CYNHELIR gig trwy’r dydd gyda ffrindiau label Fflach Cymunedol i ddathlu blwyddyn o greu ac hyrwyddo cerddoriaeth newydd yng Ngorllewin Cymru.
Ymunwch â Fflach Cymunedol am ddiwrnod o gerddoriaeth byw ar ddydd Gwener, 2 Ionawr.
Ar ôl blwyddyn o gigs yn Y Seler, Aberteifi, mae'n bleser gallu dod â thalent y label yn ôl i Aberteifi i ddathlu'r gwaith sydd wedi ei wneud i adnewyddu'r cwmni gyda chymorth anferthol y gymuned.
Bydd cerddoriaeth fyw i'w glywed o 15:30 tan yn hwyr, gyda DJs, siop recordiau, a bar ar agor trwy'r prynhawn. Byddwn hefyd yn lansio'r gydweithrediad newydd Aberteifi Live.
Dyma gyfle i fwynhau cerddoriaeth Lafant, Dewin, Yr Hunanol, Chwaer, Rhiannon O'Connor + mwy i'w cyhoeddi.
Mae'r triawd roc Lafant wedi ffrwydro ar y sîn ers rhyddhau eu EP cyntaf Y Fodrwy ym mis Mai.
Wedi eu cymharu gyda Big Leaves, mae eu caneuon am dyfu fyny ar ymyl y byd ar arfordir Sir Benfro wedi eu harwain at slotiau cefnogi Adwaith a Search Results.
Mae'r band yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ym mis Mawrth.
Bydd sŵn Dewin yn atgoffa rhai o ddyddiau cynnar y Gorky's, ac mae plethiad y band o jazz, disgo, pop a chaneuon digri am frogaod a chactwsys wedi denu sylw mawr iddynt dros y flwyddyn ddiwethaf. Chwaraeodd y band i gynulleidfa lawn yn Lleisiau Eraill 2025.
Band o Gaerdydd via Aberystwyth yw Yr Hunanol.
Mae eu geiriau tafod mewn boch am fywyd yn y ddinas a'u gitarau jangly yn siwr o godi i'r meddwl fandiau'r 00au canol, Mystery Jets a'r Strokes.




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.