ELENI, am y tro cyntaf ers 30 mlynedd, bydd y Super Furry Animals yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Daw'r band a’u steil unigryw a lliwgar i Lwyfan y Maes ar nos Sadwrn cyntaf yr wŷl - gyda mynediad wedi’i gynnwys ym mhris tocyn dydd arferol. Dyma gyfle prin i weld y band yn perfformio yn fyw, a hynny yn awyrgylch arbennig Maes yr Eisteddfod, gyda Mellt, Pys Melyn ac Ynys yn cefnogi.

Dyma fydd yr unig gig uniaith Gymraeg fydd y band yn ei berfformio, ac maen nhw’n gobeithio chwarae rhai caneuon sydd heb eu perfformio’n fyw erioed o’r blaen fel rhan o set arbennig.

Yn ôl Cian Ciarán o’r band: “’Da ni'n edrych ymlaen at chwarae set unigryw, rywbeth na clywsoch erioed o’r blaen ac ella na ‘newch chi byth eto."

Yn dod i amlygrwydd am y tro cyntaf yn 1995 gan arwyddo gyda Creation Records, mae’r band wedi bachu’r penawdau dros y blynyddoedd am eu tactegau hyrwyddo unigryw. Yn eu mysg, y tanc eiconig a ymddangosodd ar Faes Eisteddfod Llandeilo, 1996.

Mae’r digwyddiad yn addo denu cynulleidfa fawr i’r Maes - i osgoi siom felly, mae’r trefnwyr yn annog pobl i brynu eu tocyn ymlaen llaw am £25 oddi ar wefan yr Eisteddfod.

Gan ragweld galw uchel am lety dros y penwythnos cyntaf, bydd gwersyll Maes B yn agor nos Sadwrn am un noson i unrhyw un sydd am ddod i weld y Super Furries, gyda thocyn Maes a gwersylla’n costio £45 yn unig.