YN ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, mae’r cyflwynydd Mari Grug yn rhannu ei phrofiad personol o fyw gyda chanser metastatig - canser sydd wedi lledu i rannau eraill o’r corff - mewn rhaglen ddogfen ar S4C.

Yn y rhaglen Mari Grug: Un dydd ar y tro sy’n darlledu nos Sul 26 Hydref am 21.00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer. Mae’r camerâu’n dilyn Mari wrth iddi wynebu triniaeth, heriau corfforol ac emosiynol, yn ogystal ag adegau o lawenydd gyda’i theulu a’i phlant ifanc.

“Bwriad y rhaglen” medd Mari “yw dangos fod bywyd yn gallu cario mlaen er bod canser y fron metastatic arna i, a phrofi ‘mod i’n gallu bod yn fam, yn wraig, yn ffrind, yn gyflwynydd wrth fyw gyda stage 4 canser.

Cafodd Mari, sy’n wyneb cyfarwydd ar raglenni Heno a Prynhawn Da ddiagnosis o ganser y fron yn 2023, yn 38 oed.

Erbyn hyn mae hi’n byw gyda chanser metastatig sydd wedi lledu i’w nodau lymff a’i hafu.

Er bod y sefyllfa’n un heriol, mae Mari yn pwysleisio nad yw diagnosis o ganser metastatig yn golygu diwedd y stori: “Dwi eisiau i bobl wybod os gewch chi ddiagnosis o ganser metastatig, peidiwch â cholli gobaith. Byddwch yn realistig, ie, ond peidiwch â meddwl ‘dyna ni’. Mae triniaethau’n datblygu drwy’r amser. Chi’n gallu byw bywyd llawn gyda’r cyflwr.

Mari Grug
(S4C)

“Pan glywais fod y canser wedi lledu, dywedwyd wrtha i ‘bod dim lot ‘ni’n gallu neud’, a jest gofal lliniarol (palliative care) oedd ar gael. Roedd hynny’n ergyd.

“Mae pobl yn meddwl am ofal lliniarol fel gofal diwedd oes. Ond mewn gwirionedd mae’r math yma o ofal wedi datblygu’n fawr.

“Roedd lot o herio yn y misoedd cynta’ ‘na wedi i mi gael y diagnosis bod y canser wedi lledu, a ges i sioc mod i’n gorfod brwydro. Nes i fod yn ryw fath o production manager ar fy salwch i. Falle ar bapur doedd y doctoriaid ddim yn mynd i roi llawdriniaeth i fi achos bo’ fi wedi mynd yn rhy bell.

“Roedd fel petai ryw ‘flow chart’ ganddyn nhw’n penderfynu pwy sy’n cael beth, yn hytrach na meddwl am yr unigolyn. Roeddwn i’n 38, yn fam i dri o blant bach, a ro’n i jest eisiau teimlo bod nhw’n mynd i wneud popeth posib i’m helpu.”

Er gwaethaf yr heriau sy’n ei hwynebu, mae Mari’n cyfaddef iddi fod ‘yn berson gwydr hanner llawn’ erioed: “Pan ti’n clywed bod gen ti gyflwr sy’n mynd i roi terfyn ar dy fywyd yn gynt nag wyt ti eisiau, mae pob blwyddyn ychwanegol yn anrheg. Dwi jest eisiau gweld fy mhlant yn cyrraedd cerrig milltir eu bywydau, a gwneud y mwyaf o’r amser sydd gen i gyda nhw.

Mari Grug
(S4C)

“Dwi’n trio dangos iddyn nhw fod bywyd yn dal yn werthfawr, hyd yn oed gyda diagnosis fel hyn. Dwi’n sâl, ond dwi’n dal yma. Ac ni’n mynd i wneud y mwyaf o bob eiliad. Dwi’n lwcus fy mod i’n gallu gwneud hynny o hyd.”

Meddai Iwan Rhys Roberts o Ymchwil Canser Cymru: Mae parodrwydd Mari a’i phenderfyniad i ddefnyddio ei statws fel ffigwr cyhoeddus i siarad yn agored am ei chanser a’n cymryd ni ar ei siwrnai gyda hi - mewn cyfweliadau teledu a radio a gyda phapurau a gwefannau newyddion; ei phodlediad ‘1 mewn 2’ a’i llyfr newydd ‘Dal i fod yn fi’, a nawr gyda’r rhaglen ‘Mari Grug: Un Dydd ar y Tro’ yn dangos dewrder mawr ar ei rhan a haelioni ei hysbryd.

“Rhaid cofio hefyd fod Mari wedi bod yn siarad yn agored am y canser yn gynnar iawn ers y diagnosis gan roi cipolwg gonest am ei phrofiadau a thynnu sylw at a chodi ymwybyddiaeth o brofiad y bydd miloedd eraill yn mynd trwyddo mewn cymunedau ledled Cymru.

“Fel elusen, mae cefnogaeth Mari i waith Ymchwil Canser Cymru – bydded hynny drwy siarad ar ein rhan wrth y cyfryngau; trwy gyflwyno nosweithiau codi arian ar ein rhan, neu helpu i godi ymwybyddiaeth o’n bodolaeth fel yr elusen ymchwil canser Cymreig, yn amhrisiadwy a mawr iawn yn ein diolch iddi a’n edmygedd ohoni. Mae’n anrhydedd cael gweithio gyda Mari ac i’w cael yn llysgennad i Ymchwil Canser Cymru.”

Meddai Marguerite Holloway, Arweinydd Canser y Fron Cymru i Macmillan: “Mae Mari wedi bod yn ysbrydoliaeth go iawn wrth godi ymwybyddiaeth o fyw gyda chanser y fron eilaidd, ac mae hi wedi bod mor agored a gonest am ei diagnosis. Mae angen mwy o ymwybyddiaeth er mwyn gwella gwasanaethau i bobl sy’n byw gyda chanser y fron eilaidd yng Nghymru, ac fe fydd hyn yn helpu teuluoedd a’r rhai sydd wedi cael diagnosis o ganser i ddod o hyd i’r cymorth a’r gefnogaeth maen nhw angen. Rydym ni’n wirioneddol ddiolchgar am bopeth y mae Mari wedi’i wneud.”