Madam,

Llythyr agored i sylw cynghorwyr Gwynedd.

Dydyn ni ddim yn arfer ysgrifennu llythyrau i’r wasg, ond mae’r hyn sydd ar droed gennych parthed torri cymorthdaliadau i rai o sefydliadau’r trydydd sector yng Ngwynedd wedi’n cythruddo.

Sôn yr ydym, fel y gwyddoch am y toriadau i sefydliadau gwirfoddol fel y mudiad Ffermwyr Ifanc a’r Urdd.

Rydym yn ysgrifennu hwn fel dau o arweinyddion Clwb Ffermwyr Ifanc Glannau Tegid, sy’n un o Glybiau Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Meirionnydd ond rydym yn sicr ein bod yn lleisio barn aelodau pob clwb ym Meirionnydd.

Tybed pam mai’r sector yma sy’n cael toriadau o 100 y cant yn eu grant?

Pa wasanaeth fyddai’n fodlon derbyn 100 y cant o doriad yn ei gyllideb? Yr ateb, fel y gwyddoch yw dim un. Ac eto rydych chi gynghorwyr yn barod i wneud toriadau i’r union fudiadau ieuenctid gwirfoddol.

Rydych chi gynghorwyr Gwynedd yn barod ac yn fodlon i wneud toriadau i fudiadau sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a hynny mewn adeg pan mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Gwyddom fod gan Gyngor Gwynedd Siarter Iaith, ond dyma ichi fudiadau sy’n cyflawni gofynion y Siarter Iaith a hynny yn gwbl wirfoddol.

Ydi ychydig dros £20,000 y flwyddyn fel cymhorthdal i CFfI Meirionnydd yn ormod i’w ofyn am y gwaith a wneir?

Mae hynny yn llawer llai na chyflog un gweithiwr cyflogedig. Rydych chi gynghorwyr Gwynedd yn barod ac yn fodlon i dorri cymhorthdal i fudiadau ieuenctid y sir, yr union rai sydd wrthi’n ddyfal yn cynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant, o weithgareddau adloniannol ac addysgol, heb sôn am ddysgu sgiliau, ac onid rhain fydd dinasyddion y dyfodol?

Pan fyddwn yn gwrthwynebu’r bwriad o wneud y toriadau cignoeth yma, beth ydi ateb eich arweinwyr? “O mae digon o ruddin yn y Ffermwyr Ifanc i allu dygymod â’r toriadau!”

Pa ateb ydi hwnnw? “Ewch,” medden nhw, “â’ch cap yn eich llaw at ddiwydiant ac at gwmnïau i ofyn am arian.

“Mi fyddan nhw yn barod iawn i’ch cynorthwyo!

“Ewch at y diwydiant amaethyddol, mae ganddyn nhw ddigon o fodd i wneud iawn am yr hyn nad ydyn ni yn barod i’w wneud!”

Wel gadewch imi ddweud wrthoch chi, mae ffermwyr unigol wedi bod yn gefn mawr i fudiad y Ffermwyr Ifanc a’r Urdd erioed, a diolch amdanynt.

Fe wyr y rhai fu wrthi’n casglu arian i’r Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac i’r Sioe Frenhinol pa mor brin yw cwmnïau a diwydiannau sylweddol ym Meirionnydd.

Tybed a fydd yna ddigon o gynghorwyr Gwynedd a fyddai’n barod i wrthwynebu’r toriadau hyn i’r mudiadau gwirfoddol? Mi hoffem feddwl y bydd.

Yn gywir,

Alun a Rhian Puw, Llanuwchllyn.

Rhywbeth ar eich meddwl? Ebostiwch [email protected]