MAE ardal Port Talbot yn barod i estyn croeso Dur a Môr i bobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt, pan fydd miloedd yn heidio i fwynhau a chystadlu ar faes hardd Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam wythnos nesaf (26-31 Mai).

Yn dilyn cynnal rowndiau terfynol cystadlaethau Cyfansoddi a Chreu yr Urdd, mae’r mudiad yn falch o gyhoeddi cyfanswm o 119,593 o gofrestriadau i gystadlu yn yr Eisteddfod eleni, sy’n fwy nag erioed o’r blaen, ynghyd â chynnydd sylweddol (o 42%) yn y nifer o ddysgwyr Cymraeg ifanc yn cymryd rhan yn yr ŵyl o gymharu â llynedd.

Mae’r trefnwyr hefyd wedi rhyddhau gwybodaeth am y gwasanaeth bws wennol fydd yn rhedeg rhwng orsaf drenau Port Talbot (Parkway) i brif fynedfa maes yr Eisteddfod ac yn ôl yn ystod yr ŵyl. Bydd y gwasanaeth yn rhedeg am ddim i’r cyhoedd, rhwng 06:30 ac 21:56 neu 23:26 (yn ddibynnol ar y diwrnod).

Diolch i gefnogaeth ariannol o £200,000 gan Lywodraeth Cymru mae teuluoedd incwm is yn medru hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd unwaith eto eleni.

Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Mae Eisteddfod yr Urdd i bawb. Mae gweld bod mwy o bobl ifanc a mwy o ddysgwyr nag erioed o’r blaen eisiau cymryd rhan yn brawf fod yr ŵyl yn parhau i ddiwallu diddordebau a dymuniadau ein plant a’n pobl ifanc, ac yn rhoi’r cyfle iddynt brofi pob math o gyfleodd a datblygu hyder trwy’r Gymraeg.

“Diolchaf rhag blaen i’r cannoedd o wirfoddolwyr fydd yn ein helpu i gynnal yr ŵyl wythnos nesaf.”

Dathlu yn yr eisteddfod
Dathlu yn yr eisteddfod (Urdd)

Yn ogystal â chystadleuwyr bydd nifer o enwogion a thalentau lleol yn ymweld â’r Eisteddfod. Jeremy Miles AS yw Llywydd yr Ŵyl, ac mae Llywyddion y Dydd fel a ganlyn: actor Steffan Rhodri sy’n enwog am chwarae ‘Dave Coaches’ yn Gavin and Stacey (Llun), y cyflwynwyr a’r sêr chwaraeon Lowri Morgan (Mawrth) a Sarra Elgan (Iau), yr entrepreneur Emyr Afan o gwmni Afanti (Gwener) a’r gantores Bronwen Lewis (Mercher), fu hefyd ynghlwm â’r Gân Groeso gyda Huw Chiswell.

Bydd Gŵyl Triban yn parhau ar y Maes ar y penwythnos (30-31 Mai). Ar y nos Wener bydd noson Nwy yn y Nen i gofio am Dewi Pwys yng nghwmni Mei Gwynedd a’r band, Dadleoli, Taran, ysgolion yr ardal a mwy. Ar y dydd Sadwrn bydd perfformiadau gan gwmnïau theatr, noson yng nghwmni Huw Chiswell, Bronwen Lewis, Aleighcia Scott a llu o artistiaid eraill.

Mae’r Urdd a’r Cyngor lleol yn cydnabod gwaith caled a diflino’r trigolion lleol sydd wedi bod yn codi arian ac ymwybyddiaeth dros y dair mlynedd diwethaf.

Cystadleuwyr ifanc
Cystadleuwyr ifanc (Urdd)

Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Wrth i ni ddisgwyl yn eiddgar am Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2025, rwyf wrth fy modd i groesawu’r digwyddiad pwysig hwn i’n sir hardd.

“Mae’r nifer digynsail o gofrestriadau, a’r cynnydd mewn dysgwyr Cymraeg ifanc yn pwysleisio effaith a phwysigrwydd cynyddol yr ŵyl.

“Rydyn ni’n falch o gynnal dathliad mor fywiog o ddiwylliant Cymru a’r celfyddydau ym Mharc Gwledig Margam.

“Hoffwn estyn diolch o waelod calon i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o drefnu’r achlysur ac edrychaf ymlaen at groesawu miloedd o ymwelwyr i brofi’r gorau sydd gan Gastell-nedd Port Talbot i’w gynnig.”

Darlledu byw ar S4C a BBC Radio Cymru

I’r rhai sy’n methu bod ar y maes eleni, mae S4C yn darlledu holl gystadlu’r dydd o’r pafiliwn Coch, Gwyn a Gwyrdd o 8.00yb bob dydd. Bydd y ffrydiau hyn ar Clic.

Am y tro cyntaf, mi fydd hefyd yn bosib i edrych yn ôl ar y ffrwd er mwyn ail-wylio cystadlaethau trwy wylio Clic ar ddyfeisiadau desgtop. Bydd y ffrydiau ar gael am gyfnod o 3 diwrnod wedi’r cystadlu a bydd posib sbwlio ar y ffrwd am y cyfnod drwy wylio ar gyfrifiadur neu liniadur. Er mwyn gwylio bydd angen mynd i adran ‘Ein pigion’ ar dop tudalen cartref Clic.

Bydd rhaglenni byw S4C dan ofal Trystan Ellis Morris a Heledd Cynwal rhwng 10.30yb a 6.30yh a rhaglen uchafbwyntiau bob nos am 8.00yh. Bydd y rhaglenni hyn ar alw ar Clic, a BBC iPlayer gydag is-deitlau Saesneg.

Bydd BBC Radio Cymru a rhaglen Ifan Evans yn darlledu’n fyw o’r Maes rhwng 2yh a 5yh bob dydd, gyda Jac Northfield yn ymuno diwedd yr wythnos. Bydd holl enillwyr yr Eisteddfod i’w clywed ar draws yr orsaf a bydd BBC Cymru Fyw yn cyhoeddi’r straeon dyddiol o’r maes.

Mae’r prif seremonïau eleni yn cael eu cynnal yn y pafiliwn gwyn am 2pm: Dydd Llun, Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc a’r Fedal Gelf; Dydd Mawrth, Y Fedal Ddrama; Dydd Mercher, Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones; Dydd Iau, Y Gadair; Dydd Gwener, Y Goron; Dydd Sadwrn, Y Fedal Gyfansoddi.