DOEDD gan Dafydd Owain, y cerddor o ardal Caernarfon, “ddim bwriad ysgrifennu’r albwm” a gipiodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig nos Fercher ac ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las eleni.

Yn hytrach, tyfodd Ymarfer Byw o gyfnod anodd i’r cerddor yn dilyn cwblhau ei albwm cyntaf, Uwch Dros y Pysgod.

“Roedd yna ambell beth wedi digwydd yn fy mywyd i oedd wedi peri gofid emosiynol eithaf anodd ac oni wedi ffeindio fy hun mewn lle emosiynol aneglur iawn,” meddai.

“Doedd yna ddim bwriad sgwennu albwm ond oni’n ffeindio fy hun ar ryw daith o weithio allan yr aneglurdeb emosiynol yma ac ar yr un pryd oni’n ffeindio caneuon ar y ffordd.”

Y daith emosiynol a chreadigol honno sydd wrth galon y ffilm Dafydd Owain: Ymarfer Byw (I’r Byw), fydd i’w gweld ar S4C ar nos Sadwrn, 10 Hydref am 21.00.

Mae’r ffilm yn cyfuno perfformiad byw o’r albwm, a gafodd ei recordio yn Galeri Caernarfon ym mis Hydref 2025, â myfyrdodau personol y cerddor gan wahodd y gynulleidfa i fyd tywyll, swreal ac anghyffredin sy’n datgelu ei ffordd unigryw o weld y byd.

Wedi’i rannu’n dair rhan – Haunted, Cwmpawds a Cheshire Oaks – mae’r ffilm, fel yr albwm ei hun, yn mynd i’r afael â themâu dwys megis galar a iechyd meddwl.

Dywedodd Dafydd Owain: “Nes i weld cyfle efo’r ffilm i brosesu’r syniadau tu ôl i’r albwm fy hun achos o’dd o jyst wedi digwydd mewn gymaint o blur.

“Oni’n gweld cyfle i fi fy hun brosesu’r syniad o sgwennu’r albwm – be dwi wedi’i gyfaddef, be dwi wedi’i ddweud, pam nes i neud hynny – dyna oedd cnewyllyn y syniad.”

Mae’r ffilm, sydd wedi’i gynhyrchu gan gwmni Darlun, bron yn gyfan gwbl mewn du a gwyn er mwyn adlewyrchu byd Ymarfer Byw Dafydd: “Pan ti yn y storm yna, mae dy feddwl di’n eithaf du a gwyn beth bynnag a does yna ddim lot o grey area. Ac yn y grey area yna weithiau mae gwella. Pan ti mor benderfynol o ffeindio ryw ateb neu ffeindio ryw gyfiawnder, rhywbeth i afael ynddo fo, mae dy feddwl di’n mynd yn ddu a gwyn iawn.”

Cafodd yr albwm Ymarfer Byw ei ryddhau ar label I KA Ching ym mis Hydref 2025 a’i ddisgrifio gan Nation Cymru fel "un o'r albymau pwysicaf i ddod allan o Gymru yn y ddegawd ddiwethaf”. Ers hynny, mae wedi ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026, teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las a’r Record Hir Orau yng Ngwobrau’r Selar.

“Y rheswm dwi’n neud o ydi achos na celf ydi o,” dywedodd Dafydd, “y rheswm dwi’n galw fo’n gelf ydi achos mae o’n gelf i fi fy hun yn hytrach nag i unrhyw un arall. Dwi’n cael budd allan o eistedd i lawr a chreu darn o gelf dwi’n licio allan o deimladau fy hun.”

Bydd Dafydd Owain: Ymarfer Byw (I’r Byw) i’w gweld ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer nos Sadwrn 10 Hydref am 21.00.