Cynhaliwyd noson fythgofiadwy yng nghyntedd Pafiliwn Bont nos Wener, 23 Gorffennaf.

Noson oedd yng nghwmni’r Prifardd Ifor ap Glyn a oedd yn gwneud taith gerdded o Gaerdydd i’w gartref yng Nghaernarfon i godi ymwybyddiaeth ac i gefnogi Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

Yn ogystal ag Ifor ei hun yn adrodd ei gerddi, roedd adloniant gan Triano, tair chwaer leol, sef Jessica, Charlotte ac Emily Smith Jones sydd yn dripledi, yng ngofal eu hathrawes gerdd Menna Rhys, Parti Camddwr o dan arweiniad Efan Williams gydag Elizabeth James yn cyfeilio a Harri Evans o Langeitho, a ddiddanodd y gynulleidfa drwy chwarae medli o ganeuon Cymraeg ar y piano, yn ogystal ag unawd lleisiol.

Cafwyd amrywiaeth o driawd piano, triawd canu a thriawd iwcalili gan y merched, ac fe ymuno’n nhw â Pharti Camddwr hefyd i ganu Calon Lân i gloi’r noson.

Bydd Parti Camddwr yn lansio eu CD cyntaf mewn noson yn Nhafarn y Bont, Bronant ar nos Wener, 14 Gorffennaf.

Aeth elw’r noson tuag at daith Triano i’r Unol Daleithiau, pryd y byddan nhw’n cymryd rhan ddiwedd Awst mewn gŵyl yn Nebraska, ynghyd ag artistiaid enwog fel Rhys Meirion, Robat Arwyn a Gwawr Edwards, a’u cyfeilydd Menna Rhys.

Yn rhyfedd iawn, bydd y Prifardd Ifor ap Glyn hefyd yn cymryd rhan yn yr un ŵyl! Pob dymuniad da idd­yn nhw i gyd.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]