yn falch o’r cyfleon a gafodd ac yn hynod o ddiolchgar i’r cenedlaethau o blant, ynghyd â chydweithwyr, am yr hwyl, y gefnogaeth a’r asbri .

Sefydlwyd Adran Bentref yn Bodffordd, ble mae Rhian yn byw, a bu’n un o’r hyfforddwyr a ddaeth â chryn lwyddiant i’r pentref dros y blynyddoedd.

Mae Rhian wedi parhau i gyfeilio i eisteddfodau’r Urdd yma ym Môn ac mae’n gyfeilydd i Gôr Meibion Goronwy.