MAE Manon Steffan Ros wedi cyhoeddi nofel arall i’r arddegau sef Y Cae Ras.
Nid dyma’r tro cyntaf iddi ysgrifennu llyfr am bêl-droed wedi iddi ennill categori uwchradd gwobr Tir na n-Og efo Fi a Joe Allen yn 2019. Cyhoeddodd hefyd Fi ac Aaron Ramsey yn 2021.
Mae Manon wrth ei bodd efo pêl-droed ac yn gefnogwr brwd o dîm Lerpwl yn ogystal â Chymru.
Cafodd y nofel ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Eleni, mae hi hefyd wedi ysgrifennu sioe newydd sbon ar y cyd ag Osian Huw Williams (Candelas) am bêl-droed, sef Y Stand.
Perfformwyd y sioe ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ar yr 2il a’r 4ydd o Awst.
Tebyg yw themâu’r sioe i’w nofel newydd – teulu, tor-calon, anobaith, gobaith, ffawd ac wrth gwrs... Wrecsam.
Yr efeilliaid, Danny a Mali, yw prif gymeriadau Y Cae Ras. Er eu bod yn hollol wahanol i’w gilydd – Danny yn gydwybodol a gweithgar a Mali yn heriol ac yn mwynhau tynnu blewyn o drwyn yr athrawon – maen nhw’n ffrindiau mawr.
Maent yn byw o fewn tafliad carreg i’r stadiwm a phêl-droed yw eu byd – nes i un person gyrraedd a newid popeth.
Pan gaiff Mam gariad newydd sydd wedi gwirioni ar Danny, teimla Mali nad ydy hi’n rhan o’r teulu bellach ac mae’n penderfynu rhedeg i ffwrdd.
Ond a fydd ei chariad at bêl-droed, Y Cae Ras a Wrecsam yn ei thynnu yn ôl at ddiogelwch ei theulu?
Dywedodd Manon Steffan Ros, “Mae sgwennu Y Cae Ras wedi bod yn brofiad gwirioneddol hyfryd, yn arbennig dod i adnabod ardal Wrecsam, a threulio ychydig o amser yno ymysg y gymuned arbennig.
“Mae’r nofel yn trafod y gwahanol ddisgwyliadau sydd i genod a hogiau ifanc, a’r ffordd mae cymdeithas yn cyflyru pobol i ymddwyn ryw ffordd arbennig yn dibynnu ar eu rhyw. Ond mewn gwirionedd, stori brawd a chwaer sydd yma, a chymhlethdodau sy’n codi fel rhan o fod yn deulu. Dwi’n gobeithio’n fawr y bydd darllenwyr yn mwynhau – y plant y sgwennais i’r llyfr ar eu cyfer, ia, ond hefyd y cenedlaethau sy’n magu’r plant hynny!”
Dyma nofel afaelgar a theimladwy, llawn antur a dirgelwch – nofel a fydd at ddant pawb boed yn blentyn neu’n oedolyn, boed yn ffan o bêl-droed ai peidio!
Cyhoeddir Y Cae Ras ar y 1af o Awst, 2025 gan Y Lolfa (£7.99). Bydd y nofel ar werth ar faes yr Eisteddfod ac yn y pafiliwn yn ystod perfformiadau Y Stand. Bydd Manon hefyd yn gwneud sesiwn lofnodi ar stondin Siop Inc ddydd Iau am 1pm.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.