AR Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant bu i’r actor adnabyddus Matthew Rhys ymuno â’r gantores a’r gyfansoddwraig Caryl Parry Jones i lansio Calon, drama gerdd newydd Cwmni Theatr yr Urdd mewn cydweithrediad â Theatr Cymru, mewn digwyddiad arbennig yn Amgueddfa Sain Ffagan.

O flaen cynulleidfa eiddgar bu i Matthew rannu ei brofiadau cynnar gyda’r Urdd ynghyd â holi Caryl am y broses o greu’r ddrama gerdd gyfoes, fydd yn llawn dop o’r caneuon cyfarwydd a hynod boblogaidd ysgrifennwyd ganddi dros 40 mlynedd, gan gynnwys Shampw, Space Invaders, a’r anthem eiconig Calon.

Calon fydd sioe fwyaf Cwmni Theatr yr Urdd ar ei newydd wedd, ers ail-lansio yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y Mudiad yn 2022 diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Disgwylir i gast a chriw o dros 100 o bobl ifanc rhwng 15 a 25 oed berfformio a gwireddu’r sioe yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru fis Awst 2026. Mae’r alwad bellach ar agor i bobl ifanc gofrestru eu diddordeb.

Mae’r cynhyrchiad yn cael ei lwyfannu mewn partneriaeth â Theatr Cymru, gan ddod ag arbenigedd creadigol a chred gytûn i feithrin talent ifanc ledled Cymru. Fel rhan o’r bartneriaeth arbennig hon, bydd Rhian Blythe – Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Cymru – yn cyfarwyddo Calon, gan ddod â’i phrofiad helaeth fel cyfarwyddwr ac actor i fwy na 100 o ieuenctid o bob cwr o Gymru.

Meddai Matthew Rhys: “Fe roddodd yr Urdd sylfaen anhygoel i fi fel actor ifanc - y llwyfan cyntaf, yr hyder i berfformio, a’r cyfle i ddysgu trwy wneud. Er nad oes modd mesur effaith profiadau celfyddydol ar lesiant plant a phobl ifanc, galla i ddweud â sicrwydd ei fod yn bellgyrhaeddol.

“Yn yr oes sydd ohoni mae cyfleoedd fel y rhai a gynigir gan Gwmni Theatr yr Urdd yn medru bod yn brin. Mi ddylai’r celfyddydau fod yn agored i bawb, felly diolch i’r Urdd am alluogi mwy nag erioed i gael profiadau amhrisiadwy fel hyn. Os ydych chi’n berson ifanc sy’n angerddol am ganu, actio neu greu, rwy’n eich annog i ymuno â chast Calon. Dyma gyfle i fod yn rhan o rywbeth arbennig.”

Diolch i fuddsoddiad o £1.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o bum mlynedd, mae Cwmni Theatr yr Urdd yn cynnig cyfleon newydd i Gymry ifanc sydd â diddordeb neu chwilfrydedd ym mhob agwedd o fyd y theatr.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford AS: “Mae’r Urdd yn gweithio’n galed i rymuso pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg gyda hyder yn eu bywydau bob dydd. Mae’r cyfleoedd creadigol a pherfformio y mae’r Urdd yn eu cynnig – fel cynhyrchiad Calon – yn ffordd wych o feithrin doniau, hyder a chysylltiad diwylliannol dwfn.

“Rwy’n falch ein bod ni fel Llywodraeth yn gallu parhau i gefnogi mentrau fel Cwmni Theatr yr Urdd sy’n agor y drws i brofiadau celfyddydol o safon i bobl ifanc ledled Cymru.”

Ychwanega Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd: “Mae lansio Calon ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant yn nodyn atgoffa pwerus o sut y gall y celfyddydau ryddhau potensial pobl ifanc. Mae theatr yn cynnig mwy na llwyfan. Mae’n ofod i feithrin hyder, mynegi hunaniaeth a datblygu sgiliau bywyd parhaol.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Matthew Rhys am rannu ei angerdd dros y celfyddydau gyda’n haelodau ifanc heddiw, i Caryl am ei gweledigaeth artistig, ac i Theatr Cymru am y bartneriaeth greadigol wrth ddod â Calon i’r llwyfan. Diolchwn hefyd am gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i Gwmni Theatr yr Urdd a phrosiectau uchelgeisiol fel Calon – cefnogaeth sy’n ein helpu i sicrhau fod yr Urdd a’r celfyddydau yn perthyn i bawb.”

Meddai Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru: “Mae’n wych cydweithio efo Cwmni Theatr yr Urdd i gyflawni’r weledigaeth uchelgeisiol o sioe gerdd newydd ar un o lwyfannau mwyaf Ewrop. Mae Caryl a Non wedi creu sioe unigryw a direidus sy’n dathlu pobl ifanc Cymru, ac mae'r cydweithrediad hwn – gyda’n Cyfarwyddwr Cyswllt Rhian Blythe yn cyfarwyddo’r sioe – yn tanlinellu ymrwymiad Theatr Cymru i feithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid a gweithwyr theatr Cymraeg.”

Yn cydweithio â Caryl ar Calon fydd y gantores Non Parry; y Cyfarwyddwr Symud a Choreograffydd Elan Isaac a’r actores, cantores a chyflwynwraig Miriam Isaac (dwy o ferched Caryl).

Yn ogystal â pherfformio, bydd cyfle i’r bobl ifanc weithio ar bob elfen o’r gwaith llwyfannu, o’r gwaith technegol i gynhyrchu, gwisgoedd a choluro. Cânt eu mentora trwy’r broses o greu’r sioe gan artistiaid a chriw llwyfan proffesiynol yn y maes.

Mae’r Urdd yn croesawu ceisiadau gan unigolion 15-25 oed i ymuno â’r cast neu’r tîm cynhyrchu drwy’r wefan (urdd.cymru/calon), ac mae tocynnau i’r perfformiadau bellach ar werth.