HEDDIW (dydd Iau, 13 Tachwedd) mae Urdd Gobaith Cymru yn cynnal ei thrydedd Gynhadledd Chwaraeon #FelMerch, gan groesawu dros 250 o fenywod ifanc o bob cwr o Gymru i’w hysbrydoli, eu cefnogi a’u grymuso i ffynnu drwy gyfrwng chwaraeon.
Bydd athletwyr, cyflwynwyr ac arweinwyr benywaidd yn ymgynnull yn Stadiwm Dinas Caerdydd i gynnig sgyrsiau ysbrydoledig, gweithdai ymarferol a chyfleoedd rhwydweithio fydd yn arfogi’r mynychwyr â’r wybodaeth i ffynnu ym myd chwaraeon a thu hwnt.
Eleni mae’r gynhadledd ddwyieithog, sydd wedi tyfu i fod y gynhadledd chwaraeon ieuenctid benywaidd fwyaf yng Nghymru, yn rhan o brosiect etifeddiaeth Llywodraeth Cymru i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed menywod Cymru yn cyrraedd Pencampwriaeth Ewrop UEFA am y tro cyntaf.
Meddai’r Prif Weinidog, Eluned Morgan: “Mae cynhadledd #FelMerch yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau mynediad cyfartal i chwaraeon, wrth fagu talent ifanc a chefnogi clybiau llawr gwlad dros Gymru.
“Mae grymuso merched a menywod drwy chwaraeon yn fwy na medalau – mae’n ymwneud â hyder, cymuned, a chreu Cymru lle mae pob merch yn gwybod bod ei llais yn cyfrif. Rwy’n falch o gefnogi cynhadledd #FelMerch yr Urdd a’i genhadaeth i agor drysau, herio terfynau ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr.”
Mae adroddiad diweddar gan Public First ar ferched ym myd chwaraeon yn datgan fod bechgyn rhwng 11-18 oed yn treulio 1.4 awr yn fwy bob wythnos yn cymryd rhan mewn chwaraeon na merched o’r un oedran, sydd gyfystyr â rhoi merched ar y fainc mewn 52 o gemau pêl-droed y flwyddyn.
Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched ledled y wlad ar ôl cyrraedd Pencampwriaeth Ewro Merched 2025, sy’n gwneud Cynhadledd #FelMerch eleni yn fwy amserol a phwerus nag erioed. Ond er gwaethaf y datblygiadau cadarnhaol o fewn chwaraeon merched dros y blynyddoedd diwethaf, mae dipyn o ffordd eto i fynd cyn fod chwarae teg i bawb ym myd chwaraeon.
“Mae Cynhadledd #FelMerch yr Urdd yn ddigwyddiad blaenllaw yn ein calendr ac yn cefnogi ein cynllun strategol ‘Urdd i Bawb’ i ehangu mynediad a chyfranogiad, drwy greu gofod lle mae pob person ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a’u cefnogi.
“Rydyn ni wrth ein bodd bod mwy o ferched ifanc nag erioed o bob cwr o Gymru yn ymuno â ni eleni i gymryd rhan mewn rhaglen ysbrydoledig o siaradwyr a gweithdai wedi’u cynllunio i rymuso, codi calon a chynnau uchelgais.”
Caiff y gynhadledd ei harwain gan y cyflwynydd chwaraeon profiadol Heledd Anna, tra bod siaradwyr gwadd y diwrnod yn cynnwys Rhian Wilkinson, Prif Hyfforddwraig Tîm Pêl-droed Cymru, Rosie Eccles, y bocsiwr amatur o Gasnewydd a enillodd fedal aur yng Ngemau’r Gymanwlad 2022, a’r nofwraig Ela Letton-Jones o’r Felinheli sydd newydd ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Nofio Para'r Byd yn Singapore.
Yn rhannu profiad a chyngor ar banel trafod bydd Lili Jones o dîm pêl-droed Wrecsam, Begw Elain sy’n ohebydd chwaraeon gyda Chlwb Pêl-droed Caernarfon, Mia Thomas, Athletwraig Paralymaidd Tîm Cymru a Tahirah Ali, Athletwraig Codi Pwysau.
Yn ogystal, cynhelir gweithdai ymarferol ar bynciau amrywiol gan gynnwys anafiadau chwaraeon, bocsio a calisthenics. Bydd cyfle hefyd i’r mynychwyr rwydweithio a chreu cysylltiadau wrth gwrdd ag unigolion proffesiynol o gyrff a chwmnïau chwaraeon gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Team Pebe ac Urddas Mislif Cymru i enwi dim ond rhai.
Un sy’n gwybod am bwysigrwydd annog, cefnogi a grymuso merched ym myd chwaraeon, ac yn barod i ysbrydoli mynychwyr #FelMerch 2025 yw Prif Hyfforddwraig Tîm Pêl-droed Cymru, Rhian Wilkinson.
“Dwi’n falch iawn i fod yn rhan o Gynhadledd Chwaraeon #FelMerch,” meddai Rhian Wilkinson. “Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'r Urdd wedi cael cysylltiad agos ers blynyddoedd. Mae’r Urdd wedi bod yn gefnogaeth enfawr i Dîm Cenedlaethol Menywod Cymru, yn enwedig yn ystod Euro 2025 yn yr haf. Rwy'n edrych ymlaen at allu rhoi rhywbeth yn ôl drwy fod yn siaradwr gwadd yn y gynhadledd.
“Roedd cyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint mawr fenywod am y tro gyntaf yn gam enfawr yn y cyfeiriad cywir ar gyfer pêl-droed merched yng Nghymru ond mae dal lawer i’w wneud. Gyda chymorth sefydliadau fel yr Urdd, rwy'n gobeithio y gallwn barhau i ysbrydoli ac annog merched a menywod ledled y wlad i chwarae chwaraeon am flynyddoedd i ddod.”
Meddai Mia Lloyd, athletwraig para Tîm Cymru 18 oed o Aberteifi: “Yn 10 oed ges i ddiagnosis o ganser, ac o ganlyniad collais fy nghoes. Wrth edrych yn ôl, dyma oedd y canlyniad gorau i fi achos roeddwn yn awyddus i ddychwelyd i chwaraeon mor fuan â phosib ar ôl y driniaeth.
“Dwi’n mwynhau pob math o chwaraeon, o athletau, pêl-fasged cadair olwyn i nofio, golff, dringo a mwy. Mi fydd yn fraint cael cymryd rhan yn y gynhadledd holl bwysig yma. Dwi’n edrych ymlaen at rannu fy stori, i ddangos i ferched ifanc Cymru fod gymaint yn bosib drwy’r chwaraeon a pha mor bwysig yw hi i ddal ati ac i gymryd pob cyfle mewn bywyd.”
Ers i’r Urdd lansio #FelMerch yn 2021 mae’r ymgyrch wedi cynnig cyfleodd di-ri i gannoedd o ferched ifanc ledled Cymru. Prif nod #FelMerch yw ysbrydoli, cefnogi a grymuso merched ifanc i gadw’n actif a chwalu’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.
Dyma drydedd Cynhadledd #FelMerch yr Urdd, ac fe’i noddir gan Lywodraeth Cymru trwy gronfa Euro 2025. Cynhaliwyd y gynhadledd gyntaf yng Ngwersyll yr Urdd, Caerdydd yn 2021.
Cyfranwyr Cynhadledd #FelMerch: Aisling Pigott, Begw Elain, Caryl Thomas, Dina Tokio, Ela Letton-Jones, Heledd Anna, Lili Jones, Mia Lloyd, Morgan Rogers, Rosie Eccles, Rhian Wilkinson, Steffi Studt & Eloise Kirby, Tahirah Ali.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.