YR wythnos hon cyhoeddir cyfrol o waith sydd yn cofnodi ymroddiad unigolion Cymraeg i dyfiant Lerpwl, a dyfodd o bentref bach y pysgotwyr i fod yn ail borthladd pwysicaf y byd. Mae Ar Drywydd Cymry Lerpwl gan D. Ben Rees yn rhoi sylw i’r cymeriadau angof hyn.
Dyma’r ail gyfrol i’r Lolfa am bobl a chymdeithas Lerpwl gan yr awdur toreithiog. Cyhoeddwyd Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl yn 2019 a chyrhaeddodd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2020 gan gael ei ganmol am wybodaeth helaeth yr awdur.
Yn Ar Drywydd Cymry Lerpwl, ceir hanes gweithgarwch cynyddol y Cymry ac uchafbwyntiau’r diwylliant Cymraeg a Chymreig dros y cenedlaethau, o fyd meddygaeth i godi strydoedd o dai, o’r pulpud i’r cae pêl-droed.
Ceir hanner cant o gofiannau byr yn cofnodi hanes pobl fel y Parchedig William Rees (Gwilym Hiraethog), y llenor Gweneth Lilly, Annie Williams, y genhades ifanc a John Evan Roberts, hanner brawd y llenor Kate Roberts.
Hefyd, ceir cip ar bêl-droed yn y ddinas, gan gynnwys rhai o’r Cymry a chwaraeodd i dîm pêl-droed Lerpwl fel rheolwr tîm Cymru Craig Bellamy, Joe Allen ac un o sêr y byd pêl-droed yn ei amser Ray Lambert.
Fel dywed yr Athro Dylan Foster-Evans yn Rhagair Ar Drywydd Cymry Lerpwl: “Mae Lerpwl, fel y tystia’r gyfrol gyfoethog hon, wedi chwarae rhan fawr yn hanes y Cymry.”
Mae’r drysorfa o wybodaeth a geir yn y gyfrol hefyd yn cynnwys hanes hwylio’r Mimosa am y Wladfa, Tynged yr Iaith Saunders Lewis a stori’r cardiau Nadolig Cymraeg cyntaf.
Mae Ar Drywydd Cymry Lerpwl gan D. Ben Rees ar gael nawr (£14.99, Y Lolfa).


_cropped.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.