BYDD ffilm opera Gymraeg sy’n cyfuno genres yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin, sydd bellach yn ei 78fed blwyddyn, ar 18 Awst, cyn iddi gael ei dangos mewn sinemâu yn yr hydref.

Mae Tanau’r Lloer / Fires of the Moon, a gomisiynwyd gan S4C a Channel 4, wedi’i hysbrydoli gan olygfeydd o’r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard – clasur llenyddol modern a gyhoeddwyd gyntaf yn 1961. Bydd y ffilm yn cael ei dangos ar S4C a Channel 4 yn 2026.

Mae’r ffilm unigryw hon yn cyfuno grym emosiynol opera gyda golygfeydd sinematig trawiadol, ac yn cynnwys cerddoriaeth brydferth gan y cyfansoddwr Cymreig adnabyddus Gareth Glyn. Ysgrifennwyd y libreto gan Iwan Teifion Davies a Patrick Young, ac mae’r gerddoriaeth yn cael ei pherfformio gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.

Gan ddechrau yn y 1950au mae’r ffilm yn dilyn awdur sy’n derbyn newyddion sy’n ei arwain ar daith hiraethus yn ôl adref. Wrth deithio drwy’r nos daw atgofion i’r wyneb, gan ei orfodi i fyfyrio dros y digwyddiadau a arweiniodd at i’w fam gael ei chadw mewn ysbyty meddwl tua thri deg mlynedd ynghynt.

Mae’r ffilm yn dwyn ynghyd talent Cymreig nodedig gan gynnwys y tenor Huw Ynyr (OPRA Cymru, Opera Canolbarth Cymru, Wexford Festival Opera), Annes Elwy (Bariau, Y Sŵn), Dylan Jones (The Red King, Y Golau, The Way), gyda’r soprano Elin Pritchard (Opera North, Opera Cenedlaethol Cymru, Grange Park Opera), y bariton Emyr Wyn Jones (Scottish Opera, Opera North, Opera Cenedlaethol Cymru), a’r cantorion poblogaidd Rhys Meirion a Shan Cothi.

Nid addasiad o’r nofel yw Tanau’r Lloer / Fires of the Moon, nac ychwaith bortread o fywyd yr awdur. Yn hytrach, mae’n ail-ddychmygiad ac ail-gread o’r gwaith, gan gadw tirwedd chwarelyddol Gogledd Cymru – sydd bellach yn safle treftadaeth byd Unesco – yn gefndir.

Mae’r ffilm yn gynhyrchiad gan Afanti, OPRA Cymru a Severn Screen, gyda sgript gan y cyfarwyddwr ffilm arobryn Marc Evans. Mae hi wedi’i chyfarwyddo gan Chris Forster a’i chynhyrchu gan Kirsten Stoddart, ac wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

Dywedodd Gwenllian Gravelle, Pennaeth Ffilm a Drama S4C: “Gyda’i hiaith weledol gyfoethog, ei cherddoriaeth hudolus, a’i pherfformiadau disglair, mae’r ffilm yn edrych ar opera a llenyddiaeth drwy lens sinematig sy’n teimlo’n agos atoch ac yn arallfydol ar yr un pryd.

“Dyma’r union fath o gynhyrchiad dewr a beiddgar y mae S4C yn adnabyddus amdano, ac rydym wrth ein bodd yn cael cydweithio gyda Channel 4 er mwyn ei gyflwyno i gartrefi ar draws y Deyrnas Unedig.”

Dywedodd Shaminder Nahal, Pennaeth Ffeithiol Arbenigol Channel 4: “Mae’n hynod gyffrous cael cydweithio gyda S4C a thîm eithriadol ar y cynhyrchiad hynod ac unigryw hwn. Nid yn unig mai hon yw’r gwaith cyntaf o’i bath ar deledu, ond dwi’n credu bydd y gwaith prydferth, hudolus hwn yn aros ym meddyliau pobl am gryn amser.”

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant: “Mae’r cynhyrchiad hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio. Derbyniodd Tanau’r Lloer gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol ac mae’n ganlyniad i lawer o bobl greadigol Cymreig talentog yn uno, o flaen y camera a’r tu ôl iddo, i adrodd stori ail-ddychmygus mewn ffordd unigryw.

“Mae’n galonogol iawn gwybod ei bod eisoes yn denu llawer o ddiddordeb ymhlith cydweithwyr yn y diwydiant, ac edrychaf ymlaen at weld y momentwm yn tyfu wrth inni nesáu at ddyddiad ei ryddhau yn 2026.”