MAE’R cyflwynydd Iolo Williams wedi dweud mai trychineb y Sea Empress oedd y “digwyddiad gwaethaf” iddo weld erioed.
Daw sylwadau’r cyflwynydd Springwatch a Iolo: Natur Bregus Cymru mewn rhaglen ddogfen newydd ar S4C 30 mlynedd ers un o ollyngiadau olew mwyaf y byd ar y pryd.
Bydd Dŵr Du: Trychineb y Sea Empress yn cael ei ddarlledu ar 3 Chwefror am 21.00 ar S4C ac ar gael i’w wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer, gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg.
Roedd y Sea Empress yn long olew a aeth i drafferthion ger porthladd Aberdaugleddau, Sir Benfro, yn 1996.
Ar y pryd, roedd Aberdaugleddau yn un o borthladdoedd pwysicaf y byd a’r ail fwyaf o’i fath yn Ewrop.
Wedi i’r Sea Empress daro yn erbyn creigiau dan y dŵr fe ollyngodd 72,000 o dunelli o olew i’r môr, cyfwerth â 32 pwll nofio Olympaidd.

Roedd Iolo Williams yn gweithio i’r RSPB ar adeg trychineb y Sea Empress.
“Pan glywais i’r newyddion gynta’, o’n i’n meddwl, ydy o’n iawn? Es i lawr i Sir Benfro y bore wedyn. Mi roes i’r radio ar yn y car wrth yrru lawr. O’dd o ar bob man, pob sianel, Radio Cymru, Radio Wales, Radio 1, Radio 2, Radio 4, pob peth yn sôn am hyn,” meddai Iolo.
“Neb yn gwybod yn union pa mor fawr o’dd y drychineb ‘ma’n mynd i fod ar y pryd.”
Roedd llygaid y byd ar Aberdaugleddau yn sgil y drychineb, gyda newyddiadurwyr o bedwar ban wedi ymgynnull ger Penrhyn Santes Ann.
“O’n i yn cysgu yn y car achos doedd ‘na ddim gwesty, doedd ‘na ddim gwely a brecwast na dim byd fel ‘na, o’dd o’n llawn o’r wasg,” ychwanegodd Iolo.
Ar ôl tair wythnos yn Aberdaugleddau, cafodd y Sea Empress ei symud i Belfast er mwyn cael ei thrwsio.
Ond 30 mlynedd wedi’r drychineb, mae Iolo’n credu ei bod hi’n bwysig nad yw’r hyn ddigwyddodd oddi ar arfordir Sir Benfro yn mynd yn angof.
“Am ganrifoedd ‘dan ni ‘di defnyddio’r môr fel tomen sbwriel. Dwi’n caru Sir Benfro, mae’n un o ardaloedd hardda’ Cymru heb os nac oni bai, ond nai byth edrych ar Sir Benfro cweit yr un peth eto,” ychwanegodd Iolo.
“30 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n bwysig bo ni gyd yn cofio ac yn ail-ddweud stori y Sea Empress, fel bo ni ddim yn anghofio beth ddigwyddodd i’r bywyd gwyllt, fel bo ni ddim yn anghofio pam ddigwyddodd o.
“Byddai wastad yn dweud os oes ‘na drychineb, os ti’n cael amser caled yn dy fywyd, os ti’n gallu mynd trwy hwnna a dysgu rhywbeth, o leia’ ma’ rhywbeth da wedi dod allan o’r drwg.”



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.