Bydd y cymeriad plant eiconig Sali Mali yn dychwelyd i S4C yn 2027 am ei chyfres newydd gyntaf, tu hwnt i animeiddiadau, ers dros 20 mlynedd.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi ar Faes Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd, ger Aberteifi, ddydd Llun.

Cynyrchiadau Mojo fydd yn cynhyrchu’r gyfres newydd ar gyfer S4C. Mae’r broses o chwilio am actores newydd i gamu i esgidiau Sali Mali wedi dechrau, gyda chaban castio ar agor yn yr Eisteddfod rhwng 11 ac 1 o’r gloch a rhwng 2 a 4 o’r gloch o ddydd Mawrth, 4 Awst, i ddydd Gwener, 7 Awst.

Cafodd y cymeriad ei greu gan Mary Vaughan Jones ar gyfer cyfres o lyfrau plant a ddechreuodd gyda ‘Sali Mali’ yn 1969.

Ymddangosodd Sali ar S4C am y tro cyntaf yn y gyfres Caffi Sali Mali yn 1994, gyda Rebecca Harries yn y rôl.

Cafodd cyfres animeiddiedig Sali Mali ei darlledu’n gyntaf ar S4C yn 2000, gyda Rhys Ifans yn lleisio’r animeiddiad a Cerys Matthews yn canu’r gân agoriadol. Cafodd y penodau animeiddiedig diweddaraf eu darlledu yn 2021.

Y tro diwethaf i Sali Mali ymddangos fel person go iawn oedd rhwng 2004 a 2007, pan serennodd hi yn y gyfres Pentre Bach, ynghyd â’i ffrindiau oedd yn cynnwys Jac y Jwc a Jini.

Wrth adlewyrchu ar ei chyfnod fel Sali Mali, dywedodd Rebecca Harries: “Dwi wrth fy modd i glywed bod Sali Mali yn dychwelyd i ddiddanu a chadw cwmni i blant Cymru a’u teuluoedd unwaith eto.

“Roedd ‘bod yn ffrind’ iddi am gyhyd yn fraint ac yn un o bleserau mawr fy ngyrfa. Ges i gyfle i gwrdd â phlant ledled Cymru a gwneud y ffrindiau gorau yn y gwaith.

“Pob lwc i’r criw newydd i gyd, fe fyddwch chi’n gweithio’n galed iawn ond fydd e werth e. Ac i’r Sali Mali newydd…mwynha bob eiliad o’r oren, croesawa popeth sy’n dod i dy gyfeiriad di – mae e’n reid cyffrous.”

Dywedodd Sioned Geraint, Comisiynydd Plant a Dysgwyr S4C: “O’r llyfrau gwreiddiol i’r cyfresi teledu, mae cenedlaethau o blant Cymru wedi cael eu dylanwadu gan Sali Mali.

“20 mlynedd ers i Pentre Bach orffen, mae nifer o’r plant a dyfodd fyny â Sali Mali bellach yn rieni eu hunain, a dwi’n siŵr y byddant wrth eu bodd i’w gweld yn dychwelyd i S4C i ddiddanu eu plant, hefyd.”

Ychwanegodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Pan mae’n dod i gymeriadau eiconig ar S4C, does dim llawer sy’n fwy eiconig na Sali Mali.

“I nifer ohonom, bydd dychweliad Sali Mali fel dal fyny efo hen ffrind. Ond i genhedlaeth gyfan o blant, dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw ddarganfod Sali Mali ac mae’n hynod o gyffrous y bydd rhywun yn cael y cyfle i gamu i’r rôl eiconig hon.

“Dwi’n gwybod y bydd Sali Mali’n un o ffrindiau mwyaf blaenllaw Cyw yn ystod y blynyddoedd i ddod ac edrychaf ymlaen at wylio’i hanturiaethau diweddaraf.”