WRTH i’r ddrama boblogaidd STAD ddychwelyd i S4C, mae’r awdures Lleucu Siôn yn pwysleisio pa mor bwysig ydi dal gwir sŵn a chymeriad Caernarfon ar y sgrin.

Mae “pobl, egni, sŵn a hiwmor pobl Caernarfon mor sbesial,” meddai “oedd hi’n holl bwysig i fi fod Dre’n swnio fel Dre ar y teli”. 

Bydd y gyfres newydd yn dechrau ar S4C nos Sul, 9 Tachwedd am 9.00pm, yn dilyn helyntion teulu’r Gurkha a’u cymdogion ar y stad - pobl sy’n wynebu heriau bywyd ond sy’n gwneud popeth o fewn eu gallu i oroesi. 

Fe fydd bocset o’r gyfres gyfan ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer ar yr un noson.

Dangoswyd cyfres gyntaf STAD yn 2022, yn ddilyniant o’r gyfres boblogaidd Tipyn o Stad ddaeth i ben yn 2008 ar ôl saith cyfres.

Ymhlith y cast mae llawer o selogion y gyfres wreiddiol; Bryn Fôn, Gwenno Hodgkins, Wyn Bowen Harries, ochr yn ochr â chymeriadau mwy diweddar, sy’n cael eu portreadu gan Sion Eifion, Begw Rowlands, Lisa Victoria, Lowri Palfrey a Gwenno Fôn.

Mae Manon Wilkinson yn chwarae rhan ‘Tracey Fish a Chips’, mam i dri o blant ar y stad. Fel ‘hogan Dre’ go iawn, mae Manon yn dweud bod chwarae’r cymeriad wedi bod yn brofiad personol:  “Dwi wedi fy nwyn i fyny’n clywed y lleisiau a clywed y straeon.

“Mae Tracey’n rhodd o gymeriad mewn gymaint o ffyrdd.

“Mae hi’n fam i dri o blant - eu byd cyfan hi; mae ganddi galon enfawr, ac yn sefyll dros lot o gymuned Caernarfon i mi’n bersonol.

“Mae’n gorwynt o gymeriad, yn aml yn mynd o’r uchelfannau i’r iselfannau mewn dim, ac mae hynna’n sialens i actor ond mae o hefyd yn rhodd. Dwi’n ddiolchgar iawn am y cyfle i fynd ati.” 

Bydd Llŷr Evans o’r Felinheli yn camu i esgidiau’r actor Rhodri Meilir i chwarae rhan Keith, yr ieuengaf o blant Charlie a Carys Gurkha. I Llyr, un o gryfderau STAD yw’r ffordd mae’n adlewyrchu realiti cymuned lle mae’r Gymraeg yn rhan naturiol o bob agwedd o fywyd: “Pan ti’n gwylio ambell ddrama Gymraeg ar y teledu, ti’n meddwl i ti dy hun - ‘no we, sa’r olygfa ‘na byth yn digwydd yn Gymraeg.’ 

“Ond yng Nghaernarfon ac yng Ngwynedd, mae pob haenen o gymdeithas yn byw drwy’r Gymraeg. Mae pobl yn gwerthu drygs yn Gymraeg, mae’r Masons yn cyfarfod yn Gymraeg, pobl yn barddoni yn Gymraeg, dy gyfrifydd di’n Gymraeg. Ti’n gallu credu bod pob un sefyllfa’n digwydd yn Gymraeg - dyna sy’n gwneud y byd ‘ma mor wir.” 

I Lleucu Siôn, un o sgriptwyr y gyfres, mae Caernarfon yn “gymeriad ynddo’i hun”:  “Di Caernarfon ddim jest yn leoliad i gyfres deledu. Dwi’n meddwl bod ‘na egni i Gaernarfon, mae ‘na sŵn yn y siarad, mae ‘na eiriau penodol fel dan ni gyd yn gwbod. Ond odd o’n bwysig i fi bod Dre yn swnio fel Dre ar y teli.

“Mae ’na galon yna, mae ’na gymeriadau hoffus yna, ac maen nhw’n siarad mewn ffurf hoffus hefyd. Ac mae pobl Caernafon yn ffyni. Yn yr eiliadau tw’lla, mae ’na leins lle ti’n chwerthin yn y tristwch hefyd. 

“Dwi eisiau i bobl Gaernarfon edrych ar y sgrin a gweld eu hunain, heb deimlo bod rhywun o’r tu allan yn trio swnio fel nhw.” 

Mae’r gyfres wedi’i ffilmio ar leoliad yng Nghaernarfon, Bangor. Yn ôl Lleucu, roedd yn hanfodol cynnwys pobl leol yn rhan o’r broses.

“Odd o’n bwysig bod ni’n defnyddio bobl y stad yn y cynhyrchiad yma a bod ni’n iwshio ecstras o’r stad, bod ni’n defnyddio lot o dai’r stad, bod pobl y gymuned yn ymwybodol o be dan ni’n trio porteadu.”

Ond er bod y gyfres yn gynhenid o Gaernarfon ac yn dryw iawn i’r dre a’i phobol “dim ar gyfer bobl y dre na phobol Gwynedd yn unig mae hi” yn ôl Lleucu: “Mae’r straeon yn rhai gall cynulleidfaoedd trwy Gymru ac ymhellach uniaithu â nhw - ond mae cryfder yr iaith yn yr ardal yn gneud y stori yn real ac yn gredadwy trwy iaith lafar unigryw’r Cofis gydag ambell Wyddel ac acen ddeheuol…yn union fel mae hi ar y strydoedd o fewn muriau’r castell.”