MAE cais wedi cael ei wneud i aelodau o’r cyhoedd ledled Cymru godi arian trwy gael eu noddi i nofio neu ymuno â digwyddiad dip dŵr oer yng Nghaerdydd i helpu uno Cymru yn erbyn canser.
Daw’r alwad gan Nofio Cymru ac Ymchwil Canser Cymru sy’n cydweithio i hyrwyddo digwyddiad ‘Dip neu Bellter: Her Nofio Ymchwil Canser Cymru’.
Nofio Cymru yw’r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer gweithgareddau dŵr yng Nghymru sy'n cynnwys nofio, polo dŵr, para-nofio, deifio, nofio celfyddydol, nofio mewn dŵr agored a nofio ar gyfer meistri.
Ymchwil Canser Cymru yw’r elusen ymchwil canser Cymreig annibynnol sydd yn dathlu ei benblwydd yn 60 oed y flwyddyn hon.
Mae Dip neu Bellter yn her codi arian newydd sbon ar gyfer 2026 sy'n rhoi'r dewis i'r cyfranogwyr nofio pellter hir o'u dewis neu wynebu dip mewn dŵr oer.
Gallant gymryd rhan yn yr her nofio yn eu pwll nofio lleol neu mewn dip dŵr oer wedi'i drefnu yng Nghronfeydd Llysfaen a Llanisien yng Caerdydd ddydd Sadwrn 28 Mawrth.
Dywedodd Fergus Feeney, Prif Swyddog Gweithredol Nofio Cymru: "Rydym wrth ein bodd i gydweithredu ag Ymchwil Canser Cymru ar y fenter newydd hon.
“Mae her Dip neu Bellter yn rhoi ffordd hwylus a hyblyg i bobl ledled Cymru gymryd rhan mewn nofio a chodi arian hanfodol ar gyfer achos teilwng.
“Mae'n hynod gyffrous gweld her y gellir ei phersonoli ar gyfer pob unigolyn, boed hynny'n herio eich hun yn y pwll neu'n rhoi cynnig ar rywbeth newydd gyda dip dŵr oer dan oruchwyliaeth yng Nghronfeydd Llysfaen a Llanisien sydd wedi'i drefnu ar gyfer 28 Mawrth 2026.
“Pa bynnag beth y bydd cyfranogwyr yn ei ddewis, rydym yn annog pawb i gymryd rhan yn ddiogel, o fewn eu gallu, ac i fwynhau bod yn y dŵr."
Wrth siarad am y bartneriaeth, dywedodd Adam Fletcher Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru: “Mae’n fraint partneru â Nofio Cymru i hyrwyddo Dip neu Bellter er mwyn annog nofwyr o bob oedran a gallu ledled Cymru, ac i'r rhai sydd â phrofiad neu heb brofiad o ddipio dŵr oer i gymryd rhan yn ymgyrch hon.
“Eleni, rydym yn llythrennol yn 'profi’r dyfroedd' gyda'n Dip neu Bellter cyntaf erioed sef yr her nofio gyntaf i Ymchwil Canser Cymru ei lansio, a gobeithiwn y bydd yn boblogaidd gyda'n cefnogwyr presennol a newydd ac yn tyfu i ddod yn rhan o galendr nofio Cymru dros y blynyddoedd.
“Cefnogwch Dip neu Bellter a'n helpu ni i godi arian fel y gallwn ddod â thriniaethau gwell a gobaith yn agosach at gartref i gleifion canser ledled Cymru, eu teuluoedd a’u hanwyliaid.”
Am ragor o wybodaeth am ‘Dip neu Bellter: Her Nofio Ymchwil Canser Cymru’ a sut i gymryd rhan, ewch i ymchwilcanser.cymru

.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


_cropped.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.