CYFLWYNWYD gwobr arbennig am gyfraniad oes i fyd llyfrau i Lyn Ebenezer mewn digwyddiad i lansio’i gyfrol newydd, Cerddi’r Ystrad, ym Mhontrhydfendigaid.
Cyflwynwyd y lechen gan Garmon Gruffudd o’r Lolfa ar ran Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.
Mae’r wobr yn cael ei rhoi yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig dros gyfnod hir i’r byd llyfrau Cymraeg.
Yn awdur i dros gant o lyfrau a miliynau o eiriau mae Lyn Ebenezer wedi gwneud cyfraniad anferth i’r byd cyhoeddi ac i’r wasg brint yng Nghymru.
Wedi meithrin ei grefft fel newyddiadurwr mae Lyn wedi troi ei law at bob math o ysgrifennu yn cynnwys nofelau ditectif, atgofion, hanes, ysgrifau a barddoniaeth ac mae’n parhau i ysgrifennu colofn yn fisol i’r Cymro.
Mae’n awdur sy’n adnabod ei bobl ac yn gwybod sut i ddarganfod ac i adrodd stori dda.
Mae hefyd wedi gweithio i Wasg Carreg Gwalch fel golygydd.
Dywedodd Myrddin ap Dafydd: “Pan ddechreuodd weithio fel golygydd i'r wasg, roedd ganddo drwyn newyddiadurol am gymeriadau gyda straeon gwerth chweil.
“Dim ond rhywun gyda holl brofiad Lyn fedrai dynnu'r gorau allan o'r cymeriadau hyn.
“Cyflwynodd hanesion pobl wahanol inni, gan wybod yn reddfol sut i adrodd eu cadwyn o straeon.
“Diolch iddo am gyfraniad na chafwyd ei debyg yn hanes cyhoeddi Cymraeg.”
Ymhlith y toreth o lyfrau a ysgrifennwyd ganddo mae ei hunangofiant Cae Marged, Meini Llafar sy’n portreadu nifer o gymeriadau ardal Pontrhydfendigaid ac fe gyd-ysgrifennodd hunangofiannau Dai Jones, Charles Arch a Dic y Fet.
Mae hefyd wrth gwrs yn wyneb ac yn lais cyfarwydd sydd wedi adrodd storis sawl un ar y teledu a’r radio dros y blynyddoedd.
Mae ei gyfrol ddiweddaraf Cerddi’r Ystrad (Barddas) ar werth yn y siopau nawr.
Mae Cwlwm Cyhoeddi Cymru yn gorff sydd yn cynrychioli cyhoeddwyr llyfrau a deunyddiau Cymraeg