CYFEILLGARWCH tri ffrind a chyfrinach farwol sy’n bygwth rheoli eu bywydau am byth yw testun nofel newydd gan awdures o Aberystwyth.

Mae Pam? gan Dana Edwards yn adrodd hanes Pam, Gwennan a Rhodri wrth iddyn nhw adael coleg a gwneud eu ffordd yn y byd yn ystod y ddegawd gythryblus sy’n arwain at sefydlu Cynulliad Cymru.

Ond mae’r tri’n rhannu cyfrinach. Wrth iddyn nhw ddechrau mwynhau eu statws, a’r holl bethau eraill a ddaw yn sgil gyrfaoedd llewyrchus, mae’r hyn a ddigwyddodd yn Aber yn bygwth dinistrio popeth.

“Fel sy’n wir am fywyd go iawn, bwrn yw’r gyfrinach iddynt,” eglurodd yr awdures. “Mae’r ofn tragwyddol yna y bydd y gwirionedd rywsut rywfodd yn dod i’r amlwg.

“Yn fy mhrofiad i rhyw bethau digon salw yw cyfrinachau, gwybodaeth i’w gwato, rhywbeth y mae gan rywun gywilydd ohono. Ac fel yna mae hi i’r tri chymeriad yn y nofel hon.

“Wrth iddyn nhw adael coleg a chychwyn ar eu gyrfaoedd mae’n mynd yn fwyfwy hanfodol i gadw’r gyfrinach. Yn gynyddol mae ganddynt fwy i’w golli ac mae’r pwysau i gelu’r gwir yn eu gyrru i wneud rhai pethau byrbwyll.”

Yn gefndir i hyn oll mae cyffro gwleidyddol a chymdeithasol degawd ola’r 20fed ganrif, wrth i Pam fynd o fod yn gyw-gyflwynydd ar Radio Ceredigion i gynrychioli’r sir yn y Cynulliad.

“Rwy’n credu taw’r ddegawd a arweiniodd at sefydlu’r Cynulliad yng Nghaerdydd oedd y cyfnod mwya cyffrous i mi – hyd yma ta beth!’ meddai Dana. “Ro’n i’n awyddus i gael y cyfle i ail-fyw’r cyffro drwy ysgrifennu stori yn seiliedig ar yr hanes hwnnw. Ond cefnlen yn unig yw’r cyfnod wrth gwrs.”

Darllenwch y stori gyflawn yn y Cambrian News, ar gael nawr