MAE Aberystwyth yn dref lengar drwy’r flwyddyn wrth gwrs ond yn ystod penwythnos nesaf 8-10 o Fai bydd yna fwrlwm ychwanegol pan gynhelir Gŵyl Farddoniaeth a Llenyddiaeth Aberystwyth.
Sefydlwyd yr Ŵyl yn 2023 gan Freya Blyth o’r Bookshop by the Sea.
Dyma a ddywed am yr ŵyl eleni: “Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i bob un o’n cefnogwyr, ond eleni mae cefnogaeth ychwanegol gan y pwyllgor lleol a sicrhaodd statws Dinas Llên UNESCO i’r dre a Cheredigion wedi ein galluogi i gynnwys mwy o sesiynau Cymraeg a dwyieithog.’

Thema’r Ŵyl yw’r cydgysylltiad rhwng gwahanol feysydd celfyddydol. Un sydd a’i waith yn ymgorfforiad o hyn yw Iestyn Tyne. Ar ddydd Sadwrn yr ŵyl (2pm Arad Goch) bydd y bardd yn perfformio ‘Carneddi’ - darn a ysbrydolwyd gan un o ffotograffau eiconig Geoff Charles - ac sy’n gyfuniad o farddoniaeth a cherddoriaeth.
Bydd yna nifer o sgyrsiau difyr wrth gwrs gan gynnwys un rhwng y bardd a’r dramodydd arobryn Menna Elfyn a fydd yn sgwrsio am ei gyrfa ar ei hyd gyda Jane Aaron, gan roi sylw arbennig i’w chyfrol newydd Parch.
Sgwrs arall sy’n argoeli i fod yn un o uchafbwyntiau’r Ŵyl yw honno rhwng yr awdures hynod lwyddiannus Manon Steffan Ros âg Elin Haf Gruffydd Jones am lwyddiant rhyngwladol a chyfieithiadau lluosog ei nofel gwobrwyiedig Llyfr Glas Nebo.
Bydd cyfle hefyd i glywed lleisiau mwy newydd Meleri Wyn Davies, Steffan Phillips, a Jo Heyde, mewn sesiwn a gadeirir gan Elinor Gwynn.
Ac os am chwa o awyr iach (yn llythrennol), bydd y beirdd Hywel Griffiths ac Eurig Salisbury yn arwain taith gerdded a fydd yn tynnu sylw at Dreftadaeth Lenyddol Cymraeg Aberystwyth
I blant rhwng 3 a 7 oed bydd yna sesiwn storϊa am ddim gyda Professor Llusern a fydd yn adrodd am rai o'r creaduriaid hud a lledrith a oedd, yn ôl y chwedloniaeth, yn byw yma yng Nghymru amser maith yn ôl.
Yn ychwanegol at y sesiynau Cymraeg a dwyieithog mae yna doreth o feirdd yn cyflwyno eu gwaith yn Saesneg gan gynnwys Taz Rahman a fydd yn traethu am ddylanwad celf gain ar farddoniaeth a Rachel Carney a fydd yn trafod barddoniaeth ‘ekphrasitic’.
Mae manylion llawn yr Ŵyl ar yw wefan aberystwythpoetryfestival.co.uk lle gellir prynu tocynnau hefyd.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.