MEWN digwyddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw (Llun, 3 Awst) bydd Comisiynydd y Gymraeg yn adlewyrchu ar ddeng mlynedd ers cyflwyno Safonau’r Gymraeg. Bydd hefyd yn galw am ddefnyddio'r degawd nesaf i ehangu a chryfhau'r gyfundrefn er mwyn ymateb i heriau newydd a chefnogi nodau Cymraeg 2050.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, mae Safonau’r Gymraeg wedi bod yn arf pwysig er mwyn sicrhau gwasanaethau Cymraeg cyson ar draws y sector cyhoeddus: “Dros y ddeng mlynedd diwethaf mae Safonau’r Gymraeg wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i bobl Cymru. Maent wedi helpu i sicrhau mwy o gysondeb o ran darpariaeth Gymraeg ac wedi rhoi hawliau cliriach i ddefnyddwyr gwasanaethau.

“Mae’r Safonau hefyd yn rhoi’r pwerau angenrheidiol i mi ymchwilio i gwynion a chymryd camau pan nad yw sefydliadau’n cyflawni eu dyletswyddau.

“Ein nod bob amser yw sicrhau gwelliant. Ond pan nad oes gennyf hyder fod sefydliad yn cymryd y camau angenrheidiol i adfer a chynnal cydymffurfiaeth, byddaf yn defnyddio’r pwerau sydd ar gael i mi fel Comisiynydd. Dyna yw grym Safonau’r Gymraeg.”

Ond er gwaethaf y gwelliannau a welwyd dros y degawd diwethaf, pwysleisiodd Efa Gruffudd Jones fod gwaith i’w wneud o hyd: “Mae Safonau’r Gymraeg wedi trawsnewid y ddarpariaeth Gymraeg ar draws llawer o’r sector cyhoeddus. Ond mae rhai o’r gwasanaethau pwysicaf y mae pobl yn eu defnyddio o ddydd i ddydd, gan gynnwys gwasanaethau’r Adran Waith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi, yn parhau y tu allan i’r drefn.

"Dyna pam rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar ei hymrwymiad i ymestyn cwmpas y Safonau i ragor o sefydliadau a sectorau. Mae'r degawd diwethaf wedi dangos mai dyma'r fframwaith mwyaf effeithiol sydd gennym i ddiogelu hawliau siaradwyr Cymraeg a sicrhau gwasanaethau Cymraeg cyson.

"Mae cyfle pwysig hefyd dros y misoedd nesaf wrth i Lywodraeth Cymru adolygu'r Safonau. Yn ein barn ni, mae angen cryfhau'r fframwaith ar gyfer cynllunio ieithyddol cymunedol er mwyn cefnogi cymunedau Cymraeg ledled Cymru. Mae hefyd angen rhoi mwy o sylw i rôl gweithleoedd wrth gynyddu defnydd dyddiol o'r Gymraeg. Os ydym am weld mwy o bobl yn defnyddio'r Gymraeg yn hyderus yn eu bywydau bob dydd, rhaid sicrhau bod y Safonau'n esblygu i adlewyrchu'r heriau hynny.

“Mae deng mlynedd gyntaf y Safonau wedi dangos eu bod yn gweithio. Nawr yw’r amser i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.”

Yn ystod yr hydref bydd Comisiynydd y Gymraeg hefyd yn cynnal cynhadledd genedlaethol i ddod â sefydliadau ynghyd i drafod dyfodol strategaethau hybu'r Gymraeg a sut y gallent gyfrannu'n fwy effeithiol at gynyddu defnydd o'r Gymraeg mewn cymunedau.

Yn ymuno â’r Comisiynydd yn y digwyddiad heddiw ar faes yr Eisteddfod bydd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan AS sydd eisoes wedi nodi ei bod am weld y Safonau yn ehangu. Hefyd ar y panel trafod bydd Nia Williams Cyfarwyddwr Addysg, Profiad ac Ymgysylltu Amgueddfa Cymru ynghyd â Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn.

Yn ôl Nia Williams, mae Amgueddfa Cymru wedi elwa o fod o dan y Safonau: “Yr hyn mae’r Safonau yn ei gynnig yw arweiniad clir am yr hyn sydd yn ddisgwyliedig o ran darpariaeth gwasanaethau Cymraeg. Heb y Safonau byddai'n anodd sicrhau cysondeb ar draws y sector gyhoeddus a byddwn yn ategu galwadau’r Comisiynydd i’w gweld yn ehangu i sectorau eraill er lles yr iaith Gymraeg.”

Cynhelir y digwyddiad am 11 o'r gloch ym Mhafiliwn y Cymdeithasau a’r cyflwynydd a’r darlledwr Nest Jenkins fydd yn cadeirio’r digwyddiad.

Bydd gan Gomisiynydd y Gymraeg stondin ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ac mae croeso i unrhyw un alw heibio am sgwrs neu i ofyn cwestiwn. Bydd cyfres o weithgareddau yn cael eu cynnal yno drwy’r wythnos. Ewch i’r wefan neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i wybod mwy am yr hyn fydd yn digwydd.