MAE delweddau cyntaf o’r ail gyfres o ddrama ddirgelwch lwyddiannus S4C, Y Golau / The Light in the Hall, wedi'u rhyddhau. Teitl yr ail gyfres yw Y Golau: Dŵr, bydd yn darlledu ar S4C, gydag isdeitlau, o nos Sul, 14 Medi 2025.
Mae’r fersiwn Saesneg, The Light in the Hall: Still Waters, wedi’i chaffael gan Channel 4 ac AMC+.
Yn Y Golau: Dŵr, rydyn ni’n dychwelyd i bentref ffuglennol Llanemlyn, lle mae cynllun ail-ddatblygu dadleuol i ehangu’r gronfa ddŵr yn deffro hen densiynau.

Mae’r stori’n swyno Caryl, newyddiadurwraig ifanc, yn llwyr ac mae’n cael ei hamsugno i we gymhleth o frad personol, cyfrinachau teuluol a dirgelion tywyll – gan godi amheuon newydd am garcharu Rhys Owen a gyhuddwyd o lofruddio ei gefnder Llŷr yn ystod protest yn erbyn yr ehangu yn 1995.
Cafodd y gyfres gyntaf o Y Golau ei darlledu ym mis Mai 2022 ac fe’i derbyniwyd yn frwd gan wylwyr, gyda’r fersiwn Saesneg yn cael ei dangos ar Channel 4.
Yn ogystal â’r enwau cyfarwydd o’r gyfres gyntaf, mae’r ail gyfres yn cynnwys cast disglair o actorion gyda Siân Reese-Williams (Craith, 35 Diwrnod, Y Gwyll) fel Caryl Huws, Mark Lewis-Jones (Yr Ymadawiad, Dal y Mellt) fel Rhys Owen, Nia Roberts (Pren ar y Bryn, Yr Amgueddfa) fel Eve Davies a Robert Glenister (Sherwood, The Night Caller, Hustle) fel Robert Davies.

Ymhlith y cast cefnogol mae Tom Rhys Harries (sy’n serennu fel Clayface yn ffilm DC sydd i’w ffilmio yr hydref hwn) fel Hari Breckon, Maeve Courtier-Lilley fel Mabli Davies Owen, Wyn Bowen Harries fel Bryn Owen, Mali Tudno Jones fel Megan Breckon, Matthew Gravelle fel Gareth Breckon, a Gillian Elisa fel Eunice.
Ysgrifennwyd y gyfres gan Regina Moriarty, sy’n gyfrifol hefyd am y gyfres gyntaf. Mae dau bennod wedi'u hysgrifennu ganddi hi, gyda'r pedair arall gan lenorion Cymreig blaenllaw:Siân Naiomi, Anwen Huws, Catherine Linstrum ac Angharad Elen.
Cynhyrchir Y Golau: Dŵr gan Triongl, Long Story TV ac APC ar gyfer S4C, mewn cydweithrediad ag AMC+, Channel 4 a Llywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol.
Comisiynwyd y gyfres ar gyfer S4C gan Gwenllian Gravelle, Pennaeth Ffilm a Drama S4C. Comisiynwyd y fersiwn Saesneg, Still Waters, gan Channel 4. Mae’r ddwy gyfres yn gynyrchiadau gan Triongl / Long Story TV.

Dywedodd y cynhyrchydd Nora Ostler Spiteri: “Mae wedi bod yn bleser cydweithio eto gyda Long Story ac APC i ddod â’r stori hon i’r sgrin. Diolch enfawr i Gwenllian Gravelle a S4C am eu cefnogaeth, ac i Sundance Now, Cymru Greadigol a Channel 4 am ei gwneud hi’n bosib. Roedd yn wych dychwelyd i Lanymddyfri i ail-greu byd y gyfres gyda chast a chriw mor dalentog.”
Dywedodd Gwenllian Gravelle, Pennaeth Ffilm a Drama S4C: “Ar ôl llwyddiant ysgubol cyfres gyntaf Y Golau, mae’r byd o amgylch Llanemlyn yn dychwelyd gyda dirgelwch sy’n dywyllach, yn ddyfnach ac yn fwy cyffrous nag erioed. Gyda chast eithriadol a stori sy’n eich dal o’r eiliad gyntaf, mae hwn yn daith na ddylai ein cynulleidfa ei cholli.”
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.