CYMUNED yn tristau wrth i’w hysgol leol gau yw’r stori arferol. Ond mewn pentre yng nghefn gwlad Ceredigion fydd hi’n stori wahanol wythnos nesa . Stori o ddathlu a llawenydd mawr fydd hi wrth i Ysgol Cribyn ail-agor ei drysau.

Mae 16 blynedd ers i’r ysgol gau wedi i nifer y disgyblion gwympo i 8 yn unig.

“Roedd hi’n gyfnod trist,” medd Euros Lewis, arweinydd prosiect adfywio’r ysgol. “Gweld cymdogaeth Gymraeg a fu mor fyrlymus yn colli un gwasanaeth ar ôl y llall. A cholli teuluoedd ifainc yn fwy na dim. Roedd hi’n gyfnod anodd iawn.”

Ond er yr heriau a’r anhawsterau nid di-galonni a wnaeth bobl Cribyn.

Ffurfiwyd Cymdeithas Clotas - rhyw fath o senedd fro - wrth i gynrychiolwyr ar ran pob mudiad lleol ddod ynghyd i ddatblygu rhaglen waith i wrthweithio drwgeffeithiau colli’r ysgol.

“Cynnal yr egni a’r brwdfrydedd cyd-greadigol a chydymaddysgol oedd y nod - y pethe yna sy’n gwneud cymdogaeth Gymraeg yn lle byw yn hytrach na’n rhywle i fyw ynddo’n unig,” medd Euros.

Ac ymateb yn gadarnhaol a wnaeth bobl Cribyn unwaith eto wedi i gyfnod covid fygwth hyfywedd y bywyd cymdeithasol.

Yr hen ysgol
Yr hen ysgol (Wes Glei)

Medd Alan Henson, cadeirydd menter yr ysgol: “Roedd popeth ar stop. O’dd angen neud rhywbeth!”

A’r ‘rhywbeth’ y penderfynwyd yn unfrydol ei wneud oedd dwyn perswâd ar Gyngor Sir Ceredigion i werthu’r ysgol tra’n bwrw ati i godi arian i’w phrynu a’i hadnewyddu.

“A dyma ni - ddwy flynedd yn ddiweddarach - â’r ysgol nid yn unig yn eiddo i’r gymuned ond yn barod i weithredu’n ganolfan o’r radd uchaf er budd y gymdeithas gyfan,” medd Alan yn llawn balchder.

Ac er na fydd plant, fel slawer dydd, yn dod i Ysgol Cribyn ar gyfer eu haddysg ffurfiol, gydag apwyntio athrawes ifanc - Bethan Eynon-Stobbs - yn swyddog addysg a chymdeithas mae’n amlwg y bydd addysg yn ganolog i waith y ganolfan newydd.

Medd Euros Lewis: “Wrth i ni groesawu teuluoedd mewnfudol i Gribyn mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio holl adnoddau addysgol yr ardal – ei straeon a’i chaneuon, ei dywediadau a’i phenillion, ei byd natur a’i hamgylchedd, y cyfan oll – i’w gwreddio a’u prifio yn nhiriogaeth ein ffordd gyd-ofalgar Gymreig o fyw.”

Ond nid dathlu ail-agor yr ysgol fyddan nhw’n unig yng Nghribyn.

Medd Euros: “Ers i ni fwrw at wireddu’r uchelgais hwn mae yna newid sylfaenol wedi digwydd o fewn meddylfryd yr ardal.

“Lle o’r blaen mi o’dd rhyw deimlad fod colli pethe’n rhywbeth o’dd rhaid ei dderbyn, erbyn hyn yr agwedd yw ‘Beth wnewn ni nesa? Siwt gallwn ni wneud gwahaniaeth? Newid pethe er gwell.”

Un o’r newidiadau er gwell sydd eisoes ar waith fydd troi rhan o adeiladwaith yr ysgol yn gartref fforddiadwy ar gyfer teulu lleol.

“Mae hi siŵr o fod yn fwy na chyd-ddigwyddiad fod teuluoedd newydd â phlant ifainc wedi dechrau ymgartrefi yng Nghribyn yn ddiweddar,” medd Euros. “Ma’ hynny’n arwydd ma’ nid lle wedi’i adael ar ôl yw Cribyn bellach ond cymdogaeth Gymraeg lawn egni a phwrpas. Lle ag iddo ddyfodol.”

AGORIAD SWYDDOGOL CANOLFAN YSGOL CRIBYN - DYDD SADWRN, 12 MEDI