MAE’R cyfnod ym mis Ionawr yn un ble gwelwn yr arferiad o’r Fari Lwyd yn digwydd mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Yn y pymtheg mlynedd diwethaf mae wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad blynyddol yn Ninas Mawddwy. Cafwyd cyflwyniad am y Fari gan Mair Tomos Ifans yn Nhy Siamas, Dolgellau am yr ail dro – gan adrodd ar gefndir y traddodiad ac egluro beth oedd y prif nodweddion. Daeth â phenglog ceffyl gyda hi gan ddangos sut roedd y Fari yn cael ei addurno. Cafwyd cymorth Arfon Hughes a ddaeth a Fari Lwyd Dinas Mawddwy yn ogystal – felly dwy Fari ar un noson! Wedyn eglurodd yr arfer o sgwennu penillion – y merched a’r dynion – a gosododd y dasg i’r gynulleidfa sgwennu ambell i bennill ar y noson. Cafwyd lot o sbort yn gwneud hynny, gyda sawl un yn Nhy Siamas yn destun y pennillion! Er i’r merched lwyddo i gadw’r Fari allan am gyfnod hir, yn y diwedd gwahoddwyd y dynion mewn i’r bar i ymuno.Cafwyd noson llawn hwyl, gan ddysgu mwy am y traddodiad. Bydd y Fari Lwyd yn y Brigands, y Buckley Arms ac y Llew Coch yn Dinas Mawddwy nos Sadwrn, 16 Ionawr.

Uchod chwith: Rhai o ‘r criw a gymrodd ran yn y Fari Lwyd; dde, Mair Thomos Ifans ac Arfon Hughes