MAE Y Llais yn chwilio am gantorion ar gyfer cyfres newydd Y Llais 2026, y gystadleuaeth gerddorol Gymraeg boblogaidd a gipiodd galon y genedl yn ei chyfres gyntaf. Dyma gyfle unigryw i chi wynebu’r cadeiriau coch eiconig a chael eich mentora gan rai o dalentau cerddorol mwyaf Cymru.
Bydd y canwr opera byd-enwog Syr Bryn Terfel, y gantores a’r gyflwynwraig Bronwen Lewis, y canwr pop a chynhyrchydd stiwdio recordiau Yws Gwynedd, a’r gantores reggae Aleighcia Scott yn dychwelyd fel hyfforddwyr.
Meddai Bronwen Lewis: “Roedd hi’n no-brainer i fi ddweud ie i’r cynnig i gael hyfforddi eto ar Y Llais. Fe wnes i fwynhau pob eiliad o’r gyfres gyntaf a llwyr fwynhau y canu anhygoel.
“Dwi’n teimlo bod y pedwar hyfforddwr wedi gallu ymgartrefu yn ein cadeiriau coch erbyn hyn – twymo lan oedd cyfres un – bring it on cyfres dau!”
Cynhyrchiad Boom Cymru, rhan o ITV Studios ydy Y Llais, fformat ITV Studios. Dyma’r fersiwn Gymraeg o’r gyfres deledu fyd-eang, The Voice.
Rose Datta oedd enillydd poblogaidd Y Llais yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed yn 2025, ond pwy fydd yn hawlio teitl Y Llais yn 2026?
Meddai Rose, 19 oed o Gaerdydd: “Fi wedi cael profiad anhygoel – fi byth yn mynd i anghofio fe a dwi wedi bod mor ffodus i fod o gwmpas pobl mor neis a charedig, a gwneud ffrindiau mor dda trwy’r holl broses.
“Mae hi wedi bod yn freuddwyd sydd wedi dod yn wir a fi jyst yn rili falch o fod yn rhan o rywbeth mor fawr ac anhygoel.”
Mae’r cystadleuwyr ar Y Llais yn camu i’r llwyfan a wynebu rhes o hyfforddwyr â’u cefnau yn wynebu’r canwr. Y llais yn unig sydd yn eu perswadio i droi yn eu cadeiriau. Dim ffrils, dim ond talent amrwd.
O berfformwyr profiadol i bobl sydd ar eu taith dysgu Cymraeg mae Y Llais yn galw ar drawstoriad o bobl i ymgeisio. Os ydych dros ddeunaw oed ac yn barod i gymryd at y llwyfan – Ymgeisiwch nawr trwy lenwi ffurflen gais sydd yn gofyn am fideo ohonoch yn canu a chyflwyno eich hun: Y Llais | S4C
Meddai Beth Angell, Pennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol S4C: “Dwi’n meddwl mai un o’r pethau wnaeth sefyll allan fwyaf am Y Llais oedd y nifer o wynebau – a lleisiau – newydd gafon ni ar y sianel. Roedd llawer o rheiny yn dysgu Cymraeg ynghyd â’n hyfforddwr ysbrydoledig Aleighcia Scott wrth gwrs.
“Mi eisteddodd Aleighcia yn y gadair goch gan siarad yn hyderus mewn Cymraeg, nid yn unig o flaen y rhai oedd yn canu, ond hefyd o flaen cynulleidfa stiwdio fyw a chynulleidfa adref ar draws Cymru.
“Mae gweld hyn wedi ysbrydoli nifer o’r gwylwyr i un ai ail gydio yn eu Cymraeg, ei defnyddio yn fwy cyson, neu i’w dysgu o’r newydd – da’n ni fel S4C yn falch iawn o hynny.”
Dyddiad cau ymgeisio ar gyfer Y Llais: dydd Gwener, 18 Gorffennaf am 23.59
Bydd Stiwdios ITV yn ymdrin â dosbarthu rhyngwladol
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.