MAE ymddiriedolwyr Cronfa Goffa Saunders Lewis wedi cyhoeddi enwau’r tri fydd yn derbyn ysgoloriaethau eleni ac mae tipyn o amrywiaeth yn y meysydd gaiff sylw ganddynt.
Dilyniant i gyfrol lwyddiannus, cymhariaeth rhwng perchentyaeth tir yng Nghymru a gwlad Pwyl ac astudiaeth o’r ffigwr adnabyddus Myrddin Llydaw yw’r meysydd dan sylw a’r tri llwyddiannus yw Iestyn Tyne, Rhianwen Daniel a David Callander.
Caiff Ysgoloriaeth Cronfa Goffa Saunders Lewis ei chynnig bob dwy flynedd ac mae cyfle i’r ymgeiswyr llwyddiannus dreulio amser ar gyfandir Ewrop yn astudio mewn amryw o feysydd, sef drama a/neu ffilm, systemau gwleidyddol a chysylltiadau llenyddol y celfyddydau cain gan gynnwys cerddoriaeth.
Mae’n bosib iddynt hefyd gyflwyno astudiaeth yn ymwneud â chyfraniad Saunders Lewis i lên, theatr neu wleidyddiaeth Cymru.
Yn dilyn cyhoeddi ei gyfrol ffeithiol-greadigol Y cyfan a fu rhyngom ni, bwriad Iestyn Tyne yw sgwennu dilyniant sydd yn olrhain hanes Morris T Williams y clywn amdano ar ddiwedd y nofel gyntaf, fel yr eglura Iestyn: “Ar ddiwedd Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni, clywn am Morris T. Williams – a fu mewn perthynas â Prosser Rhys yng Nghaernarfon rhwng 1920 a 1921 – a’i ymadawiad â Chymru, yn sgil chwalu ei obeithion am y garwriaeth a marwolaeth ei dad.
“Roeddwn wastad wedi ystyried y gyfrol gyntaf yn rhan o brosiect ehangach, ond mae ymatebion eraill ers ei chyhoeddi wedi cadarnhau fod galw am glywed mwy am, a chan, Morris.
“Mae’r ysgoloriaeth hon yn ei gwneud yn bosib i fi dreulio amser yn ymchwilio i’w hanes a’i gyfnod ym Mharis gyda’r bwriad o gyhoeddi ail nofel yn croniclo hanes Morris yn y ddwy flynedd nesaf.”

I gyfeiriad tra gwahanol yr aiff Rhianwen Daniel fel yr esbonia hi: “Diben y prosiect hwn yw archwilio perthnasedd cyfredol syniadaeth wleidyddol Saunders Lewis ynglŷn â ‘perchentyaeth’, sef pwysigrwydd ffyniant busnesau a ffermydd bach-canolig lleol ar gyfer cynnal gwladgarwch a gwarchod treftadaeth diwylliannol.
“Fy mwriad yw gwneud astudiaeth gymhariaethol rhwng Cymru a Gwlad Pwyl – gwlad Gatholig lle mae ffermio teuluol hefyd wedi bod yn holl bwysig i’r bywyd a diwylliant ‘gwerin’ a’r hunaniaeth genedlaethol. Ond y mae bellach yn wynebu bygythiadau cynyddol wrth i’r diwydiant ffermio gael ei fecaneiddio a’i ddisodli’n gynyddol gan gwmnïau mawr rhyngwladol amhersonol heb gyfrifoldebau lleol.
“Rwy’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol hyn sydd yn golygu y gallaf dreulio amser yng ngwlad Pwyl yn astudio yn ddyfnach yr elfennau sydd yn effeithio ar gefn gwlad yno a chymharu hynny gyda’r hyn sydd yn digwydd yma yng Nghymru.”

Mae Myrddin Llydaw ymhlith yr ychydig ffigyrau hynny a anturiodd o’r gwareiddiad Brythonig i ennill enwogrwydd byd-eang ac mae yn ffigwr o berthnasedd amlwg i waith Saunders Lewis yn ôl David Callander: “Ffigwr gwleidyddol fu Myrddin erioed, yn ganolog i’r traddodiad proffwydol a’r cysyniad o feibion darogan.
“Bydd y prosiect hwn yn gyfle i gymharu sut y’i defnyddiwyd ac y’i defnyddir hyd heddiw yn Llydaw. Bydd hyn yn ei dro â’r potensial i daflu goleuni newydd ar y defnydd a wneir o ffigwr Myrddin yng Nghymru.
“Mae llenyddiaeth Llydaw yn gyforiog â chyfeiriadau at Fyrddin, ac mae’r ysgoloriaeth hon yn glygu y caf gyfle i ymweld â’r ddwy brif ganolfan ar gyfer Astudiaethau Llydaweg ym Mhrifysgolion Rennes a Brest a bwriedir rhannu fy amser rhwng y ddau sefydliad hyn.”
Yn ôl cadeirydd Ymddiriedolwyr y Gronfa, yr Athro M Wynn Thomas, roedd y ceisiadau a dderbyniwyd eleni o safon uchel tu hwnt ac anodd oedd penderfynu ar y rhai llwyddiannus: “Sefydlwyd y gronfa yn wreiddiol i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc yn bennaf i ymchwilio i feysydd oedd o ddiddordeb i Saunders ei hun.
“Mae hyn wedi galluogi Cymry ifanc i dreulio peth amser ar gyfandir Ewrop er mwyn gweld pa arwyddocâd a allai fod i Gymru yn y datblygiadau Ewropeaidd – cyfoes neu hanesyddol – yn y meysydd hyn.
“Roedd y ceisiadau eleni, nid yn unig yn hynod safonol, ond yn amrywiol tu hwnt, fel y gellir gweld gan y rhai a ddaeth i’r brig. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld rhain yn cael eu gwireddu yn y blynyddoedd nesaf ac rwy’n hyderus y gwnant gyfraniad pwysig i’r byd llenyddol yma yng Nghymru.”
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.