MAE’R band ifanc o Gaerfyrddin, Penne Orenne, sy’n parhau i wneud argraff ar y sin roc Gymraeg, yn rhyddhau ei EP cyntaf gyda label Fflach Cymunedol ar Fai yr 8fed.
Mae’r EP yn cynnwys pum cân wreiddiol sy’n archwilio amrywiaeth o themâu cyfoes gan gynnwys pêl-droed, gorbryder, diflastod, yn ogystal â’r hit YouTube poblogaidd “Miss Miss Miss.”
Mae’r grŵp, sy’n cynnwys pum merch o ysgol Bro Myrddin, eisoes wedi creu cryn argraff ar y sîn gerddoriaeth gyfoes drwy ennill cystadleuaeth bandiau Eisteddfod yr Urdd a Sŵn Sir Gâr, ymddangos ar Curadur a’r Galeri Luniau ar S4C, a chefnogi’r band benywaidd llwyddiannus o Gaerfyrddin – Adwaith.
Mae caneuon y band yn sicr wedi denu sylw Adwaith, gan fod Gwenllian Anthony o’r band hefyd yn gynhyrchydd i’r EP, ac yn chwarae’r bâs ar sawl un o’r traciau. Cafodd y traciau eu recordio yn Stiwdio Cwrw, Caerfyrddin, dan arweiniad y cerddor a’r cynhyrchydd Louis O’ Hara.
Yn llawn egni, hiwmor a hyder, mae’r EP yn gyfuniad o diwns pop cofiadwy a geiriau heintus fydd yn siŵr o apelio at gynulleidfa eang.
O ganeuon bywiog am bêl-droed i eiliadau mwy myfyriol yn trafod gorbryder, mae’r casgliad yn dangos ystod eang o leisiau a phrofiadau sy’n adlewyrchu creadigrwydd ac uchelgais cenhedlaeth newydd o ferched ifanc.
Dywedodd y cerddor a’r cynhyrchydd adnabyddus Mei Gwynedd, a fu’n fentor i’r grŵp yn ddiweddar:“Ges i lot o hwyl yn mentora Penne Orenne - mae gan y merched ganeuon catchy, geiriau ffraeth, a steil unigryw sy'n fy atgoffa o steil spiky Blondie a'r B52s. Dwi'n edrych mlaen yn fawr i weld nhw'n datblygu a chlywed rhagor o ganeuon ganddyn nhw.”
Ychwanegodd Gwenllian Anthony o Adwaith:“Roedd gweithio gyda Penne Orenne yn anrhydedd a phleser enfawr! Roedd e'n gymaint o hwyl i chwarae o gwmpas ac i ddarganfod sŵn y project. Yn edrych ymlaen yn arw i weld lle ewn nhw fel band.”
A dywedodd Louis O Hara, a oedd wrth y llyw yn Stiwdio Cwrw:“Mae gan Penne Orenne egni naturiol sy’n heintus – ro’n i’n gwybod o’r sesiwn gyntaf bod rhywbeth arbennig yn digwydd. Mae’r casgliad yma’n enghraifft berffaith o’u doniau a’u hangerdd.”
Gyda chefnogaeth eu teuluoedd, eu cymuned leol, a’r sîn gerddoriaeth fywiog yng Nghaerfyrddin, mae Penne Orenne eisoes wedi denu ffans o bob oed. Mae’r EP newydd yn dangos aeddfedrwydd cerddorol sy’n peri cyffro am ddyfodol y band ifanc hwn – a gyda mwy o ganeuon ar y ffordd ac albwm ar y gweill ar gyfer 2027, mae’n amlwg mai megis dechrau yw hyn.
Bydd yr EP yn cael ei lansio mewn gig arbennig yn Cwrw, Caerfyrddin ar Fai 8fed, gyda Manon a Coron Moron yn cefnogi, ac fe fydd y caneuon ar gael i’w ffrydio a’u lawrlwytho ar bob prif blatfform cerddoriaeth o hynny ymlaen.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.