MAE’R Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi ei Rhaglen Dysgu Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg, yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Mewn digwyddiad yn y Senedd, croesawodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Iaith Gymraeg, y rhaglen genedlaethol, gynhwysfawr, y gyntaf o’i math ar gyfer athrawon.

Bydd ystod o hyfforddiant Dysgu Cymraeg ar gael, gan gynnwys y Cynllun Sabothol Cymraeg, sy'n darparu hyfforddiant dwys, sy'n trosglwyddo i'r Ganolfan o fis Medi ymlaen.

Mae llu o opsiynau dysgu ar gael, gan gynnwys cyrsiau ar wahanol lefelau, o ddechreuwyr i godi hyder, sydd ar gael fel modiwlau hunan-astudio ar-lein neu fel cyrsiau dan arweiniad tiwtor. Mae cyrsiau wedi'u teilwra ar gyfer y sectorau cynradd ac uwchradd, ac ar gyfer pynciau fel Addysg Gorfforol.

Bydd tiwtoriaid Dysgu Cymraeg yn gweithio ag Awdurdodau Lleol i'w helpu i gyflawni eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Bydd tiwtoriaid wedi'u lleoli mewn rhai ysgolion, i ddarparu cefnogaeth i staff, a bydd hyfforddiant hefyd ar gael i'r rheiny sy'n dilyn cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon.

Mae rhaglen y Ganolfan yn cefnogi Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd yn helpu cyflawni amcanion Bil y Gymraeg ac Addysg newydd, sy'n anelu at sicrhau bod pob disgybl yn siaradwr Cymraeg annibynnol erbyn diwedd oedran ysgol orfodol.

Eglurodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae arbenigedd dysgu a chaffael iaith y Ganolfan Genedlaethol, ochr yn ochr â’i phrofiad helaeth o gyflwyno cyrsiau Dysgu Cymraeg i oedolion, wedi ein galluogi i ymestyn ein gwaith i sectorau eraill er mwyn cefnogi amcanion polisi Llywodraeth Cymru.

“Rydym wrth ein bodd yn arwain y rhaglen genedlaethol newydd hon i athrawon, y gyntaf o’i math, sy’n adeiladu ar hyfforddiant Dysgu Cymraeg ’dyn ni’n barod wedi’i ddatblygu ar gyfer y sector Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a’r gweithlu Addysg Drydyddol.

“Mae ein rhaglen yn cynnig opsiynau dysgu eang a hyblyg, fydd yn uwchsgilio’r gweithlu ac yn cefnogi athrawon i gyflwyno a rhannu’r iaith gyda disgyblion ar lawr y dosbarth.”

Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: “Mae Bil y Gymraeg ac Addysg newydd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i gryfhau sgiliau dwyieithog ein gweithlu addysg.

“Rwy’n ddiolchgar i’r Ganolfan Genedlaethol am ei gwaith yn datblygu’r ystod lawn hon o opsiynau hyfforddi iaith Gymraeg. Bydd yr opsiynau creadigol sydd ar gael - sy’n cynnwys lleoli tiwtoriaid mewn ysgolion a gweithio gydag Awdurdodau Lleol - yn golygu y gallwn gefnogi anghenion y gweithlu.”

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Iaith Gymraeg: “Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, ac mae’r sector Dysgu Cymraeg, dan arweiniad y Ganolfan Genedlaethol, wedi esblygu i gynnig ystod o opsiynau dysgu blaengar sy’n croesawu pobl o wahanol gefndiroedd a sectorau at yr iaith.

“Rwy’n edrych ymlaen at barhau â phartneriaeth werthfawr y Llywodraeth â’r Ganolfan Genedlaethol dros y blynyddoedd nesaf.”

Mae elfennau o raglen y Ganolfan ar gyfer y gweithlu addysg wedi cael eu treialu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae 4,000 o athrawon eisoes wedi dilyn ystod o hyfforddiant Dysgu Cymraeg.

Un o’r athrawon hynny yw Claire Samuel, athrawes gelf o Ysgol Glan y Môr, Porth Tywyn.

Meddai: “Rydw i wedi dilyn cyrsiau hunan-astudio a rhai rhithiol ac wedi cymryd rhan mewn cwrs dwys wythnos o hyd yn Nant Gwrtheyrn, gyda’r Ganolfan Genedlaethol.

“Mae wedi bod yn brofiad dysgu gwych sydd wedi fy helpu i ennill sgil newydd, a chynnig arweiniad ar sut i rannu’r iaith gyda’r plant yn yr ysgol. Mae’r hyfforddiant dw i wedi’i dderbyn wedi rhoi’r hyder i mi ddefnyddio a mwynhau fy Nghymraeg, tra hefyd yn cyfrannu at ethos Cymraeg yr ysgol.”