MAE S4C wedi comisiynu ail gyfres o’r ddrama seicolegol gyffrous, Cleddau. Bydd y ffilmio yn dechrau yn yr hydref, gyda'r gyfres newydd yn darlledu yn 2026.

Mae'r ddrama llawn emosiwn a chynnwrf yn cael ei chynhyrchu unwaith eto gan Blacklight (rhan o Banijay UK) a'i dosbarthu'n fyd-eang gan Banijay Rights. Cefnogir y cynhyrchiad gan Lywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol.

Fe wnaeth cyfres gyntaf Cleddau ein cyflwyno i DI Ffion Lloyd (Elen Rhys) a DS Rick Sheldon (Richard Harrington), cyn-gariadon a orfodwyd i weithio gyda'i gilydd er mwyn datrys llofruddiaeth nyrs mewn tref arfordirol dawel yng ngorllewin Cymru - ymchwiliad a ddatgelodd gyfrinachau tywyll o'r gorffennol gyda chanlyniadau dinistriol.

Bydd Elen Rhys a Richard Harrington yn atgyfodi eu rolau yn ystod cyfres dau, sy'n dilyn achos cymhleth a throellog arall.

Pan mae corff yn cael ei ddarganfod yn Afon Cleddau, mae'r tîm yn amau bod llofrudd yn dwyn hunaniaeth ac yn denu menywod i'w marwolaeth trwy wefan ‘ddetio’ - gwefan y mae Ffion ei hun wedi bod yn ei defnyddio wrth iddi geisio symud ymlaen oddi wrth Rick, er gwaethaf y ffaith ei fod ef bellach wedi gwahanu ac yn sengl.

Fe wnaeth cyfres gyntaf Cleddau dderbyn nifer uchel o wylwyr, a ddaeth i frig rhaglenni mwyaf poblogaidd y sianel yn 2025. Roedd hefyd yn boblogaidd ar BBC4 gyda 228% yn uwch na chyfartaledd slot BBC4

Mae'r gyfres wedi'i chreu a'i hysgrifennu gan Catherine Tregenna, sydd hefyd wedi ysgrifennu Cowbois ac Injans, Law & Order: UK, Lewis, DCI Banks, a The Bench.

Dywedodd Gwenllian Gravelle,Pennaeth Ffilm a Drama S4C: “Mae'n gyfres afaelgar ac emosiynol ddeallus sy'n arddangos y gorau o dalent Cymru, ar y sgrin ac oddi ar y sgrin.

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dod â'r stori yn ôl am ail gyfres a dyfnhau'r byd y mae Cath Tregenna wedi'i greu mor wych."