MAE Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi eu bod wedi penodi Dr Catrin Edwards i olynu Dr Gwenllian Lansdown Davies fel Prif Weithredwr newydd y Mudiad.

Meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin;“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Catrin i rôl Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin.

“Mae ganddi adnabyddiaeth dda o waith y Mudiad ar ôl gwasanaethu fel Cadeirydd, ac mae ei phrofiad sylweddol a’i harbenigedd yn y meysydd gofal yn ogystal â chynllunio ieithyddol yn gweddu’n wych i fedru arwain gwaith a chenhadaeth y Mudiad i’r dyfodol.“

Arweinydd yn y trydydd sector yw Catrin a’i harbenigedd yw polisi cyhoeddus a materion allanol ym myd gofal.

Mae ganddi dros ddegawd o brofiad yn datblygu mudiadau aelodaeth cenedlaethol ac yn dylanwadu ar bolisi er mwyn rhoi hawliau ar waith.

Mae ei phrofiad yn y trydydd sector yn cynnwys anghenion dysgu ychwanegol, anabledd, gofal diwedd oes ynghyd â chynllunio ieithyddol.

Mae Catrin yn fam i dri o blant bach ac yn byw gyda’i theulu yng Nghaerdydd. Bu’n aelod balch o Fwrdd Mudiad Meithrin o 2021 tan Awst 2025 gan wasanaethu fel Cadeirydd.

Meddai Catrin: “Braint ac yn anrhydedd yw cael fy mhenodi i’r swydd hon, gan ymuno â mudiad sy’n allweddol i fywyd Cymru ac yn ganolog i groesawu plant a theuluoedd at y Gymraeg.

“Wrth ystyried mai’r blynyddoedd cynnar yw’r cyfnod mwyaf ffurfiannol o ran caffael iaith a gosod sylfeini ar gyfer cyfleon bywyd, ni ellir gorbwysleisio rôl hanfodol Mudiad Meithrin fel grym bywiog dros degwch a chynhwysiant, wedi’i wreiddio mewn cymunedau ledled Cymru.

“Dwi’n gyffrous i gydweithio â’n staff canolog ac â’r gweithlu ymroddedig ledled ein cylchoedd i sicrhau bod y Gymraeg yn bresennol ym mhob lle mae plant bach – yn rhan naturiol o’u bywydau, o’r dechrau un.”

Ychwanegodd Rhodri: “Wrth edrych ymlaen at gyfnod newydd gyda Catrin wrth y llyw, mae hefyd yn gyfle i ddiolch i Dr Gwenllian Lansdown Davies am ei chyfraniad enfawr i Mudiad Meithrin yn ystod yr un mlynedd ar ddeg y bu’n Brif Weithredwr.

“Dangosodd Gwenllian arweinyddiaeth eithriadol ar hyd ei hamser gan lwyddo ysgogi datblygiad a thwf y ddarpariaeth fel bod gwasanaethau’r Mudiad a’i aelodau yn medru cyrraedd mwy o deuluoedd nag erioed.

“Fel Bwrdd Cyfarwyddwyr rydym yn dymuno’n dda i Gwenllian yn ei her newydd ac yn ddiolchgar tu hwnt am ei gwaith dros y Mudiad, dros y Gymraeg, ac yn hyrwyddo lles a gofal plant bach a theuluoedd Cymru.”

Bydd Catrin yn ymgymryd â’r awenau ganol fis Rhagfyr 2025.